
Helpu gyda’n hymchwil i’r menopos ac iechyd meddwl
Ynglŷn â’r astudiaeth hon
Rydym yn ceisio deall mwy am achosion a sbardunau afiechyd meddwl a sut y gall y menopos effeithio ar hyn.
Fe’ch gwahoddir i gymryd rhan yn yr ymchwil hwn os ydych chi’n 35 oed neu’n hŷn ac wedi cael mislif. Nid oes angen i chi fod wedi profi salwch meddwl i gymryd rhan.
Os ydych yn penderfynu cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth i ni amdanoch chi eich hun, eich iechyd meddwl yn ystod eich cylch mislif, yn ystod y menopos ac yn ystod unrhyw feichiogrwydd i chi brofi/plant efallai y cawsoch er mwyn ein helpu i ateb y cwestiynau ymchwil pwysig hyn.
Rydym hefyd am nodi pobl a fyddai’n fodlon i ni gysylltu â nhw i gymryd rhan mewn rhagor o brosiectau ymchwil iechyd meddwl yn y dyfodol.
Mae angen i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan a’n helpu i wneud gwahaniaeth.
Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?
Mae cymryd rhan yn wirfoddol: eich dewis chi yw cofrestru ai peidio.
Os ymunwch â ni, gofynnir i chi a fyddech chi’n fodlon gwneud y canlynol:
- Rhoi eich manylion cyswllt i ni (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) a rhywfaint o wybodaeth bersonol (e.e. dyddiad geni, grŵp ethnig a statws cyflogaeth).
- Ateb rhai cwestiynau am afiechyd meddwl o amgylch y menopos a digwyddiadau atgenhedlu eraill y gallech fod wedi’u profi. Bydd hyn yn cymryd tua 20-30 munud.
- Caniatáu i ni gysylltu’r wybodaeth a ddarparwch â setiau data dienw a gesglir yn rheolaidd, fel y rhai a gedwir yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), er mwyn ateb cwestiynau ymchwil yn y dyfodol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Bydd y data o fewn unrhyw set ddata o’r fath yn gwbl ddienw ac ni fydd modd ei adnabod mewn unrhyw ffordd.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi yn y dyfodol ynglŷn â’r astudiaeth hon ac astudiaethau eraill y gallech fod eisiau cymryd rhan ynddynt. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth arnoch i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn y dyfodol.
- Caniatáu i ni gysylltu â chi bob chwech i ddeuddeg mis, i’ch gwahodd i roi rhagor o wybodaeth am eich iechyd meddwl, eich iechyd corfforol a’ch ffordd o fyw.
- Caniatáu i ni ledaenu gwybodaeth ddienw ymhlith ymchwilwyr eraill a chanddynt sêl bendith wyddonol a moesegol ynghylch y cwestiynau yr hoffen nhw i chi eu hateb.
Byddwn yn defnyddio eich atebion i wella ein dealltwriaeth o afiechyd meddwl a helpu i ddod o hyd i driniaethau gwell yn y dyfodol.
Unwaith y byddwch wedi ymuno, gallwch ddewis a ydych am gymryd rhan yn unrhyw un o’r holiaduron, astudiaethau neu ddigwyddiadau y byddwn yn dweud wrthych amdanynt pan fyddwn yn cysylltu â chi.
Cwestiynau cyffredin
Chwilio am ragor o wybodaeth yn gyntaf? Rydym wedi llunio atebion i rai cwestiynau cyffredin.
Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth yma?
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, sef canolfan ymchwil dan arweiniad prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor. Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yw’r Athro Jon Bisson.
Mae’r astudiaeth hon hefyd wedi derbyn cyllid ychwanegol gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, a ddyfarnwyd i’r Athro Arianna di Florio.
Ewch i wefan Prifysgol Caerdydd am ragor o wybodaeth.
Sut alla i ymuno â’r astudiaeth?
Bydd cyfle gennych i ymuno â’r astudiaeth ar ôl i chi ddarllen a deall yr wybodaeth.
Beth yw manteision posibl cymryd rhan?
