Beth yw anhwylderau bwyta?
Mae anhwylderau bwyta yn afiechydon meddwl sy’n gallu ymddangos fel meddyliau a theimladau sydd ddim yn dda am fwyd a bwyta, sy’n arwain at newidiadau sylweddol mewn ymddygiad.
Yr amcangyfrif yw bod anhwylderau bwyta yn effeithio ar oddeutu 1.6 miliwn o bobl yn y DU.
Mae anhwylderau bwyta yn gallu effeithio ar bobl o bob rhywedd, cefndir, grŵp ethnig ac oedran.
Mae sawl ffurf o anhwylder bwyta, ond y rhai mwyaf cyffredin yw anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED), bwlimia ac anorecsia.
Anhwylder gorfwyta mewn pyliau (BED)
Mae pobl â BED yn bwyta’n rheolaidd yr hyn y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn swm anarferol o fawr o fwyd mewn cyfnod byr ac yn teimlo nad oes ganddyn nhw reolaeth wrth wneud hynny. Yr enw am hyn, yn aml, yw gorfwyta mewn pyliau.
Bwlimia nerfosa
Mae pobl â bwlimia hefyd yn gorfwyta mewn pyliau, ond wedyn maen nhw’n cael gwared ar y bwyd maen nhw wedi’i fwyta (a elwir weithiau’n clirio) trwy wneud iddyn nhw eu hunain chwydu neu drwy ddefnyddio carthyddion.
Anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd (ARFID)
Mae ARFID yn gyflwr lle mae’r person yn osgoi rhai bwydydd neu fathau o fwyd, yn cyfyngu ar faint mae’n ei gymryd o ran cyfanswm y bwyd sy’n cael ei fwyta, neu’r ddau.
Anorecsia nerfosa
Mae pobl ag anorecsia yn cyfyngu’n sylweddol ar faint o fwyd maen nhw’n ei fwyta, yn aml yn bwyta llai nag sydd ei angen arnyn nhw i aros yn iach. Mae eu pwysau a siâp eu corff yn gallu bod yn ffocws mawr iddyn nhw.
Mae anhwylderau bwyta yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd ac ansawdd bywyd person. Mae aelodau’r teulu a ffrindiau yn gweld yr effaith hon hefyd.
Mae’r hyn sy’n achosi anhwylderau bwyta yn gymhleth, ond mae ymchwil yn awgrymu bod ein profiadau mewn bywyd, ein cyflwr seicolegol a’n geneteg i gyd yn chwarae rhan.
Cael help
Gall effeithiau corfforol anhwylderau bwyta fod yn ddifrifol, felly mae’n bwysig i bobl sydd wedi’u heffeithio ganddynt gael help. Y cam cyntaf tuag at gael help gydag anhwylder bwyta yw siarad â’ch meddyg teulu.
Gall mynd at eich doctor, p’un a ydych yn mynd ar eich rhan eich hun neu am rywun rydych yn gofidio amdanynt, ymddangos yn dasg frawychus. Efallai y byddwch yn teimlo cywilydd neu euogrwydd, neu eich bod yn gwastraffu eu hamser. Peidiwch â gadael i’r pethau hyn eich atal rhag siarad â’ch meddyg teulu a gofyn am help – dyna pam maent yno.
Mae’n eithaf cyffredin i unigolyn sydd ag anhwylder bwyta deimlo nad oes angen help arnynt, gan y gallai’r cyflwr deimlo fel rhan annatod ohonynt fel person. Er enghraifft, os bydd rhywun yn teimlo ei fod angen colli pwysau, gallent deimlo bod gwaredu yn ei helpu i wneud hyn, er gwaethaf yr effaith negyddol y gall gael ar ei les corfforol ac emosiynol.
Bydd eich meddyg yn deall hyn, ac mae’n iawn i chi sôn eich bod yn teimlo fel hyn. Gall eich meddyg ddefnyddio cyfres o gwestiynau er mwyn helpu i asesu a ydych yn dioddef anhwylder bwyta ai peidio.
Mae’n bwysig nodi na fydd ei ddiagnosis yn seiliedig ar y cwestiynau hyn yn unig, ac nid oes rhaid i chi roi ateb cadarnhaol i bob un ohonynt i gael diagnosis o anhwylder bwyta. Meddyliwch am eich atebion i’r cwestiynau hyn cyn i chi ymweld â’ch meddyg teulu – gallai helpu i wneud y sgwrs yn haws:
- Ydych chi’n chwydu am eich bod yn teimlo’n anghyfforddus o lawn?
- Ydych chi’n poeni eich bod wedi colli rheolaeth dros faint rydych yn ei fwyta?
- Ydych chi wedi colli mwy na stôn (6kg) mewn cyfnod o dri mis yn ddiweddar?
- Ydych chi’n credu eich bod yn dew pan fydd eraill yn dweud eich bod yn rhy denau?
