Y mis hwn, yr Athro Jon Bisson fydd Cyfarwyddwr newydd y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH). Mae’n olynnu’r Athro Ian Jones sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr y ganolfan ers 2014.
Yn ystod ei flynyddoedd yn Gyfarwyddwr, mae Ian wedi llywio NCMH tuag at effaith ymchwil ar lefel y boblogaeth eang, yn enwedig ym maes anhwylderau hwyliau ac iechyd meddwl amenedigol.
Yn y cyfamser, mae Jon wedi bod yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yn arbenigwr trawma, gan arwain datblygiadau hanfodol mewn ymyriadau hygyrch ar gyfer anhwylder straen wedi trawma a chanllawiau trawma ar sail tystiolaeth. Gyda’i gilydd, mae eu cyfraniadau wedi gwneud NCMH yn sefydliad hollbwysig ym maes ymchwil, polisi ac ymarfer iechyd meddwl, yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Jon:
“Bu’n fraint fawr gweithio gydag Ian dros y degawd diwethaf a bod yn dyst i ddatblygiad a thwf NCMH o dan ei arweiniad. Rwy’n edrych ymlaen at helpu NCMH i barhau i ymgymryd ag ymchwil o’r radd flaenaf i wella iechyd a lles pobl sy’n cael eu heffeithio gan gyflyrau iechyd meddwl.”
