Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA)

Looking over the shoulder of a woman reading a website for CONCA study on a laptop while she drinks from a glass cup and is wearing a yellow t-shirt.

Ynglŷn â’r astudiaeth

Ceir sail ymchwil gynyddol i ddangos bod gan wahanol fathau o ddiagnosis iechyd meddwl botensial i amharu ar weithgarwch gwybyddol mewn parthau gwybyddol amrywiol, gan gynnwys cynllunio, ataliaeth a chof gweithredol. Darllenwch ragor am yr astudiaeth. 

Rydym wedi creu offeryn asesu gwybyddol y gellir ei ddefnyddio i fonitro cof a chanolbwyntio mewn gwasanaethau iechyd meddwl o’r enw Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA).

Mae CONCA:

  • yn asesiad sy’n cynnwys pum tasg cof a phosau, ac sy’n cymryd tua 30 munud i’w gwblhau
  • yn hygyrch ar ddyfeisiau gwahanol gan gynnwys gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar
  • yn gallu rhoi adborth ar berfformiad ar ôl ei gwblhau.

Noder ein bod ar hyn o bryd yn recriwtio dynion rhwng 16 a 35 oed a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gymryd rhan.

Sut i gymryd rhan

Rydym yn chwilio am ddynion rhwng 16 a 35 oed   a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o weithio mewn Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIPS) i roi cynnig ar CONCA. Bydd cyfranogwyr yn derbyn £20 am bob asesiad, sy’n para 1 awr.

Os hoffech gymryd rhan, llenwch ffurflen i fynegi diddordeb a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.

Beth i’w ddisgwyl

Byddwn yn gofyn i ddynion rhwng 16 a 35 oed sydd â hanes o seicosis i wneud y canlynol:

  • I gwblhau holiaduron am eu hiechyd meddwl, y pum tasg yn CONCA a holiadur adborth am CONCA, a’ch barn am fonitro weithrediad gwybyddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Byddwch yn cael y cyfle i gwblhau dau asesiad dilynol os dymunwch wneud hynny:
    • Cyfweliad manwl 1 awr o hyd i gael mwy o syniad am eich barn am CONCA, a sut mae eich iechyd meddwl wedi effeithio ar eich gwybyddiaeth.
    • Cwblhau CONCA am yr ail dro 4 wythnos ar ôl eich asesiad cyntaf (30 munud).

Byddwn yn gofyn i ddynion 16-35 oed:

  • I gwblhau CONCA ddwywaith dros gyfnod o 4 wythnos inni gael ystyried pa mor gyson yw’r sgoriau dros gyfnod o amser.

Byddwn yn gofyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o EIPS:

  • I gwblhau cyfweliad 1 awr o hyd am eich barn ar CONCA, i ofyn a ddylai profion gwybyddol ddod yn rhan o ofal seicosis cynnar, a sut y gallai weithio’n ymarferol.

Cymorth

Gallwch gwblhau’r astudiaeth yn eich amser eich hun o bell, neu os byddai’n well gennych, gall ein hymchwilwyr eich cefnogi ar-lein neu wyneb yn wyneb mewn lleoliad o’ch dewis.

Cymryd rhan

Ewch i’n tudalen ar Redcap i cymryd rhan heddiw.


Pwy sy’n gwneud yr astudiaeth hon?

Arweinir yr astudiaeth hon gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH). Canolfan Ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, dan arweiniad Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor. Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Dr Amy Lynham sy’n arwain yr astudiaeth. Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yw’r Athro Jon Bisson.

Sut alla i ymuno â’r astudiaeth?

Llenwch ffurflen i fynegi diddordeb a bydd un o’r tîm yn cysylltu â chi.

Beth yw manteision posibl cymryd rhan?

Drwy gwblhau pum tasg CONCA a rhoi eich adborth, byddwch chi’n ein helpu i wneud gwelliannau i offeryn asesu gwybyddol a allai gael ei gyflwyno mewn gwasanaethau gofal iechyd meddwl yn y dyfodol. Yn y tymor hir, gobeithiwn y bydd CONCA yn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i asesu cleifion, adnabod anawsterau gwybyddol a chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Pa gwestiynau a ofynnir i mi nawr?