Gobeithiwn y bydd dysgu mwy am afiechyd meddwl o amgylch y menopos yn arwain at ffyrdd newydd o wneud diagnosis o hyn, ei drin neu hyd yn oed ei atal.
Fodd bynnag, nod hirdymor yw hwn o hyd ac ni fyddwch yn manteisio’n uniongyrchol ar hyn o gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.
Beth yw’r anfanteision posibl o gymryd rhan?
Mae’r risgiau a’r anfanteision o gymryd rhan yn fach iawn.
Efallai y bydd rhai pobl yn cael trafferth ateb cwestiynau am eu hiechyd meddwl. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch gymryd seibiant neu roi’r gorau i’r astudiaeth yn gyfan gwbl.
Byddwch hefyd yn derbyn dolen i restr o sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gwrando, cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth am ddim.
Sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth amdanoch chi?
Bydd angen i ni ddefnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi ar gyfer y prosiect ymchwil hwn. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys eich enw a’ch manylion cyswllt.
Bydd pobl yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal yr ymchwil neu i wirio cofnodion i wneud yn siŵr fod y gwaith ymchwil yn cael ei wneud yn briodol. Ni fydd pobl nad oes angen iddynt wybod pwy ydych chi yn gallu gweld eich enw na’ch manylion cyswllt. Bydd gan eich data rif cod yn lle hynny.
Prifysgol Caerdydd yw noddwr a rheolydd data yr ymchwil hwn ac sy’n gyfrifol am ofalu am eich gwybodaeth. Byddwn ni’n cadw’r holl wybodaeth amdanoch chi yn ddiogel drwy wneud y canlynol:
- sicrhau mai dim ond aelodau o’r tîm ymchwil sydd wedi llofnodi cytundebau cyfrinachedd fydd yn cael mynediad at ddata adnabyddadwy
- byddwn yn dilyn rheolau Deddf Diogelu Data (2018) a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)
Efallai y byddwn yn rhannu data amdanoch chi y tu allan i’r DU neu gyda phartneriaid masnachol dibynadwy at ddibenion sy’n gysylltiedig ag ymchwil er mwyn:
- gwneud y mwyaf o botensial eich data i ateb cwestiynau ymchwil cysylltiedig. Dim ond mewn ymchwil sydd â’r nod yn y pen draw o helpu cleifion neu’r cyhoedd yn gyffredinol y bydd data yn cael eu defnyddio.
Os byddwn ni’n gwneud hyn, dim ond y data sydd eu hangen y byddwn yn eu rhannu. Byddwn ni hefyd yn gwneud yn siŵr nad yw’r data a rennir yn datgelu pwy ydych chi, lle bo hynny’n bosibl. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod eich data yn cael eu diogelu. Rhaid i unrhyw un sy’n cael gafael ar eich data y tu allan i’r DU wneud yr hyn rydyn ni’n ei ddweud wrthynt fel bod eich data yn cael eu diogelu ar lefel debyg i’r lefel a orfodir o dan gyfraith y DU. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr bod eich data yn ddiogel y tu allan i’r DU drwy wneud y canlynol:
- bydd gan y gwledydd (neu rai ohonynt) y rhennir eich data â nhw benderfyniad digonolrwydd ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwybod bod eu cyfreithiau’n cynnig lefel debyg o ddiogelwch i gyfreithiau diogelu data yn y DU
- Rydym yn defnyddio contractau penodol sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU sy’n diogelu data personol ar yr un lefel â’r hyn a geir yn y DU. Cewch ragor o fanylion ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
- Nid ydym yn caniatáu i’r rhai sy’n cael gafael ar eich data y tu allan i’r DU eu defnyddio at unrhyw ddiben heblaw’r hyn a nodir yn ein contract ysgrifenedig â nhw.
- Mae angen i sefydliadau eraill fod â mesurau diogelwch priodol i ddiogelu eich data sy’n gyson â’r rhwymedigaethau diogelwch data a chyfrinachedd sydd gennym ni. Mae hyn yn cynnwys bod â mesurau priodol i ddiogelu eich data rhag eu colli’n ddamweiniol a chael mynediad heb ei awdurdodi atynt, eu defnyddio, eu newid neu eu rhannu heb awdurdod.
