What is bipolar disorder?
Mae pobl ag anhwylder deubegynol yn profi amrywiadau eithafol mewn hwyliau a lefelau egni, ac mae hyn yn gallu cynnwys uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eithafol neu gymysgedd o’r ddau.
Os oes gennych anhwylder deubegynol, byddwch yn profi cyfnodau neu ‘benodau’ o deimlo eich bod ar ben y byd a elwir yn mania neu hypomania ac fel arfer, cyfnodau o iselder.
Efallai y bydd gennych broblemau gyda meddwl ac amgyffred hefyd, sy’n gallu cynnwys symptomau seicosis.
Gall hyn gynnwys meddwl am bethau nad ydyn nhw’n wir (rhithdybiau) a gweld neu glywed pethau nad ydyn nhw yno (rhithwelediadau).
Mae ymchwil yn awgrymu bod anhwylder deubegynol yn rhedeg mewn teuluoedd, a bod genynnau’n gallu dylanwadu ar a yw rhywun yn datblygu’r salwch.
Rydym yn dal i ddysgu am yr hyn sy’n achosi anhwylder deubegynol.
Mae ymchwil yn awgrymu bod geneteg yn ffactor o ran a yw rhywun yn datblygu’r salwch.
Rydym hefyd yn gwybod bod systemau’r ymennydd sy’n ymwneud â rheoli ein hwyliau yn gweithio’n wahanol mewn pobl ag anhwylder deubegynol.
Mae ffactorau eraill yn gallu cynyddu’r risg o ddatblygu anhwylder deubegynol fel trawma a defnyddio cyffuriau hamdden.
I rai pobl ag anhwylder deubegynol mae yna bethau sy’n sbarduno pyliau mewn hwyliau. Mae straen bywyd neu ddefnyddio cyffuriau hamdden yn gallu sbarduno pyliau mewn hwyliau.
Gallai newid mewn patrymau cysgu arferol sbarduno neu fod yn arwydd o bwl mewn hwyliau.
Cael cymorth
Os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych chi anhwylder deubegynol, dylech chi weld eich meddyg teulu yn gyntaf a fydd yn cynnal asesiad cychwynnol.
Yn dibynnu ar ganlyniad hyn, bydd eich meddyg teulu yn penderfynu a oes angen eich cyfeirio at weithiwr iechyd meddwl ym maes gofal sylfaenol, eich tîm iechyd meddwl cymunedol lleol (CMHT) neu wasanaeth arall, yn dibynnu ar eich anghenion
Os cewch eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol lleol, byddwch yn cael asesiad manwl arall, a byddan nhw’n gweithio gyda chi i gynllunio’r triniaethau cywir i chi.
Triniaethau
I lawer o bobl ag anhwylder deubegynol, mae meddyginiaeth yn rhan allweddol o aros yn iach. Mae yna lawer o feddyginiaethau sy’n gallu helpu.
Mae rhai’n gweithio drwy atal y teimladau eithafol o fod ar ben y byd neu’n isel iawn sy’n cael eu hachosi gan y cyflwr; yr enw ar y rhain yw sefydlogyddion hwyliau, ac yn aml iawn mae angen eu cymryd bob dydd am gyfnodau hir.
Mae gwahanol feddyginiaethau’n addas ar gyfer gwahanol bobl, ac mae dod o hyd i’r feddyginiaeth orau i unigolyn yn gallu cymryd amser, a threialu gwahanol feddyginiaethau a dosau.
Mae triniaethau siarad fel seicoaddysg yn gallu bod o gymorth hefyd.
Mae’r dull hwn yn helpu pobl i ddeall eu salwch, dysgu adnabod arwyddion cynnar o deimlo’n manig a theimlo’n isel iawn, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i aros cystal â phosibl.
Mae Rhaglen Addysg Anhwylder Deubegynol Cymru, a elwir hefyd yn BEPCymru, yn un enghraifft. Dysgwch fwy am y cwrs hwn yn
Yn aml, cyfuniad o feddyginiaeth a seicoaddysg sydd fwyaf effeithiol.
Triniaethau ar gyfer anhwylder deubegynol
- Y prif bethau rydym yn gwybod eu bod o gymorth gydag anhwylder deubegynol yw meddyginiaethau, addysg, a dilyn argymhellion am ffordd o fyw gan ganolbwyntio ar gynnal trefn reolaidd a chydbwysedd.
- Mae’n hanfodol cymryd meddyginiaeth yn rheolaidd yn ôl y presgripsiwn; mae rhoi’r gorau i’w cymryd ac ailddechrau’n sydyn yn gallu gwneud pethau’n waeth.
- Mae yna lawer o feddyginiaethau ar gyfer anhwylder deubegynol ac mae’n gallu cymryd amser i ddod o hyd i’r un sy’n gweithio orau i chi.
