Tîm NCMH yn ennill gwobr Arloesi ac Effaith am drawsnewid gofal trawma

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein tîm Datblygu Ymyriadau wedi cael ei gydnabod am ail-siapio sut mae cyflyrau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma yn cael eu trin, trwy ennill gwobr Arloesi ac Effaith yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.