Mae’r effaith ar iechyd meddwl i fenywod wrth iddynt deithio trwy eu cylch atgenhedlu yn faes ymchwil nad oes ganddo ddigon o adnoddau. Mae gwaith ymchwil yr Athro Ian Jones a Dr Arianna Di Florio wedi ceisio mynd i’r afael â hyn.
Adroddiad Bipolar UK: Mae 56% o bobl ag anhwylder deubegynol yn y DU heb ddiagnosis
Mae Bipolar UK wedi amcangyfrif bod y rhan fwyaf o bobl sy’n byw gydag anhwylder deubegynol yn y DU yn mynd heb ddiagnosis. Mae’r elusen wedi creu deiseb i helpu i roi llais i’r achosion hynny sydd heb ddiagnosis, fel yr ysgrifenna’r Prif Swyddog Gweithredol Simon Kitchen.
Sut yr arweiniodd chwalfa fel oedolyn at ddiagnosis o ADHD
Cafodd Mark ddiagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn dilyn moment allweddol yn ei fywyd fel oedolyn. Dywed wrthym am ei ddiagnosis a pham ei fod yn bwysig.
Astudiaeth newydd yn ceisio cipio profiadau mamau newydd
Rydym yn gweithio i geisio deall effaith profiadau bywyd gwahanol ar les corfforol a meddyliol mamol yn ystod y cyfnod amenedigol.
Fy anhwylder cymhleth a hynt y gwella
Diwrnod Ymwybyddiaeth o Anhwylder Straen ar ôl Trawma yw heddiw. Michael sy’n sôn am ei brofiad o’r anhwylder a sut mae’n ymdopi ag e.
PMDD: deall cyflwr sy’n cael ei anwybyddu
Fel un sydd wedi cwblhau Gradd Meistr yn ddiweddar ac sydd wedi astudio Seicoleg ers lefel TGAU, roeddwn i’n synnu pan gychwynnais yn swydd Cynorthwy-ydd Seicoleg yn NCMH, gan fy mod yn ymchwilio i Anhwylder Hwyliau nad oeddwn wedi clywed amdano erioed.
Cymorth iechyd meddwl am weithwyr y GIG yng Nghymru
Rydym yn falch o roi gwybod bod Iechyd i Weithwyr Proffesiynol Cymru (HHP Cymru), gwasanaeth cymorth i bob aelod staff GIG yng Nghymru, wedi ymuno ag Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’n bryd siarad am leihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr sy’n effeithio ar oddeutu un o bob 20 plentyn yn y DU, ac mae’n datblygu ar ddechrau plentyndod yn aml.
Astudio effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl
Rydym ni’n yn ceisio cynnig gwell dealltwriaeth o effaith COVID-19 ar ein lles, yn enwedig i bobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn eu bywydau.