Wrth i ni ddechrau 2023, mae’n werth gofyn i ni’n hunain a yw Penderfyniadau’r Flwyddyn Newydd a osodwyd gennym yn ddefnyddiol, neu a ydyn nhw’n rhoi pwysau diangen ar ein hiechyd meddwl?
Astudiaeth newydd: Cymorth digidol i bobl ifanc o ran eu hwyliau a’u lles
Mae astudiaeth newydd wedi’i lansio i archwilio dichonoldeb rhaglen ar-lein newydd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi pobl ifanc o ran eu hwyliau a’u lles.
Hormonau a’m Hiechyd Meddwl; mae PMDD yn fy ngwneud yn gyfan.
Mae ein hyrwyddwr ymchwil Becci yn fam i bedwar yn ne Cymru sy’n eirioli ar ran y rhai sy’n byw ag Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a Gwaethygu Cyn Mislif (PME).
Gweminar: Mythau a chamsyniadau PMDD
Mae PMDD, a gafodd ei gydnabod am y tro cyntaf gan Sefydliad Iechyd y Byd yn 2019, yn gyflwr sydd wedi’i dan-ymchwilio’n ddifrifol. Mae ein hymchwilwyr yn NCMH a Phrifysgol Caerdydd yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid elusennol i godi ymwybyddiaeth, lleihau’r stigma a gwella cefnogaeth ar gyfer y cyflwr.
98% o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt yn teimlo y bydd calorïau ar fwydlenni yn cael effaith negyddol arnynt
Mae 98% o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt yn teimlo y byddai cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni yng Nghymru yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn, yn ôl arolwg newydd gan Beat, elusen anhwylderau bwyta’r DU. Mae…
Hoffech chi gynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil iechyd meddwl?
Ydych chi’n llunio cais am gyllid ar gyfer prosiect ymchwil iechyd meddwl? Peidiwch â cholli’r cyfle i gynnwys pobl sydd â phrofiad byw yn eich prosiect.
Gwasanaeth geneteg cyntaf y DU i gefnogi cleifion a theuluoedd yn agor
Bydd pobl yng Nghymru y mae materion iechyd meddwl yn effeithio arnynt yn gallu elwa ar wasanaeth geneteg newydd sbon, a ddarperir drwy bartneriaeth â Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan, Gwasanaethau Iechyd Meddwl y GIG, a chanolfannau ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Ble fydden ni heb ymchwil? Cyfarwyddwr NCMH yn ymddangos ar bodlediad newydd
Mae’r podlediad ‘Ble bydden ni heb ymchwil?’ gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn ymdoddi’n ddwfn i fyd ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol Cymru.
Mae’r Athro Ian Jones, cyfarwyddwr NCMH, yn ymuno â’r gwesteiwr Dr Emma Yhnell ar y bennod ddiweddaraf.
Gallai cynyddu mynediad i driniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl cyffredin ymysg mamau gael buddiannau net o hanner biliwn o bunnoedd
Mae problemau iechyd meddwl mamau yn bryder iechyd cyhoeddus sylweddol. Gall effeithio ar gynifer ag un o bob pum menyw, a heb driniaeth, gall y problemau hyn gael effaith ddinistriol ar fenywod a’u teuluoedd.
Risg pellach, yn ystod cyfnod cyfyngiadau’r pandemig, i iechyd meddwl pobl oedd eisoes yn dioddef â salwch meddwl, yn ôl astudiaeth NCMH
Canfu’r papur, sydd bellach wedi’i gyhoeddi gan y British Journal of Psychiatry Open, fod 60% o’r cyfranogwyr wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y pandemig. Eglurodd y prif awdur Dr Katie Lewis: “Yn ein hastudiaeth o…