Ydych chi’n llunio cais am gyllid ar gyfer prosiect ymchwil iechyd meddwl? Peidiwch â cholli’r cyfle i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw yn eich prosiect.
Gwasanaeth geneteg cyntaf y DU i gefnogi cleifion a theuluoedd yn agor
Bydd pobl yng Nghymru y mae materion iechyd meddwl yn effeithio arnynt yn gallu elwa ar wasanaeth geneteg newydd sbon, a ddarperir drwy bartneriaeth â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, Gwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG, a chanolfannau ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Ble fydden ni heb ymchwil? Cyfarwyddwr NCMH yn ymddangos ar bodlediad newydd
Mae’r podlediad ‘Ble bydden ni heb ymchwil?’ gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymdoddi’n ddwfn i fyd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Mae’r Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMH, yn ymuno â’r gwesteiwr Dr Emma Yhnell ar y bennod ddiweddaraf.
Gallai cynyddu mynediad i driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin ymysg mamau gael buddiannau net o hanner biliwn o bunnoedd
Mae problemau iechyd meddwl mamau yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol. Gall effeithio ar gynifer ag un o bob pum menyw, a heb driniaeth, gall y problemau hyn gael effaith ddinistriol ar fenywod a’u teuluoedd.
Risg pellach, yn ystod cyfnod cyfyngiadau’r pandemig, i iechyd meddwl pobl oedd eisoes yn dioddef â salwch meddwl, yn ôl astudiaeth NCMH
Canfu’r papur, sydd bellach wedi’i gyhoeddi gan y British Journal of Psychiatry Open, fod 60% o’r cyfranogwyr wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Eglurodd y prif awdur Dr Katie Lewis: “Yn ein hastudiaeth o…
Dyw anhwylder deubegwn ddim yn ddedfryd oes
Bu Hyrwyddwr Ymchwil NCMH Steve yn sgwrsio â ni am ei brofiad o fyw gydag anhwylder deubegwn math II, gan drafod pynciau fel ei ddiagnosis, byw’n gadarnhaol gyda’r anhwylder a chipolwg ar ei fywyd teuluol.
5 ffactor a allai fod yn effeithio ar eich cwsg
Mae cysylltiad agos rhwng iechyd meddwl a chwsg. Ar ôl noson dda o gwsg, rydyn ni’n deffro’n teimlo’n adfywiol yn gorfforol ac yn feddyliol, ond gall noson wael o gwsg ein gadael ni’n teimlo’n ddioglyd yn gorfforol ac yn isel yn feddyliol.
Mae prosiect celf sy’n ymdrin â chyflyrau genetig prin yn lansio oriel ar-lein
Artistiaid a gwyddonwyr yn cydweithio i rannu straeon y gymuned cyflyrau genetig prin.
Anhwylder Datblygu Iaith yn yr ystafell ddosbarth: 10 peth rydw i wedi’u dysgu am yr anhwylder
Dyma Hannah yn rhannu ei phrofiad o gefnogi plant ag Anhwylder Datblygu Iaith ac yn esbonio pam mae gwybodaeth a dealltwriaeth well o’r cyflwr hwn yn hanfodol er mwyn helpu i wella lles plant, i’w galluogi i lwyddo o fewn yr ystafell ddosbarth yn ogystal â thu hwnt.
Byd mwy cysylltiedig yn rhoi cyfle gwell i ni ddeall iechyd meddwl
Bu cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, yr Athro James Walters, yn cymryd rhan fel panelydd yn Expo 2020 yn Dubai, yn trafod pa mor bwysig yw byd sydd wedi’i gysylltu’n ddigidol ar gyfer hybu ymchwil iechyd meddwl.










