Menter ymchwil i anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia a seicosis (B-Sprint)

An overhead shot of a busy table at a conference, where visitors are speaking to researchers about taking part in research.

Helpu gyda’n hymchwil anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia a seicosis

Nod astudiaeth y Fenter Ymchwil ar gyfer Anhwylder Deubegwn, Sgitsoffrenia a Seicosis (B-Sprint) – sy’n rhan o’r Ganolfan Ymennydd a Genomeg (Brain and Genomics Hub) – yw mynd y tu hwnt i ffiniau diagnostig. Y nod yw helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddatblygu dulliau triniaeth mwy penodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn, a gwella’r broses o’u diagnosio

Cymryd rhan

Er mwyn helpu ymchwilwyr i ddysgu mwy am seicosis, sgitsoffrenia, anhwylder deubegwn, ac anhwylder sgitso-effeithiol, rydym yn helpu i recriwtio 600 o bobl sydd â phrofiad byw o’r cyflyrau hyn.

Unwaith y bydd y tîm wedi cadarnhau eich bod yn gymwys i gymryd rhan, byddwch yn:

  • cael eich holi am eich iechyd meddwl a’ch profiadau bywyd
  • cwblhau tasgau gwybyddol i asesu eich cof a’ch dulliau dysgu
  • cael eich gofyn am sampl gwaed
  • cael sganiau MEG ac MRI

Os yw hyn o ddiddordeb i chi, cofrestrwch eich manylion heddiw er mwyn i’n hymchwilwyr allu cysylltu â chi a thrafod a ydych yn gymwys i gymryd rhan.

Sylwch, yn dibynnu ar pryd y byddwch yn cofrestru, gall gymryd mis neu ddau iddynt gysylltu â chi.

Y Ganolfan Ymennydd a Genomeg (Brain and Genomics Hub

Mae’r Ganolfan Ymennydd a Genomeg yn un o chwe chanolfan ymchwil newydd sy’n ffurfio’r Llwyfan Ymchwil Iechyd Meddwl, a ariennir gan UKRI. Sefydlwyd y llwyfan i gyflymu’r broses o ddatblygu triniaethau newydd a mwy effeithiol ar gyfer salwch meddwl difrifol.

Mae’r Ganolfan yn cynnwys nifer o brifysgolion a sefydliadau yn y trydydd sector sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddeall salwch meddwl difrifol yn well, ac i ddarparu gwell cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn. Mae’r sefydliadau trydydd sector, Adferiad a Bipolar UK, yn helpu’r Ganolfan i roi profiadau byw pobl wrth wraidd ei hymchwil.