Yn y ffurflen i fynegi diddordeb, gofynnir i chi am eich enw, eich manylion cyswllt, y ffordd orau o gysylltu â chi a’r amser sy’n well gennych chi gymryd rhan yn yr astudiaeth. Bydd ymchwilydd o’r tîm yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth i chi am yr hyn y mae cymryd rhan yn ei olygu.

Os byddwch chi’n dewis parhau â gweddill yr astudiaeth, efallai y byddwn ni’n gofyn i chi gwblhau holiadur byr am eich iechyd meddwl, cwblhau pum tasg CONCA (fel gemau neu bosau), adolygu eich canlyniadau yn y tasgau ac ateb cwestiynau am CONCA a’ch barn ar ddefnyddio CONCA fel asesiad clinigol. Gweler yr adran ‘Beth i’w ddisgwyl’ uchod am fanylion penodol am yr hyn y byddwn ni’n gofyn i chi ei wneud.

Pa mor aml y byddwch yn cysylltu â mi?

Ar ôl cwblhau’r astudiaeth, efallai y byddwn ni’n cysylltu â chi i gynnig y cyfle i chi gwblhau CONCA eto bedair wythnos yn ddiweddarach. Byddwn ni hefyd yn gofyn a oes gennych chi ddiddordeb mewn dod i gyfweliad dilynol am eich profiad o gwblhau CONCA.

Faint o amser y bydd hyn yn ei gymryd?

Mae cwblhau’r ffurflen mynegi diddordeb yn cymryd 5 munud.

Bydd yr astudiaeth yn cymryd rhwng 1 awr a 2.5 awr i’w chwblhau, yn dibynnu ar yr hyn y gofynnir i chi ei wneud, ac a ydych chi’n dewis gwneud yr asesiadau dilynol dewisol ai peidio.

Dynion 16-35 oed gyda hanes o seicosis – asesiad cychwynnol o 60 munud, 2 sesiwn ddilynol ddewisol (cyfweliad – 60 munud, ail brawf CONCA – 30 munud)

Dynion 16-35 oed heb hanes o seicosis – 60 munud (2 asesiad 30 munud yr un)

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â phrofiad o EIPS – 60 munud

A allaf wrthod neu dynnu’n ôl o’r astudiaeth?

Nid oes rhaid i chi gymryd rhan yn yr astudiaeth. Os ydych yn penderfynu cymryd rhan, mae hawl gyda chi i dynnu’ch caniatâd yn ôl unrhyw bryd ynghylch yr ymchwil hon, heb roi rheswm, hyd yn oed ar ôl llofnodi ffurflen rhoi caniatâd.

Ni fydd yn bosibl tynnu’n ôl unrhyw ddata dienw sydd eisoes wedi’i gyhoeddi neu mewn rhai achosion, pan gaiff dynodwyr eu tynnu’n llwyr oddi ar wybodaeth yn ystod prosiect ymchwil, o’r adeg y mae wedi’i wneud yn ddienw.]

Beth fydd yn digwydd pan fydd yr astudiaeth wedi gorffen?

Cyhoeddir y canlyniadau mewn cyfnodolion gwyddonol a’u cyflwyno mewn cyfarfodydd gwyddonol. Bydd manylion adnabod yr holl gyfranogwyr yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol. Gyda’ch caniatâd chi, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ganlyniadau’r astudiaeth drwy negeseuon cyfathrebu’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl sy’n cynnwys cylchlythyrau, blogiau a phodlediadau.

Allaf i drafod y ymchwil gyda rhywun annibynnol ar y prosiect?

Ie, gallwch gysylltu â Helen Richards ar +44(0)29 2068 8484 neu drwy e-bostio dpmcndivisionmanager@cardiff.ac.uk. Gallwch hefyd ei ysgrifennu hi ar:

Helen Richards

Rheolwr Adran

Adran Meddygaeth Seicolegol a Neurosciencau Clinigol / Canolfan MRC ar Geneteg a Genomig Niwroseiciatreg

Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd

Adeilad Hadyn Ellis

Heol Maindy

Caerdydd

CF24 4HQ


Cymryd rhan

Ewch i’n tudalen ar Redcap i cymryd rhan heddiw.