Croeso a diolch am eich diddordeb mewn cydweithio â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (y Ganolfan).
Trwy weithio gyda ni bydd cyfle gennych i gael mynediad at ddata cyfranogwyr a samplau biolegol i ateb eich cwestiynau ymchwil, cynyddu nifer y gweithwyr rydych yn eu recriwtio drwy Gymuned Ymchwil y Ganolfan a sianeli cyfathrebu’r Ganolfan, a chymorth cyfathrebu arall.
Gallwn hefyd gefnogi gyda chasglu samplau, rhoi cyngor ar gymwysiadau moeseg, cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, a dylunio a gweithredu arolygon.

Nod y Ganolfan yw gwella ein dealltwriaeth o sbardunau ac achosion problemau iechyd meddwl, a helpu i wella prosesau atal, canfod cynnar, cymorth a thriniaeth i filiynau o bobl yr effeithir arnynt gan salwch meddwl. I ddarllen mwy am ein hamcanion gweler Atodiad A.
Er mwyn cyflawni ein hamcanion, sefydlwyd Cymuned Ymchwil y Ganolfan yn 2011 fel astudiaeth ymchwil a gymeradwywyd yn foesegol i recriwtio unigolion â hanes o salwch meddwl, anhwylderau datblygiadol neu anabledd dysgu gan greu platfform seilwaith i gefnogi ymchwil bellach.
Gyda chydsyniad, gellir rhannu data a samplau â phrosiectau cydweithredol cymeradwy, a gellir gwahodd aelodau o Gymuned Ymchwil y Ganolfan i gymryd rhan mewn cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol. Gellir sefydlu prosiectau cydweithredol gydag ymchwilwyr o fewn Prifysgol Caerdydd ac mewn sefydliadau allanol, gan gynnwys cwmnïau masnachol a’r rhai y tu allan i’r DU.
Mae’r mwyafrif o gyfranogwyr y Ganolfan yn cydsynio i gael cysylltiad â hwy ynghylch cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol a rhannu eu data a’u samplau ag astudiaethau ymchwil cysylltiedig, sydd wedi’u cymeradwyo’n foesegol.
Ers ei sefydlu, mae’r Ganolfan wedi recriwtio mwy na 36,000 o gyfranogwyr i Gymuned Ymchwil y Ganolfan, wedi cynnal dros 70 o astudiaethau gwahanol, ac wedi casglu mwy na 60,000 o newidynnau ar draws ein hastudiaethau gwahanol.
Ffyrdd o gydweithio
Dyma restr o’r mathau cyffredin o gydweithio, cliciwch ar y penawdau i gael rhagor o wybodaeth.
Os hoffech archwilio unrhyw beth nad yw wedi’i restru, cysylltwch â ni: ncmhdata@caerdydd.ac.uk.
Recriwtio
Gall y Ganolfan gefnogi eich gwaith recriwtio drwy’r canlynol:
- Anfon gwahoddiadau ymchwil a ffurflenni mynegi diddordeb at gymuned ymchwil y Ganolfan. Gellir dod o hyd i dempled yma. Rhaid i Hysbysiad Preifatrwydd gyd-fynd â phob ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
- Recriwtio i’r GIG – mewn rhai achosion efallai y byddwn yn gallu cefnogi’r broses recriwtio drwy wasanaethau’r GIG.
- Hyrwyddo eich astudiaeth drwy gyfryngau a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Ganolfan.
Gellir targedu ymgyrchoedd hyrwyddo yn seiliedig ar feini prawf cymhwysedd neu fel recriwtio cyffredinol.
Cymorth Cyfathrebu
Mae gennym dîm cyfathrebu ymroddedig i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo ymchwil a digwyddiadau.
- Datblygu tudalennau gwe.
- Cydlynu digwyddiadau – wyneb yn wyneb neu ar-lein.
- Dylunio deunyddiau printiedig a digidol.
- Newyddion a phostiadau blog.
- Negeseuon e-bost.
- Defnyddio ein cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich astudiaeth.
Mynediad i ddata a samplau’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Pan fo cydsyniad wedi’i roi, efallai y byddwn yn gallu rhannu’r canlynol mewn fformat dienw. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn yn union a allai fod ar gael ar gyfer eich prosiect neu os oes unrhyw beth heb ei gynnwys yma:
- Data ffenoteipaidd (e.e. arolygon, asesiadau, demograffeg, graddfeydd safonol).
- Data genoteipaidd (e.e. data genetig wedi’u priodoli neu eu dilyniannu ar gyfran o’r cyfranogwyr).
- Samplau DNA: Mae rhai samplau DNA cyfranogwyr a nifer fach o samplau RNA ar gael. Cysylltwch â ni i drafod.
Gweler geiriadur data’r Ganolfan ar ein gwefan am y newidynnau ffenoeipaidd a gasglwyd hyd yn hyn.
Cymorth gyda chasglu samplau biolegol
- Casglu samplau.
- Storio a churadu posibl o samplau biolegol.
- Cydlynu’r gwaith o echdynnu DNA, genoteipio, dilyniannu.
