Cynlluniwyd y digwyddiad i sicrhau bod ystod eang o bobl â phrofiad bywyd yn parhau i ddylanwadu’n uniongyrchol ar gyfeiriad ymchwil yr Hwb a helpu i lunio astudiaethau yn y dyfodol. Un o egwyddorion craidd Hwb yr Ymennydd a Genomeg yw y dylai’r ymchwil gael ei llywio gan y rhai y mae’r cyflyrau sy’n cael eu hastudio yn effeithio fwyaf arnynt.
Trefnwyd y digwyddiad gan Dr Sophie Legge, yr Athro Tania Gergel, Georgia Dash, ac Olivia Hadfield.
Ochr yn ochr ag arweinwyr ymchwil yr Hwb ac aelodau o’r Panel Cynghori Profiad Bywydarbenigol, gwahoddwyd cyfranogwyr yr astudiaeth i rannu eu safbwyntiau ar amrywiaeth o brosiectau gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yr Hwb. Mae’r prosiectau’n archwilio amrywiaeth o feysydd sy’n ymwneud â sgitsoffrenia, anhwylder sgitso-affeithiol, anhwylder deubegwn a seicosis.
Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Neil Harrison, cyd-arweinydd ymchwil Hwb yr Ymennydd a Genomeg, gan groesawu gwesteion i’r gweithdy prynhawn a gynhaliwyd yn adeilad sbarc | spark. Diolchodd yr Athro Harrison i bawb am ddod ac am eu mewnbwn parhaus sy’n gwneud gwahaniaeth hanfodol i’r ffordd mae tîm yr Hwb yn llunio eu gwaith.
Yna arweiniodd yr Athro Tania Gergel, arweinydd cynnwys y cyhoedd yn yr Hwb, y sesiwn ddwyawr. Esboniodd yr Athro Gergel drefn y prynhawn a phwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio ystyrlon rhwng ymchwilwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd.
“Caiff ymchwil ei thrawsnewid gan bobl sy’n byw gyda’r cyflyrau rydyn ni’n eu hastudio.
“Mae cyfranogwyr yr astudiaethau ac arbenigwyr profiad bywyd yn ein helpu i greu cymuned ymchwil sy’n cyfrannu, yn llunio ac yn gweithio mewn partneriaeth â’r ymdrechion yma yn yr Hwb, gyda chefnogaeth ein partneriaid elusennol, Adferiad a Bipolar UK.
“Mae gen i anhwylder deubegwn ac rwy’n rhan o dîm arweinyddiaeth yr Hwb, sy’n dangos sut mae profiad bywyd wedi’i wreiddio ar draws yr Hwb ar bob lefel.
“Mae cydweithrediad parhaus yr Hwb gydag ystod eang o arbenigwyr profiad bywyd yn arbennig o ddefnyddiol i ymchwilwyr gyrfa gynnar wrth ddatblygu syniadau cynnar yn eu prosiectau ymchwil PhD eu hunain.”
Arddangos ymchwil gyrfa gynnar
Drwy gydol y prynhawn, cyflwynodd chwe ymchwilydd gyrfa gynnar o’r Hwb eu gwaith a gwahodd adborth gan y gwrandawyr ar gwestiynau allweddol sy’n berthnasol i’w prosiectau.
Trafododd Olivia Hadfield sut y bydd ei phrosiect yn defnyddio’r ystod eang o ddata a gasglwyd yn rhan o B-SPRINT i nodi grwpiau o bobl sy’n debyg yn fiolegol er bod ganddynt ddiagnosis iechyd meddwl gwahanol. Gallai hyn helpu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddosbarthu cyflyrau iechyd meddwl a datblygu triniaethau gwell.
Trafododd Lowri Evans ei phrosiect sy’n anelu at ganfod a all edrych ar batrymau symptomau a rennir, yn hytrach na diagnosis yn unig, ragweld yn well sut mae cyflwr person yn datblygu a pha driniaeth a allai helpu.
Rhannodd Dr Cameron Watson ei ymchwil sy’n archwilio anawsterau gwybyddol, gan gynnwys problemau gyda chof a sylw, mewn pobl sy’n profi seicosis. Gan ddefnyddio data clinigol hirdymor, mae’n archwilio gwybyddiaeth y tro cyntaf i rywun brofi seicosis a sut mae’n newid dros y blynyddoedd dilynol. Bydd hyn yn canfod ffactorau a allai helpu i amddiffyn neu wella gwybyddiaeth dros amser.

