Astudiaeth gan gydweithwyr yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a Phrifysgol Caerdydd yn canfod bod y perimenopos yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu anhwylder deubegynol ac anhwylder iselhaol difrifol.
Beth yw’r perimenopos?
Mae’r perimenopos yn disgrifio’r amser trawsnewidiol o gwmpas cyfnod y mislif terfynol. Mae amseriad y menopos a phrofiadau ohono yn amrywio’n fawr rhwng unigolion. Mae symptomau cyffredin yn cynnwys pyliau poeth, sychder gweiniol a chwysu yn y nos, er nad yw rhai pobl yn profi unrhyw symptomau o gwbl.
Profiadau menywod yn ysbrydoli astudiaeth ymchwil
Canfu’r astudiaeth o 128,294 o unigolion, a luniwyd ac a arweiniwyd gan yr Athro Arianna Di Florio, fod cyfranogwyr dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder deubegynol am y tro cyntaf yn ystod – o gymharu â chyn – y perimenopos. Ar gyfer iselder difrifol, cynyddodd y risg yn ystod y perimenopos gan 30%.
Dywedodd yr Athro Di Florio: “Yn fy nghlinig, canfyddais i fod rhai menywod, a oedd yn byw bywydau heb unrhyw brofiad o broblemau iechyd meddwl difrifol o’r blaen, wedi datblygu salwch meddwl difrifol adeg y menopos.
“Mae ymchwil fel yr un yma’n hanfodol, gan fod menywod yn profi’r newidiadau dwys hyn yn eu bywydau a’u cyrff ac, ar hyn o bryd, yn cael eu gadael i lawr gan ddiffyg dealltwriaeth fanwl ohonyn nhw.”
“Yn ystod y perimenopos – y blynyddoedd o gwmpas cyfnod y mislif terfynol – mae tua 80% o bobl yn datblygu symptomau, gan gynnwys pyliau poeth, camweithrediad gwybyddol, aflonyddwch cwsg a symptomau sy’n gysylltiedig â hwyliau. Ond nid oedd graddau’r effaith ar ddechrau salwch meddwl difrifol yn hysbys.”
Er bod llawer yn ystyried bod hwyliau cyfnewidiol ac iselder ysgafn yn symptomau o’r perimenopos, ychydig iawn o ymchwil oedd wedi’i wneud i ymchwilio i’r effeithiau ar gyflyrau seiciatrig difrifol, yn enwedig mewn menywod nad oedd ganddyn nhw hanes o’r anhwylderau hyn. Roedd hyn yn golygu mai ychydig iawn o lenyddiaeth wyddonol sydd ar gael i hysbysu a chefnogi menywod y mae’r cyflyrau hyn yn effeithio arnyn nhw am y tro cyntaf yn ystod y perimenopos. “Rwy’n teimlo dyletswydd tuag at y menywod rwy’n gweithio gyda nhw. Roeddwn i eisiau rhoi’r atebion iddyn nhw a menywod eraill o ran pam roedden nhw’n teimlo fel hyn,” ychwanegodd yr Athro Di Florio.
Darllen rhagor
Prifysgol Caerdydd | Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol
Prifysgol Caerdydd | Perimenopos yn gysylltiedig â risg uwch o fania ac iselder manig
NCMH | Sut y gall y menopos gael effaith negyddol ar iechyd meddwl
NCMH | Gweminar menopos ac iechyd meddwl
Bipolar UK | Amdanom ni