- Dysgwch gymaint ag y gallwch am y cyflwr a sut mae aros yn iach. Mae yna lawer o wefannau, llyfrau hunangymorth a grwpiau addysg yn ymwneud ag anhwylder deubegynol.
- Gofalwch am eich iechyd corfforol yn ogystal â’ch iechyd meddwl. Mae glynu wrth drefn gysgu reolaidd a digonol, bwyta’n iach, osgoi cyffuriau hamdden ac yfed alcohol yn gymedrol yn gallu eich helpu i osgoi mynd yn wael.
- Gofalwch am eich iechyd corfforol yn ogystal â’ch iechyd meddwl. Mae glynu wrth drefn gysgu reolaidd a digonol, bwyta’n iach, osgoi cyffuriau hamdden ac yfed alcohol yn gymedrol yn gallu eich helpu i osgoi mynd yn wael.
- Hyd yn oed os ydych chi’n iach nawr, efallai y byddwch chi’n cael mwy o byliau o deimlo’n isel iawn neu deimlo ar ben y byd yn y dyfodol. Ceisiwch gael cynllun ar waith rhag ofn y byddwch chi’n mynd yn wael eto. Dewch o hyd i gyngor ar wneud penderfyniadau ymlaen llaw.
- Siaradwch â phobl eraill sydd ag anhwylder deubegynol. Mae eu gwybodaeth a’u profiad yn gallu bod o gymorth. Mae sefydliadau fel Bipolar UK yn gallu eich helpu i wneud hyn.
Cyngor i deuluoedd, partneriaid a gofalwyr
- Efallai y bydd angen eich help ar anwyliaid sydd ag anhwylder deubegynol i aros yn iach. Ceisiwch fod yn agored ac yn amyneddgar ynghylch eu cyflwr.
- Gofynnwch iddyn nhw am eu pryderon a sut gallwch chi helpu.
- Siaradwch â’r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl sy’n gofalu amdanyn nhw. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau a gofyn am gyngor.
- Peidiwch â thybio bod pob newid bach mewn hwyliau neu anghytundeb yn gysylltiedig â’r salwch.
- Dylech gael cynllun ar gyfer beth i’w wneud os bydd y person sy’n perthyn i chi yn mynd yn wael yn y dyfodol.
- Dysgwch gymaint ag y gallwch am anhwylder deubegynol a thriniaethau posibl.
- Siaradwch ag eraill sy’n gofalu am bobl ag anhwylder deubegynol. Efallai eu bod wedi profi sefyllfaoedd tebyg a bod ganddyn nhw awgrymiadau defnyddiol. Mae sefydliadau fel Bipolar UK yn gallu eich helpu i wneud hyn.
Ein gwaith gyda Hwb yr Ymennydd a Genomeg
Rydym yn gweithio gyda Hwb yr Ymennydd a Genomeg i greu cymuned o 600 o bobl sydd â phrofiad o fyw ag anhwylder deubegynol.
Mae Hwb yr Ymennydd a Genomeg yn un o chwe hwb ymchwil newydd sy’n ffurfio’r Platfform Iechyd Meddwl a ariennir gan UKRI.
Cafodd y platfform ei sefydlu i gyflymu’r cynnydd tuag at driniaethau newydd a mwy effeithiol ar gyfer salwch meddwl difrifol.
Nod astudiaeth y Fenter Ymchwil i Anhwylder Deubegynol, Sgitsoffrenia a Seicosis (B-Sprint) gan Hwb yr Ymennydd a Genomeg yw mynd y tu hwnt i ffiniau diagnostig, i helpu i adnabod ffyrdd o ddatblygu triniaethau mwy penodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn, ac i wella sut maen nhw’n cael diagnosis.
Dewch i wybod mwy am astudiaeth B-Sprint.
Adnoddau
- Daflan NCMH: Bipolar, pregnancy and childbirth
- Daflan NCMH: Bipolar disorder
Podlediad Piece of Mind: Gadewch i’ch llais gael ei glywed mewn penderfyniadau gofal iechyd meddwl
Mae dogfennau dewis ymlaen llaw (ACDs) yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl nodi eu dymuniadau a’u cyfarwyddiadau am eu triniaeth a’u gofal yn ystod digwyddiadau salwch yn y dyfodol.
Siaradom gyda’r Athro Tania Gergel am ei gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r arf hanfodol hwn i bobl â salwch meddwl difrifol.
Rhaglen Addysg Bypolaraidd Cymru (BEPC)
Mae Rhaglen Addysg Bipolar Cymru (BEPC) yn rhaglen addysgol grŵp sy’n anelu at wella dealltwriaeth y cyfranogwyr o anhwylder bipolar ac hefyd yn anelu at ddarparu manteision o ran ansawdd bywyd a phrofiad o symptomau.
Dysgwch fwy am BEPC a sut i gael mynediad iddo.

