Roedd yr arddangosfa yn dathlu cryfder ac ehangder ymchwil ac arloesi (R&I) sy’n digwydd ar draws sawl prifysgol yng Nghymru, ac yn rhan o ymrwymiad parhaus i arloesi a chydweithio yn Ewrop drwy raglen Horizon .
Yn bresennol roedd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford a dynnodd sylw at ymroddiad Cymru i hyrwyddo mentrau ymchwil arloesol sydd o fudd i’r economi a’r gymdeithas:
“Un o rinweddau mwyaf nodweddiadol ein prifysgolion yw pa mor dda y maent yn gwneud ymchwil yr ystyrir ei bod yn cael effaith ragorol yn rhyngwladol.”
Roedd Dr Amy Lynham yn arddangos platfform digidol sy’n cael ei ddefnyddio gan glinigwyr i brofi cof a swyddogaeth wybyddol mewn cleifion â seicosis.
Dywedodd Dr Lynham: “Nododd y digwyddiad hwn y DU yn ail-ymuno â rhaglen ymchwil ac arloesi’r UE sef Horizon Europe. Roedd wir yn bleser cael ein gwahodd gan Rwydwaith Arloesi Cymru i arddangos ein gwaith eto.
“Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu ag uwch arweinwyr o bob cwr o’r byd, gan gynnwys staff o’r Comisiwn Ewropeaidd ac asiantaethau ariannu cenedlaethol i ddangos Asesiad Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA) mewn amser real!”
I ddarllen rhagor am CONCA.
Gwahoddwyd Dr Catrin Lewis, gyda’i chanolbwynt ymchwil ar Anhwylder Straen Wedi Trawma i (PTSD) i ddangos Spring sef rhaglen hunangymorth digidol arloesol i drin PTSD a PTSD cymhleth.
Dywedodd Dr Lewis: “Roedd wir yn bleser cael cymryd rhan yn yr arddangosfa fawreddog hon ym Mrwsel. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ‘’Spring’ yn ogystal â llwyddiant y rhaglen hyd yn hyn ac i rannu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol gydag arweinwyr ymchwil o bob rhan o Ewrop.”
Mae rhaglen ‘Spring’ a’i datblygwyd gan Grŵp Ymchwil Straen Trawmatig Prifysgol Caerdydd eisoes wedi profi mor effeithiol â therapi ymddygiad gwybyddol wyneb yn wyneb gyda ffocws trawma (CBT-TF) yn eu treial diweddaraf, RAPID.
Wrth fyfyrio ar y diwrnod, nododd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford:
“Nawr ein bod yn gwbl gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe, mae gennym gyfle sylweddol i gryfhau partneriaethau rhyngwladol, denu doniau byd-eang a gwneud gwaith gwyddonol ac arloesol sydd ar flaen y gad, a all sicrhau manteision amlwg i gymdeithas yng Nghymru a thu hwnt.”
Dysgwch fwy am ymrwymiad Cymru i arloesi a chydweithio ledled Ewrop.
Darllenwch ragor
- NCMH | Arddangos offer digidol i drin a gwneud diagnosis o gyflyrau iechyd meddwl yn nigwyddiad y Llywodraeth
- NCMH | Ymchwilio i symptomau llai hysbys o ddirmygu a phryder
- NCMH | Hunangymorth dan arweiniad neu therapi wyneb yn wyneb: Datgelu canlyniadau treial pedair blynedd ynghylch PTSD
- Straen Trawmatig Cymru