- Genoteipio DNA (oddi ar y safle).
- Canllawiau ar gydymffurfedd â HTA, moeseg a chydsynio.
- Canllawiau ar arferion gorau a phrosesau.
Dylunio a gweithredu arolwg newydd
Gall y Ganolfan gefnogi gyda’r canlynol:
- Datblygu cynnwys arolwg (e.e. cwestiynau arolwg, byrddau stori).
- Dylunio, creu a chynnal arolygon ar blatfform arolygon, sef REDCap.
- Cymorth hirdymor fel prosesu data, arolygon dilynol ac addasiadau i gwestiynau arolwg sy’n bodoli eisoes.
Cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd (PPIE)
Mae gan y Ganolfan hanes cryf o weithio gyda chleifion, gofalwyr, y rhai sydd â phrofiad bywyd a’r cyhoedd ehangach i lunio pob agwedd ar ein hymchwil. Mae ein grwpiau cynghori cyhoeddus yn cynnwys Partneriaeth mewn Ymchwil (PÂR), y Grŵp Cynghori Ieuenctid, a’r Grŵp Cynghori ar Straen Trawmatig. Mae gennym ni hefyd dîm o Hyrwyddwyr Ymchwil sy’n angerddol am rannu eu straeon. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Gall y Ganolfan gynnig y canlynol:
- Cyd-greu arolwg gydag Aelodau’r grŵp cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd.
- Adolygiad gan aelodau’r grŵp cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd o ddogfennau, e.e. arolwg, dogfennau sy’n wynebu cyfranogwyr neu gynlluniau prosiectau.
- Helpu i lunio cynlluniau cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd.
- Mireinio cwestiynau ymchwil:
- Recriwtio Aelodau cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd o gymuned ymchwil y Ganolfan. Trefnu digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd ag Aelodau cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd.
Cymorth gyda Moeseg Ymchwil
Gall Arweinydd Moeseg y Ganolfan ddarparu cyfarwyddyd a chymorth arbenigol ar y canlynol:
- Cynghori ar ofynion moesegol eich astudiaeth.
- Cynghori ar wybodaeth sy’n wynebu cyfranogwyr.
- Paratoi a chyflwyno addasiadau i’r Pwyllgor Moeseg Ymchwil i’w cymeradwyo.
- Cysylltu â thimau Ymchwil a Datblygu’r GIG i sefydlu recriwtio i’r GIG.
Model adfer costau
Mae’r Ganolfan yn ganolfan seilwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae’n gweithio ar fodel adfer costau i ystyried amser staff seilwaith, adnoddau a chostau gweithredol y Ganolfan i gefnogi cydweithrediadau.
Mae’r cyllid a gafwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ein galluogi i gynnal model gweithredol i ategu rhagoriaeth seilwaith ymchwil, adeiladu màs critigol mewn meysydd allweddol a pharhau i fod yn gystadleuol ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.
Er mwyn gweithredu modelau adfer costau, byddwn yn cydweithio’n agos â’n cydweithwyr i allu talu staff seilwaith y Ganolfan (cyfran o’u hamser) i helpu gyda phrosiectau cydweithio.
Bydd costau’n cael eu trafod â chi yn dilyn cais i’r Ganolfan.
Cymhwysedd a gofynion ar gyfer cydweithio â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Mae’n ofynnol i ymchwilwyr sy’n datblygu prosiect cydweithredol gan ddefnyddio Cymuned Ymchwil y Ganolfan gwblhau cais byr yn amlinellu’r prosiect arfaethedig.
Mae angen i ni gofnodi gwybodaeth am bob prosiect gan ddefnyddio Cymuned Ymchwil y Ganolfan er mwyn:
- Sicrhau ein bod yn ymgymryd â gwaith sy’n bodloni’r amcanion a amlinellir yn ein cais moeseg.
- Sicrhau ein bod yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn ein cais moeseg.
- Sicrhau nad ydym yn ailadrodd ymchwil.
- Sicrhau ein bod yn rheoli’r llwyth gwaith a neilltuir i’n cyfranogwyr yn briodol.
- Sicrhau bod y gwaith wedi’i gostio’n ddigonol.
- Cofnodi gweithgarwch i’w adrodd i’n cyllidwr (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru).
Bydd angen i ymchwilwyr ddangos yn eu cais sut mae’r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd ag un, neu ragor, o nodau’r Ganolfan [gweler Atodiad A am eiriad y nodau. Noder: ni ddylid cynnwys yr Atodiad ar y dudalen we] ac a yw’r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â chylch gwaith y gymeradwyaeth foesegol gyfredol.
Rhaid i’r prosiect arfaethedig gael y cymeradwyaethau moesegol a rheoleiddiol perthnasol; gall y rhain fod ar y gweill ar adeg y cais. Byddwn yn gofyn am gopi o lythyr(au) cymeradwyo cyn dechrau’r prosiect.
Cysylltwch â Thîm Data’r Ganolfan (ncmhdata@caerdydd.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r uchod.
Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb
Ar gyfer prosiectau sy’n bwriadu hysbysebu i Gymuned Ymchwil y Ganolfan, bydd y Ganolfan yn anfon neges e-bost gyda ffurflen Datganiad o Ddiddordeb at aelodau’r gymuned yn seiliedig ar eich meini prawf cynnwys ac eithrio. Gallwn anfon hyd at ddau nodyn atgoffa.
Hysbysiad preifatrwydd y Datganiad o Ddiddordeb
Rhaid i Hysbysiad Preifatrwydd gyd-fynd â phob ffurflen Datganiad o Ddiddordeb. Mae gennym dempled Hysbysiad Preifatrwydd gyda chyfarwyddiadau ar sut i ddiwygio hwn ar gyfer eich astudiaeth. Ar gyfer prosiectau y tu allan i Brifysgol Caerdydd, gallwch ddefnyddio eich templed eich hun.
Dylid storio’r Hysbysiad Preifatrwydd fel tudalen we hygyrch gyda dolen wedi’i chynnwys ar y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Preifatrwydd neu unrhyw broblemau o ran ei gynnal ar dudalen we.
Cytundebau
Yn dibynnu ar natur y cydweithrediad, efallai y bydd angen cwblhau a llofnodi amryw o gytundebau, contractau a pholisïau, e.e. Cytundeb Trosglwyddo Data, Cytundeb Trosglwyddo Deunyddiau, Polisi Rhannu’r Ganolfan, Cytundeb Cydweithio. Trafodir y rhain ar ôl y cais cychwynnol.
Adrodd
Yn unol â’n cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae angen i ni adrodd ar bob gweithgaredd sy’n gysylltiedig â’r Ganolfan. Felly, byddem yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol, fel y bo’n briodol:
- Cyflawniadau arwyddocaol ac uchafbwyntiau o’r cydweithrediad.
- Ceisiadau a dyfarniadau grant o ddefnyddio data neu gymorth seilwaith y Ganolfan.
- Nifer y cyhoeddiadau a ddefnyddiodd ddata neu samplau’r Ganolfan.
- Symud gwybodaeth ac ymgysylltu â pholisi.
- Postiadau blog, podlediadau, fideos a gynhyrchwyd neu a gyfrannwyd atynt.
- Digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd neu a gyfrannwyd atynt..
Y camau nesaf
Cwblhewch ffurflen gais Prosiectau Cydweithredol y Ganolfan a byddwn yn cysylltu â chi o fewn tair wythnos i drafod ymhellach.
Mae’r holl dempledi a dogfennau canllaw i’w gweld ar y dolenni isod:
- Geiriadur Data Meistr
- Templed Datganiad o Ddiddordeb
- Templed Hysbysiad Preifatrwydd Datganiad o Ddiddordeb a Chanllawiau Datganiad o Ddiddordeb
- Prosiectau cydweithredol y Ganolfan: Polisi Rhannu
- Protocol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb mewn cydweithio â’r Ganolfan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cyfarwyddyd pellach arnoch, cysylltwch â’r Ganolfan.
Tîm Data’r Ganolfan
ncmhdata@caerdydd.ac.uk
Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Prifysgol Caerdydd
Adeilad Hadyn Ellis
Heol Maindy
Caerdydd
CF24 4HQ
Atodiad A
Nodau’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Mae tri nod cyffredinol:
- Hyrwyddo ymchwil iechyd meddwl ac anabledd dysgu yng Nghymru – gan gefnogi meysydd presennol a datblygu meysydd newydd o ragoriaeth ymchwil.
- Ymgysylltu â chleifion, eu teuluoedd, y cyhoedd ehangach a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru i wella eu dealltwriaeth o salwch meddwl a’r angen am ymchwil
- Newid diwylliant ymchwil y GIG yng Nghymru, gyda’r nod yn y pen draw o sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn gweld ymchwil fel gweithgarwch craidd a bod pob unigolyn sy’n cael mynediad at ofal yn cael ei wahodd i gymryd rhan mewn ymchwil.
Nodau penodol:
- Deall achosion, sbardunau ac addaswyr cwrs anhwylderau meddwl yn well.
- Archwilio’r gorgyffwrdd rhwng ffactorau risg ar draws ffiniau diagnostig traddodiadol.
- Archwilio rhagfynegwyr canlyniad.
- Archwilio cwrs datblygiadol anhwylderau meddwl dros gwrs bywyd.
- Archwilio cydafiachedd salwch meddwl a chorfforol.
- Deall y rhyngweithio rhwng cwsg a tharfu ar y rhythm circadaidd ac iechyd meddwl dros amser.
- Deall y berthynas rhwng swyddogaeth wybyddol ac iechyd meddwl.
- Deall gwybodaeth, canfyddiadau a phrofiad unigolion o wasanaethau ac ymchwil iechyd meddwl yn well. Gall hyn gyfrannu at ddatblygu a gwella gwasanaethau, at wasanaethau ac ymchwil sy’n canolbwyntio ar y claf, ac at strategaethau ymgysylltu mwy ystyrlon a chynhwysol.

