Therapi electrogynhyrfol (ECT)

Mae therapi electrogynhyrfol (ECT) yn driniaeth ar gyfer rhai mathau o salwch meddwl difrifol nad ydyn nhw wedi ymateb i driniaethau eraill.

Mae anesthetig a chyffuriau ymlacio cyhyrau yn cael eu rhoi, ac yna caiff cerrynt trydan ei basio ar draws eich pen.

Mae hyn yn achosi ffit dan reolaeth, sydd fel arfer yn para llai na 90 eiliad.

Mae’r anesthetig yn golygu eich bod chi’n cysgu tra bod hyn yn digwydd. Mae’r cyffur ymlacio cyhyrau yn lleihau symudiad y ffit.

Mae hyn yn cael ei roi fel cwrs o driniaethau ddwywaith yr wythnos, fel arfer am dair i wyth wythnos.

Adnoddau

Daflen NCMH: Electroconvulsive therapy