Beth yw hunan-niweidio?
Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn niweidio neu’n anafu ei gorff yn fwriadol. Mae nifer o wahanol ffyrdd y gall pobl niweidio eu hunain yn fwriadol, megis torri neu losgi eu croen, pwnio neu fwrw eu hunain a gwenwyno eu hunain gyda thabledi neu gemegion gwenwynig.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae pobl sy’n hunan-niweidio yn ei wneud i’w helpu i ymdopi â phroblemau emosiynol llethol, a all gael eu hachosi gan:
- Problemau cymdeithasol – megis bwlio, anawsterau yn y gwaith neu’r ysgol, dod i delerau â’u rhywioldeb, dyled neu ddiweithdra
- Trawma – megis achosion o gam-drin corfforol neu rywiol, marwolaeth aelod agos o’r teulu neu ffrind, neu golli babi
- Problemau seicolegol – megis cael meddyliau neu leisiau mynych yn dweud wrthynt am hunan-niweidio, datgysylltu (colli cysylltiad â phwy ydynt a’u hamgylchedd), neu anhwylder personoliaeth ffiniol.
Mae hunan-niweidio yn fwy cyffredin nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, lle amcangyfrifir bod 1 o bob 10 yn hunan-niweidio ar ryw adeg. Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod llawer yn uwch, gan nad yw llawer o bobl sy’n hunan-niweidio yn gofyn am help.
Gydag amser, lle a chymorth mae pobl yn aml yn dod o hyd i atebion eraill i ymdopi â sut maent yn teimlo, neu caiff y teimladau hyn eu datrys. Mae hunan-niweidio yn ffactor risg ar gyfer hunanladdiad, ac mae gan dros hanner y bobl sy’n lladd eu hunain hanes o hunan-niweidio. Fodd bynnag, mae llawer mwy o bobl yn hunan-niweidio nag sy’n lladd eu hunain, ac mae’n bwysig nodi nad yw llawer o bobl sy’n hunan-niweidio am orffen eu bywydau.
Cael help
Os ydych wedi ystyried niweidio eich hun neu os ydych yn niweidio eich hun, gall deimlo fel nad oes gennych unrhyw un i siarad â nhw – hyd yn oed ffrindiau neu deulu. Ond efallai bod rhywun a all wrando arnoch. Gall helpu i:
- ddweud wrth ffrind neu berthynas
- cysylltu â’ch meddyg teulu (neu dîm iechyd meddwl os oes gennych un)
- mynd i’r Adran Achosion Brys
Os ydych yn hunan-niweidio gall eich meddyg teulu eich atgyfeirio at weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn tîm iechyd meddwl cymunedol lleol, neu dîm wedi’i leoli yn yr ysbyty gyda’r Adran Achosion Brys i gael asesiad pellach. Yn sgîl yr asesiad hwn, bydd eich tîm gofal iechyd yn creu cynllun triniaeth gyda chi i’ch helpu gyda’ch trallod.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn gwybod nad yw bob amser yn bosibl rhoi’r gorau iddi yn syth. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd am hunan-niweidio. Gall siarad am eich pryderon, ofnau a thrallod gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo wneud i chi deimlo’n well. Gall hefyd eich helpu i glirio eich meddwl, i deimlo’n fwy gobeithiol ac i feddwl am atebion posibl.
Triniaethau ar gyfer hunan-niweidio
Mae triniaeth ar gyfer pobl sy’n hunan-niweidio fel arfer yn cynnwys gweld therapydd.
Bydd yn eich helpu i drafod eich meddyliau a’ch teimladau, ac i ddeall sut maent yn effeithio ar eich ymddygiad a’ch lles. Gall eich therapydd hefyd ddysgu dulliau ymdopi i chi er mwyn helpu i atal pyliau pellach o hunan-niweidio.
Os ydych yn teimlo’n isel iawn, neu os oes gennych broblemau iechyd meddwl eraill yna efallai y cewch eich cynghori i gymryd cyffuriau gwrthiselder neu feddyginiaeth arall. Yn aml mae cysylltiad rhwng hunan-niweidio ac iselder.
Awgrymiadau ar gyfer pobl sy’n hunan-niweidio
- Mae hunan-niweidio’n aml yn ffordd o ymdopi â phoen emosiynol, felly mae’n werth ceisio nodi pa deimladau sy’n gwneud i chi eisiau brifo’ch hun. Unwaith y byddwch chi’n ymwybodol o’ch sbardunau gallwch chi gymryd camau cadarnhaol i leihau neu atal yr ysfa i hunan-niweidio.