- Mae gennym weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data personol. Byddwn yn dweud wrthych chi a’r rheoleiddwyr perthnasol pan fydd unrhyw achos o dorri diogelwch eich data personol pan fydd rhaid i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Cewch ragor o fanylion am y rheolau am roi gwybod am dor-diogelwch yn y DU ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Sut byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth amdanoch chi ar ôl i’r astudiaeth ddod i ben?
Ar ôl gorffen yr astudiaeth, byddwn ni’n cadw rhywfaint o’r data fel y gallwn wirio’r canlyniadau. Byddwn yn ysgrifennu ein hadroddiadau mewn modd a fydd yn golygu na fydd neb yn gwybod eich bod wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth.
Byddwn yn cadw eich data ar gyfer yr astudiaeth am 15 mlynedd ar ôl diwedd y prosiect ymchwil, gan ddilyn canllawiau’r Cyngor Ymchwil Feddygol.
Ar ôl 15 mlynedd, bydd y tîm ymchwil yn gwneud yr holl ddata personol y mae wedi’u casglu gennych chi, neu amdanoch chi, mewn cysylltiad â’r prosiect ymchwil hwn, yn ddienw, ac eithrio eich ffurflen gydsynio.
Gellir cyhoeddi gwybodaeth yn ddienw i gefnogi’r prosiect ymchwil a/neu ei chadw am gyfnod amhenodol os yw’n debygol y bydd o werth parhaus at ddibenion ymchwil.
Beth yw eich dewisiadau ynglŷn â’r ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Os ydych chi wedi ymuno â’r astudiaeth hon drwy astudiaeth arall yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, byddwn ni hefyd yn cysylltu’r data newydd â gwybodaeth flaenorol a gasglwyd gennym amdanoch chi. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hyn. Gwneir hyn gan ddefnyddio eich rhif adnabod o’r astudiaeth gwreiddiol.
Er mwyn gwneud y defnydd gorau o adnoddau, byddwn yn rhannu data (heb unrhyw fanylion personol) gyda gwahanol grwpiau o ymchwilwyr o’r GIG, prifysgolion a chwmnïau masnachol, o fewn y DU a thramor.
Fodd bynnag, byddem yn pwysleisio na fydd y sefydliadau hynny byth yn cael mynediad at wybodaeth bersonol/gwybodaeth y gellir ei hadnabod (er enghraifft, eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni). Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gwbl ddienw a chyfrinachol.
Gyda’ch caniatâd, efallai y byddwn hefyd yn cysylltu eich data â setiau data dienw a gesglir yn rheolaidd. Un enghraifft o hyn yw cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae SAIL yn cynnwys data iechyd a gofal cymdeithasol dienw ar gyfer poblogaeth Cymru. Bydd hyn yn cael ei gysylltu mewn fformat dienw (ni fydd hyn yn cynnwys eich manylion personol fel eich enw a’ch cyfeiriad) ac fe’i gwneir yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) 2018, Deddf Diogelu Data (2018) a rheoliadau Llywodraethu’r Brifysgol.
Os ydych yn penderfynu cymryd rhan, mae hawl gyda chi i dynnu’ch caniatâd yn ôl unrhyw bryd ynghylch yr ymchwil hon, heb roi rheswm, hyd yn oed ar ôl llofnodi ffurflen rhoi caniatâd. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion ar ddiwedd y ffurflen hon.
Byddwn yn gofyn i chi a ydych chi eisiau i ni ddinistrio’r data a gasglwyd hyd yn hyn a rhoi’r gorau i gyfathrebu yn y dyfodol neu a allwn ni gadw’r data a pheidio â chysylltu â chi eto. Ni fydd yn bosibl tynnu’n ôl unrhyw ddata dienw sydd eisoes wedi’i gyhoeddi neu, mewn rhai achosion pan gaiff elfennau adnabod eu tynnu’n llwyr o’r wybodaeth yn ystod prosiect ymchwil, o’r pwynt y cafodd ei wneud yn ddienw.
