Angerdd cyffredin dros ddatblygu cefnogaeth a gofal sy’n seiliedig ar ymchwil

Ers blynyddoedd lawer, mae NCMH wedi bod yn datblygu ymchwil am iechyd meddwl ar raddfa fawr. Mae wedi dod â geneteg a mathau eraill o arbenigedd biolegol, arbenigedd cymdeithasol a seicolegol, data sy’n gysylltiedig â’r GIG, a safbwyntiau ar sail profiad byw ynghyd i helpu i atal problemau iechyd meddwl, eu hadnabod yn gynt, a gwella cefnogaeth a gofal drwy ei rhaglen Datblygu Ymyriadau.
Dywedodd yr Athro Jon Bisson, Cyfarwyddwr NCMH: “Mae NCMH wedi datblygu enw da rhyngwladol am ein hymchwil, yn enwedig ar ddatblygu rhaglenni triniaeth ddigidol ar gyfer cyflyrau sy’n gysylltiedig â thrawma. Mae hyn yn cynnwys y fersiwn ddiweddar o Spring ar gyfer pobl ag anhwylder galar hirfaith”.
Lansiwyd Canolfan GREAT yn 2025, ar ôl sawl blwyddyn o gael cyllid seilwaith gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, i gael gwell dealltwriaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a’i leihau drwy ymchwil, gwaith polisi ac arloesedd clinigol. Mae gwaith GREAT yn cyfuno arbrofion niwro-ymddygiadol, arolygon, a dulliau trosi clinigol er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ymddygiadau gamblo a’r mecanweithiau sy’n sail i niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
Mae’n rhan o Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Niwed Gamblo UKRI hefyd, ac mae’n cyfrannu at ymdrechion cenedlaethol i wella’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud â niwed gamblo a llywio polisïau ac arferion.
Marchnad gamblo sy’n esblygu a phatrymau risg
Mae’r datblygiadau ymchwil hyn yn digwydd yng nghyd-destun marchnad gamblo sy’n esblygu’n gyflym ac yn gwneud llawer o elw, lle mae technolegau digidol a mynediad ar-lein yn parhau i drawsnewid patrymau a risgiau niwed gamblo.
Dywedodd yr Athro Simon Dymond, Cyfarwyddwr Canolfan GREAT:
“Mae’n bleser gennym bod yn gysylltiedig yn ffurfiol â NCMH. Yn ogystal ag arwain y ffordd drwy ddarganfyddiadau ymchwil syfrdanol a datblygu ymyriadau clinigol newydd, mae NCMH bob amser wedi pwysleisio rôl allweddol profiad byw wrth ddeall iechyd meddwl yn well.

Yng Nghanolfan GREAT, profiad byw sydd wraidd yr hyn a wnawn, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â chydweithwyr o bob cwr o NCMH i ddyfnhau dealltwriaeth o’r niwed difrifol sy’n gysylltiedig â gamblo, a’i leihau.”
Mae Canolfan GREAT eisoes wedi dangos yr effaith y mae ei dull o gyd-greu yn gallu ei chael drwy ymgysylltu â Gwasanaeth Niwed Gamblo GIG Cymru sydd newydd ei sefydlu, ymhlith rhanddeiliaid a buddiolwyr eraill.
Sut byddwn ni’n cydweithio
Drwy’r cysylltiad newydd hwn, bydd NCMH a Chanolfan GREAT yn cydweithio ar draws sawl maes, gan gynnwys:
- Ymchwil epidemiolegol
- Datblygu ymyriadau i gynorthwyo gwaith canfod, atal a thrin
- Codi ymwybyddiaeth o effeithiau andwyol posibl gamblo
Daeth yr Athro Bisson i’r casgliad:
“Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio’n agosach gyda Chanolfan GREAT. Mae’n gyfle euraidd inni gyd-ddatblygu rhaglen ymchwil sy’n arwain at welliannau mewn iechyd meddwl a lles pobl y mae gamblo yn cael effaith andwyol arnyn nhw.”

