Digwyddiad cydweithredol yn tynnu sylw at bwysigrwydd lleisiau profiad bywyd mewn ymchwil

Cynhaliodd Hwb yr Ymennydd a Genomeg ddigwyddiad profiad bywyd ym Mhrifysgol Caerdydd y mis hwn. Daeth y digwyddiad â chyfranogwyr o astudiaeth flaenllaw’r Hwb ar Anhwylder Deubegwn, Sgitsoffrenia a Seicosis (B-SPRINT) ac ymchwilwyr sy’n gweithio i wella dealltwriaeth o gyflyrau iechyd meddwl difrifol at ei gilydd.