- Gofalwch am eich iechyd corfforol yn ogystal â’ch iechyd meddwl. Gall cael digon o gwsg, bwyta’n iach ac ymarfer corff yn rheolaidd eich helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol.
- Ysgrifennwch gynllun diogelwch i chi’ch hun. Gallai hyn gynnwys manylion yr hyn y gallwch ei wneud drosoch eich hun, a phwy y gallwch siarad ag ef os oes angen cymorth arnoch.
Mae cael rhywbeth wedi’i ysgrifennu i lawr yn gallu bod o gymorth, ac mae’n fwy tebygol o weithio oherwydd eich bod chi’n dewis y math o gefnogaeth rydych chi’n teimlo fwyaf cyfforddus ag ef. - Does dim rhaid i chi ymdopi â’ch holl broblemau ar eich pen eich hun. Mae’n bwysig dod o hyd i gefnogaeth. Os ydych chi o dan 18 oed, ewch at oedolyn y gallwch chi siarad ag ef ac ymddiried ynddo.
- Os ydych chi’n teimlo bod angen cefnogaeth arnoch chi o’r tu allan i’ch teulu agos, meddyliwch am siarad â pherthynas arall, eich athro/athrawes, cwnselydd ysgol, nyrs ysgol neu’ch gweithiwr cymdeithasol (os oes gennych chi un), neu cysylltwch â sefydliad fel Childline (0800 1111) neu, os ydych chi’n byw yng Nghymru, Meic (080 880 23456).
- Yn y tymor hwy, rhowch gynnig ar wahanol dechnegau i feithrin eich hunan-barch. Gall ymarfer siarad yn gadarnhaol â chi’ch hun helpu, yn ogystal â nodi a herio unrhyw beth negyddol y gallech chi fod yn ei gredu amdanoch chi’ch hun.
- Gallwn ddatblygu strategaethau ymdopi wrth geisio ymdopi â theimladau ac emosiynau sy’n ein llethu. Er enghraifft, dweud yr wyddor yn uchel neu ddal rhywbeth oer neu gynnes. Wrth roi cynnig ar strategaethau ymdopi newydd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ddiogel. Darllenwch fwy yn papyrus-uk.org
Cyngor i deuluoedd, partneriaid a gofalwyr
Yn aml, mae pobl yn ceisio cadw hunan-niweidio yn gyfrinach oherwydd cywilydd neu ofn cael eu darganfod.
Yn aml, teulu a ffrindiau agos sy’n sylwi gyntaf pan fydd rhywun yn hunan-niweidio, ac mae’n bwysig iawn mynd ati i godi’r mater gyda gofal a dealltwriaeth.
Os ydych chi’n meddwl bod ffrind neu berthynas yn hunan-niweidio, chwiliwch am unrhyw un o’r arwyddion canlynol:
- toriadau, cleisiau neu losgiadau heb eu hesbonio, fel arfer ar eu breichiau, eu harddyrnau, eu cluniau a’u brest
- arwyddion o iselder, fel hwyliau isel, dagreuol, neu dim cymhelliant neu ddiddordeb mewn unrhyw beth
- casáu eu hunain a chyfleu awydd i gosbi nhw eu hunain
- ddim eisiau cario ymlaen ac eisiau dod â’r cyfan i ben
- cadw draw’n llwyr oddi wrth bawb a phopeth a pheidio â siarad â phobl eraill
- gwneud yn siŵr nad oes neb yn gweld eu corff o gwbl, hyd yn oed mewn tywydd poeth
- arwyddion o hunan-barch isel, fel beio eu hunain am unrhyw broblemau, neu feddwl nad ydyn nhw’n ddigon da ar gyfer rhywbeth
- arwyddion eu bod nhw wedi bod yn tynnu eu gwallt
- efallai bod ganddyn nhw broblemau bwyta
- efallai bod ganddyn nhw broblem gyda chyffuriau neu alcohol
Gall pobl sy’n hunan-niweidio niweidio eu hunain yn ddifrifol, felly mae’n bwysig ceisio eu hannog i siarad â meddyg teulu am y broblem sylfaenol.
Adnoddau
Daflan NCMH: Self-harm
Podlediad Piece of Mind
Yn yr pennod hon rydym yn trafod profiadau personol o hunan-niwed a strategaethau i ymdopi, yr ymchwil ddiweddaraf yn y maes a sut y gall camddealltwriaeth a stygma atal pobl sy’n hunan-niwed rhag chwilio am gymorth.

