Ar y bennod hon o bodlediad Piece of Mind, mae Dr Joanna Martin ac Ellie, Rheolwr Cyfathrebu NCMH, yn ymuno â hi i drafod ADHD mewn merched, menywod ifanc, a phobl ifanc anneuaidd.
Arddangos offer digidol i drin a gwneud diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl yn nigwyddiad y Llywodraeth
Gwahoddwyd ymchwilwyr NCMH i Lancaster House gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, a Rhwydwaith Arloesi Cymru (WIN) i ddangos yr offer digidol sy’n cael eu datblygu yn NCMH i drin a gwneud diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl penodol.
Gweminar: Seicosis a Sgitsoffrenia – Sut gall ymchwil wneud gwahaniaeth
I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth Sgitsoffrenia Cenedlaethol 2023 cynhaliom weminar a ddaeth ag ymchwilwyr o bob rhan o Brifysgol Caerdydd ynghyd i drafod eu hymchwil gyfredol i’r diagnosisau.
Colli plentyn ac ymlyniad oesol: Stori David Phillips
Ar ôl colli ei ferch, Anna Phillips, sefydlodd David elusen iechyd meddwl yn ei henw sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â thrawma.
Astudiaeth newydd: Anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)
Beth yw anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)? Mae anhwylder straen ôl-drawmatig, neu PTSD yn fyr, yn enw a roddir i set o symptomau sy’n gallu datblygu ar ôl profiad trawmatig iawn. Mae’r profiadau trawmatig hyn yn ddigwyddiadau ysgytwol neu frawychus nad…
Bipolar UK yn lansio canlyniadau Comisiwn Cymru ar yr Anhwylder Deubegynol gyda’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl
Ddydd Mawrth 6 Mehefin, daeth aelodau o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), Bipolar UK a’r cyhoedd at ei gilydd i lansio Comisiwn Cymru ar yr Anhwylder Deubegynol; gan roi sylw i nod Cymru i fod y wlad fwyaf cyfeillgar yn y byd o ran yr anhwylder deubegynol.
Astudiaeth Newydd: Merched yn Tyfu i Fyny ag ADHD
Nod yr astudiaeth hon gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yw nodi ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag ADHD sy’n fwy cyffredin ymhlith merched a menywod ifanc er mwyn llywio datblygiad adnodd asesu ADHD newydd, cynhwysol o ran rhywedd ar gyfer plant ysgol gynradd.
Bod yn gefn i bobl ifanc ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, o ran cael gwaith: Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) sy’n darganfod beth sy’n gweithio
Mae’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol (NCMH) wedi bod yn cydweithio ag Engage to Change, prosiect saith mlynedd o hyd sydd wedi darparu cymorth cyflogaeth i dros 1000 o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag anabledd dysgu neu awtistiaeth.
Seicosis ôl-enedigol: o ymchwil i adferiad
Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) weminar ar seicosis ôl-enedigol (PP), sef salwch meddwl yn dilyn rhoi genedigaeth gyda symptomau sy’n amrywio o rithwelediadau a rhithdybiau i mania, iselder neu ddryswch.
Chwalu’r stigma: gwneud iechyd mislif yn rhan o sgwrs bob dydd
Ym mis Ebrill 2023 ymunom ni â’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn-mislif (IAPMD) ar gyfer #PMDAwarenessMonth2023 i godi ymwybyddiaeth o anhwylderau cyn-mislif trwy ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau wyneb yn wyneb.