Ymchwilwyr gyrfa gynnar Hwb yr Ymennydd a Genomeg a’r Athro Tania Gergel (o’r chwith i’r dde: Dr Cameron Watson, Lowri Evans, yr Athro Gergel, Soumita Ramesh, Olivia Hadfield, Regan Mills a Lainya Knopik
Mae ymchwil Regan Mills yn archwilio gweithgaredd o fewn y striatwm, rhan o’r ymennydd sy’n ymwneud â chymhelliant, dysgu a gwneud penderfyniadau. Mae degawdau o ymchwil yn dangos bod gweithgaredd ymennydd striatal yn cael ei newid mewn seicosis, ond dydyn ni ddim eto’n gwybod sut mae’r newidiadau hyn yn gysylltiedig â symptomau ac ymatebion i driniaeth mewn gwahanol bobl. Bydd y prosiect yn defnyddio model dysgu peirianyddol i benderfynu a all patrymau gweithgaredd yr ymennydd helpu i ragweld symptomau, ymateb i driniaeth a risg seicosis.
Cyflwynodd Soumita Ramesh waith yn archwilio sut y caiff haearn ei reoleiddio yn yr ymennydd mewn sgitsoffrenia, anhwylder sgitso-affeithiol ac anhwylder deubegwn. Gan ddefnyddio technegau MRI uwch, bydd yr ymchwil yn edrych a yw gwahaniaethau mewn lefelau haearn yn yr ymennydd yn gysylltiedig â symptomau, gwybyddiaeth a llwybrau salwch hirdymor. Yn y dyfodol, gallai hyn wella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd ym mioleg yr ymennydd a allai gyfrannu at yr anhwylderau hyn.
Cyflwynodd Lainya Knopik brosiect sy’n defnyddio math newydd o dechnoleg sganio’r ymennydd (MEG) i astudio anhwylder meddwl ffurfiol, symptom a nodweddir gan feddwl a lleferydd anhrefnus. Nod yr ymchwil yw nodi marcwyr biolegol a allai wella diagnosis a dealltwriaeth o’r profiadau hyn.
Dywedodd tîm ymchwil gyrfa gynnar yr Hwb: “Cawsom brynhawn diddorol ac roedden ni’n gwerthfawrogi’r sgyrsiau defnyddiol gyda’r gwrandawyr yn fawr.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu gonestrwydd ac am ymgysylltu â’r trafodaethau ar y prosiectau – mae wedi rhoi llawer i ni feddwl amdano ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â chynghorwyr cyhoeddus yr Hwb dros y misoedd nesaf wrth i’r prosiectau ddatblygu.”
Gwerth safbwyntiau profiad bywyd
Wrth gloi, dywedodd yr Athro Gergel: “Dangosodd y digwyddiad hwn bwysigrwydd cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd drwy gydol y broses ymchwil.
“Drwy gydweithio a chreu cyfleoedd i gyfranogwyr yn yr astudiaethau ddod yn rhan o’r tîm ymchwil ehangach, gall ymchwilwyr ddeall yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu’n well, nodi blaenoriaethau ar gyfer astudiaethau yn y dyfodol a helpu i sicrhau bod ymchwil yn arwain at welliannau ystyrlon mewn gofal a chymorth.
“Hoffem ddiolch i bawb a ddaeth ac a rannodd eu profiadau, eu safbwyntiau a’u harbenigedd yn hael. Bydd eu cyfraniadau’n elfen bwysig wrth lunio cyfeiriad ymchwil yn y dyfodol yn Hwb yr Ymennydd a Genomeg.”
Cymryd ran yn yr ymchwil
Mae Hwb yr Ymennydd a Genomeg yn meithrin cymuned o 600 o bobl i wella triniaeth a gofal i bobl sy’n byw gydag anhwylder deubegwn, seicosis, sgitsoffrenia ac anhwylder sgitso-affeithiol.
I gymryd rhan, byddwch yn ymweld â thîm yr Hwb yng Nghaerdydd ac yn derbyn £120 ar ôl cwblhau’r astudiaeth.
Os ydych chi wedi profi unrhyw un o’r cyflyrau hyn, ewch i wefan Hwb yr Ymennydd a Genomeg i gael gwybod mwy.