- A fyddech chi’n dweud bod bwyd yn rheoli eich bywyd?
Bydd yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi siarad â’ch meddyg yn dibynnu ar eich anghenion. Mewn rhai achosion, bydd eich meddyg teulu yn eich trin ei hun, ond os bydd yn credu bod angen cymorth arbenigol arnoch, gallech gael eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl. Efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaeth anhwylder bwyta arbenigol os bydd eich meddyg teulu o’r farn bod ei angen.
Triniaethau ar gyfer anhwylderau bwyta
Mae profiad pawb o anhwylderau bwyta yn wahanol, felly mae triniaeth yn seiliedig ar anghenion pob unigolyn. I rai pobl, gallai’r cam cyntaf gynnwys dilyn rhaglen hunangymorth, efallai gydag anogaeth a chefnogaeth gan weithiwr iechyd proffesiynol.
Mae gwahanol fathau o driniaethau siarad ar gael hefyd ar gyfer anhwylderau bwyta yn dibynnu ar eich anghenion. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cael budd o ymgymryd â therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) neu therapi rhyngbersonol (IPT). Mae therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn fath o gwnsela sy’n helpu unigolyn i ddeall ac i newid y ffordd y maent yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae cwnsela Therapi Rhyngbersonol yn canolbwyntio ar broblemau â pherthnasau rhyngbersonol.
Gellir ystyried y ddwy ffurf hon o therapi ar gyfer pobl sy’n teimlo eu bod yn barod i newid eu patrwm bwyta. Mae ffurfiau eraill o therapi yn ddefnyddiol mewn amgylchiadau eraill, a chaiff yr opsiynau hyn eu hystyried gyda chi. Gall triniaeth hefyd gynnwys monitro eich iechyd corfforol yn ofalus.
Gellir rhagnodi meddyginiaeth i bobl sydd â bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau a’r rheini sydd â phroblemau gyda chyflyrau eraill megis iselder neu gorbryder, ond fel arfer, ni ellir gwneud hynny gydag anorecsia.
Cyngor i bobl ag anhwylderau bwyta
- Gall gofyn am help fod yn anodd iawn. Siaradwch â rhywun y gallwch ymddiried ynddo, boed yn rhiant, yn athro neu’n ffrind da.
- Bydd cael eu cefnogaeth yn ei gwneud hi’n haws i chi siarad â’ch meddyg.
- Dydy gwella o anhwylder bwyta ddim yn hawdd, ac mae’n gallu cymryd amser. Ceisiwch beidio â bod yn galed arnoch chi’ch hun os bydd rhywbeth yn digwydd sy’n arafu’r broses.
- Ceisiwch ddal ati i wneud y pethau sydd o ddiddordeb i chi, fel eich hobïau neu weld ffrindiau. Gall hyn helpu i gadw eich meddwl oddi ar arferion a ffyrdd negyddol o feddwl.
- Dysgwch gymaint ag y gallwch am anhwylderau bwyta. Mae llawer o lyfrau ar gael ar y pwnc, a ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol ar-lein (gweler y rhestr sydd wedi’i chynnwys yn y daflen hon).
- Gall fod o gymorth i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Gallwch ddod o hyd i grwpiau cymorth ar-lein – mae gan BEAT, yr elusen anhwylderau bwyta, gymunedau ar-lein ar gyfer pob oed ac ar gyfer gofalwyr a theuluoedd.
Cyngor i deuluoedd, partneriaid a gofalwyr
- Os yw rhywun sy’n bwysig i chi yn ymddiried ynoch chi am ei anhwylder bwyta, ceisiwch beidio â gwylltio na chynhyrfu. Gall fod yn anodd iawn gofyn am help felly byddwch yn gefnogol a cheisiwch ddeall.
- Gofynnwch i’ch anwylyd beth fyddai’n fuddiol neu ddim yn fuddiol, gan fod pawb yn wahanol.
- Ceisiwch ei gadw’n rhan o weithgareddau cymdeithasol, hyd yn oed os nad yw bob amser yn derbyn y gwahoddiad.
- Ceisiwch osgoi gwneud sylwadau am bwysau neu edrych yn ‘iachach’.
- Mae’n bwysig iawn bod yn amyneddgar. Efallai na fydd rhywun ag anhwylder bwyta bob amser yn awyddus i gael cymorth. Gall fod yn anodd delio â hyn, ond cofiwch mai’r salwch sy’n siarad, nid y person.
Ein hymchwil ARFID
Yma yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, rydym wrthi’n cynnal ymchwil i ddeall mwy am ARFID er mwyn helpu i ddarparu gwell triniaeth i’r rheini y mae’r cyflwr hwn yn effeithio arnyn nhw.
I gael gwybod mwy, ewch i: ncmh.info/arfid-signup

