Rhaglenni newydd Spring yn cael eu datblygu i helpu rhagor o bobl ag anhwylder straen ôl-drawmatig

Ein therapi ar-lein dan arweiniad ar gyfer anhwylder straen ôl-drawmatig. Mae Spring yn cael ei addasu ar gyfer pobl sy’n colli golwg.

A close up image of two young people's eyes.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod Rhaglen PTSD Spring, sef therapi ar-lein ar gyfer anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) sy’n cael ei ddefnyddio yn GIG Cymru, yn cael ei addasu i bobl sydd wedi colli eu golwg.

Datblygwyd gan ymchwilwyr arobryn

Cafodd rhaglen PTSD Spring ei datblygu gan ymchwilwyr arobryn yma yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’r therapi digidol tywysedig sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cyfuno therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ag arweiniad rheolaidd gan therapydd.

Mae rhaglen PTSD Spring wedi cael ei defnyddio’n rheolaidd mewn gwasanaethau clinigol ledled GIG Cymru, fel y tynnwyd sylw ati yn y cyfnodolyn European Journal of Psychotraumatology.

Bydd fersiwn newydd Spring yn helpu pobl sydd wedi colli golwg

Cafodd y therapi ei addasu ar gyfer grwpiau gwahanol y mae PTSD yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys cyn-filwyr milwrol, ac mae’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr yn ei ariannu.

Cafodd ei dreialu gydag un ar ddeg o gyn-filwyr milwrol sydd â phrofiad bywyd o PTSD a chafwyd canlyniadau addawol.

Dyma a ddywedodd Dr Catrin Lewis, Uwch-gymrawd Ymchwil yn NCMH. Nod rhaglen Spring yw:

“…cefnogi ystod ehangach o bobl y mae trawma yn effeithio arnyn nhw a sicrhau bod triniaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn fwy hygyrch, yn fwy cynhwysol a bod modd ei hehangu’n raddol.”

Gyda’r nod hwn, mae fersiwn newydd sbon rhaglen PTSD Spring bellach yn cael ei datblygu ar gyfer pobl sydd wedi colli golwg, ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Gwasanaethau’r Golwg (CVSR), a ariennir hefyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Gyda’i gilydd, mae’r ddwy Ganolfan yn gweithio ar hyn o bryd i ddeall sut mae’n rhaid addasu’r rhaglen i gefnogi pobl sydd wedi colli golwg ac wedi profi trawma a PTSD.

Edrychwn ymlaen at roi rhagor o wybodaeth wrth i’r rhaglen gael ei datblygu.