Galar yw’r tristwch dwfn a’r ymdeimlad o golled sy’n dilyn marwolaeth rhywun sy’n bwysig i chi.
Mae’n brofiad personol iawn ac mae pawb yn galaru yn ei ffordd ei hun. Does dim ffordd gywir nac anghywir o alaru.
Deall galar
- Tristwch – bod yn brudd ac yn ddagreuol
- Sioc – yn ei chael hi’n anodd derbyn y golled, yn enwedig os oedd yn annisgwyl
- Hiraeth – awydd dwys i fod gyda’r person rydych chi wedi’i golli
- Dicter – rhwystredigaeth wedi’i chyfeirio at y sefyllfa, y person rydych chi wedi’i golli, neu chi’ch hun
- Euogrwydd – edifarhau am bethau a gafodd eu gwneud neu na chafodd eu gwneud
- Gorbryder – pryderon am y dyfodol neu eich gallu i ymdopi
- Unigrwydd – teimlo’n ynysig neu fod neb yn eich deall
- Rhyddhad – ymdeimlad o ryddhad, yn enwedig ar ôl salwch hir
- Diffyg teimlad – datgysylltiad emosiynol neu anallu i deimlo
- Dryswch – yn ei chael hi’n anodd meddwl yn glir neu ganolbwyntio
Ymdopi â galar
Mae pawb yn delio â galar yn eu ffordd eu hunain, ond dyma rai awgrymiadau a allai helpu:
- Mae’n naturiol profi ystod o emosiynau. Rhowch ganiatâd i’ch hun deimlo a mynegi eich galar.
- Rhowch amser i wneud gweithgareddau sy’n dod â chysur a hapusrwydd i chi, o ddarllen i fynd am dro neu dreulio amser ym myd natur.
- Rhowch yr un gofal a dealltwriaeth i chi’ch hun ag y byddech chi’n eu cynnig i ffrind. Derbyniwch eich teimladau wrth iddyn nhw ddod a chofiwch ei bod hi’n iawn cael diwrnodau anodd.
- Rhannwch eich teimladau gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, boed yn ffrind, aelod o’r teulu, neu grŵp cymorth.
- Cofiwch fwyta’n dda a chael digon o gwsg ac ymarfer corff.
- Daliwch ati gyda’ch gweithgareddau dyddiol a gosodwch nodau bach, realistig i greu strwythur ac ymdeimlad o normalrwydd yn eich diwrnod.
- Dewch o hyd i ffyrdd ystyrlon o gofio’ch anwylyd, fel creu blwch atgofion neu gymryd rhan mewn gweithgaredd roedden nhw’n ei fwynhau.
Beth yw anhwylder galar hirfaith (PGD)?
Er bod galar yn ymateb normal i golled, weithiau dydy hyn ddim yn lleddfu gydag amser a gall eich atal rhag byw eich bywyd. Yr enw ar hyn yw anhwylder galar hirfaith (PGD).
Mae PGD yn digwydd pan fydd galar rhywun yn para’n hirach na’r disgwyl – chwech i ddeuddeng mis – ac yn llethu rhywun.
Dydy’r tristwch a’r hiraeth dwys ddim yn diflannu, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd rheoli gweithgareddau a chyfrifoldebau bob dydd yn y cartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, neu mewn lleoliadau cymdeithasol.
Arwyddion PGD
- Hiraeth cyson – hiraeth dwfn a pharhaus am y person rydych chi wedi’i golli, nad yw’n lleddfu dros amser.
- Meddwl drwy’r amser am yr unigolyn sydd wedi marw – efallai y byddwch chi’n meddwl drwy’r amser am y person rydych chi wedi’i golli, sy’n ei gwneud hi’n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall.
- Cael trafferth derbyn y farwolaeth – ei chael hi’n anodd iawn derbyn bod y person wedi mynd.
- Diffyg teimlad – teimlo eich bod wedi cau allan yn emosiynol neu’n bell oddi wrth eraill.
- Colli hunaniaeth – teimlo fel bod rhan ohonoch chi ar goll neu fod eich bywyd wedi colli ei ystyr.
Beth sy’n cynyddu’r risg o PGD?
Gall PGD effeithio ar unrhyw un, ond gall rhai ffactorau gynyddu’r risg.
Os oedd y farwolaeth yn sydyn neu’n ysgytwol, er enghraifft, damwain neu hunanladdiad, gall y risg o PGD gynyddu.
Po agosaf oeddech chi at y person fu farw, yr uchaf yw’r siawns o brofi galar hirfaith.
Os ydych chi wedi cael problemau iechyd meddwl o’r blaen, efallai y byddwch chi’n fwy tebygol o ddatblygu PGD.
Mae peidio â chael digon o gefnogaeth gan ffrindiau neu deulu yn gallu gwneud PGD yn fwy tebygol.
Pryd i geisio cymorth
Mae galar yn brofiad personol, ond mae’n bwysig ceisio cymorth os:
- rydych chi’n ei chael yn anodd gwneud gweithgareddau o ddydd i ddydd
- rydych chi wedi dechrau osgoi pobl a gweithgareddau roeddech chi’n arfer eu mwynhau
- rydych chi’n teimlo bod pethau’n mynd yn drech na chi neu eich bod yn methu ymdopi
- rydych chi’n meddwl niweidio’ch hun
- rydych chi’n meddwl y gallech chi fod yn profi PGD
Take part in research
We are working to develop a digital treatment for PGD.
If you have lived experience of mental health problems following the death of a loved one and are interested in helping develop or test the digital intervention, please register your details for our PGD study.
Adnoddau
Daflen NCMH: Grief and prolonged grief disorder
Gall y sefydliadau hyn gynnig cefnogaeth i bobl sy’n ei chael yn anodd delio â galar a phrofedigaeth.
- Cruse
- 2Wish
- The Anna Phillips Foundation
- Community and Care Wellbeing Service (CCAWS)
- Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS)
- The Good Grief Trust