Mae gennych chi’r hawl i ofyn i ni gael gafael ar y data sydd gennyn ni amdanoch chi at ddibenion yr astudiaeth, eu dileu neu eu newid. Mae’n bosibl na fyddwn ni’n gallu gwneud hyn bob amser os yw’n golygu na allwn ddefnyddio eich data i wneud yr ymchwil. Os felly, byddwn yn dweud wrthych chi pam na allwn ni wneud hyn.
Ni fydd gennych unrhyw hawl i unrhyw ddefnydd masnachol yn y dyfodol o ganlyniadau’r astudiaeth lle defnyddiwyd eich data.
Ymhle y gallaf ddarganfod mwy am sut bydd fy ngwybodaeth/data yn cael eu defnyddio?
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth, gan gynnwys y mecanwaith penodol a ddefnyddir gennym wrth drosglwyddo eich data personol allan o’r DU, drwy’r canlynol:
- Edrych ar y daflen ymchwil data cleifion hon gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd
- Holi aelod o’r tîm ymchwil
- Anfon e-bost at reproductivementalhealth@caerdydd.ac.uk neu ein ffonio ni ar 02922 515494 | 02920 688371
- Cysylltu â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd:
- E-bost: Inforequest@caerdydd.ac.uk
- Cyfeiriad post: Swyddog Diogelu Data, Cydymffurfiaeth a Risg, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol, Prifysgol Caerdydd, 42 Plas y Parc, Cathays, Caerdydd, CF10 3BB.
- Darllen Polisi Diogelu Data Prifysgol Caerdydd:
- Darllen Hysbysiad Diogelu Data cyffredinol Prifysgol Caerdydd ar gyfer cyfranogwyr ymchwil
Os oes angen copïau printiedig o’r ddogfennaeth a’r hysbysiad preifatrwydd uchod arnoch, cysylltwch â’r tîm astudio gan ddefnyddio’r manylion uchod.
Pa gwestiynau a ofynnir i mi nawr?
Pan fyddwch yn cytuno i gymryd rhan a chofrestru, gofynnir i chi roi manylion cyswllt a gwybodaeth arall amdanoch eich hun fel eich dyddiad geni a’ch manylion cyswllt.
Gofynnir i chi hefyd ateb rhai cwestiynau am brofiadau o afiechyd meddwl o amgylch y menopos a digwyddiadau atgenhedlu eraill y gallech fod wedi’u profi.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?
Yn gyntaf, bydd angen i chi ymuno â’r astudiaeth. Mae hyn yn cynnwys darllen yr wybodaeth hon ac yna gydsynio isod. Dylai hyn gymryd tua 30 munud. Cymerwch gymaint o amser ag sydd ei angen arnoch i benderfynu a ydych chi am gymryd rhan.
Unwaith y byddwch wedi ymuno, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi. Dylai hyn gymryd tua 20 munud.
Gwyddom ein bod yn cael y data gorau os ydych yn gallu ateb y cwestiynau hyn ar yr un pryd, ond os nad yw hyn yn bosibl am ryw reswm yna gallwch ddod yn ôl i’r wefan yn ddiweddarach oherwydd gallwch arbed eich atebion ar ôl i chi orffen set o gwestiynau.
Pwy sydd wedi adolygu’r astudiaeth?
Mae cymeradwyaeth foesegol wedi’i chael gan y Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol ac mae caniatâd y GIG (Ymchwil a Datblygu) hefyd wedi’i gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr astudiaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil:
Y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, Cathays, Caerdydd, CF24 4HQ.
Ffôn: +44 (0) 29 2068 8401
E-bost: reproductivementalhealth@caerdydd.ac.uk
Os hoffech drafod yr astudiaeth hon gyda rhywun sy’n annibynnol ar yr astudiaeth, cysylltwch â:
Helen Richards, Rheolwr, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis, Heol Maendy, Caerdydd, CF24 4HQ.
Ffôn: +44 (0) 29 2068 8484
E-bost: dpmcndivisionmanager@caerdydd.ac.uk
Cymryd rhan yn yr astudiaeth
Cwblhewch yr arolwg menopos ar-lein.
