Mae llawer o bobl sy’n wynebu problemau iechyd meddwl yn dweud eu bod yn cael anawsterau o ran eu cof a chanolbwyntio, sef yr hyn a elwir hefyd yn wybyddiaeth. Bydd anawsterau o ran gwybyddiaeth yn amrywio o’r ysgafn i’r difrifol a hwyrach y bydd y rhain yn effeithio ar allu rhywun i weithio a rheoli perthnasoedd cymdeithasol ac yn y cartref.
Yn achos rhai mathau o ddiagnosis megis seicosis, mae ymchwil drylwyr ar yr heriau hyn wedi bod ac rydyn ni’n dechrau deall yr achosion sy’n sail iddyn nhw.
Fodd bynnag, yn achos cyflyrau eraill, dim ond megis dechrau adnabod yr anawsterau hyn yr ydym, ac ychydig iawn a wyddom am achosion a maint yr heriau hyn.
Beth yw CONCA?
Offeryn asesu ar-lein yw CONCA a ddatblygwyd yn y Ganolfan i asesu’r anawsterau gwybyddol sy’n gysylltiedig yn benodol â rhoi diagnosis o iechyd meddwl, megis seicosis ac iselder.
Mae’r asesiad yn cynnwys pum tasg, megis gemau neu bosau sy’n mesur pethau fel y gallu i gofio gwybodaeth, adnabod y ffordd y bydd yr wyneb yn mynegi ei hun, a datrys problemau.
A yw pawb â diagnosis o iechyd meddwl yn wynebu heriau gwybyddol?
Ers 2017, mae mwy na 1,200 o bobl o garfan y Ganolfan wedi cwblhau ein hasesiad cof a chanolbwyntio (CONCA) ac wedi rhoi gwybodaeth am eu diagnosis, eu meddyginiaeth, eu symptomau, a’r ffordd maen nhw’n gweithio o ddydd i ddydd.
Roedd gan y bobl a holwyd gennym ystod o gyflyrau, gan gynnwys iselder, gorbryder, anhwylder deubegynol, anhwylder straen wedi trawma (PTSD), anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), a sgitsoffrenia. Llwyddodd mwy na dwy ran o dair o’r bobl a ddechreuodd yr asesiad i gwblhau’r asesiad llawn awr o hyd.
Roedden ni eisiau deall a oedd hanes o anhwylderau hwyliau neu seicosis yn gysylltiedig ag anhawster gwybyddol a chanfuon ni mai pobl a nododd ddiagnosis o sgitsoffrenia oedd fwyaf tebygol o amlygu heriau o ran eu gwybyddiaeth.
Roedd maint y swyddogaeth wybyddol yn amrywio o’r naill berson i’r llall, ac roedd rhai pobl a oedd heb broblemau o gwbl. Ond, yn gyffredinol, roedd pobl â diagnosis o sgitsoffrenia yn dangos namau clinigol sylweddol o ran y cof, canolbwyntio, a sgiliau datrys problemau.
Cafodd pobl â hanes o anhwylder deubegynol neu iselder sylweddol anawsterau o ran eu gwybyddiaeth hefyd. Fodd bynnag, roedd y rhain yn llai difrifol na’r rhai ymhlith pobl â sgitsoffrenia.
Ond, yn anad di, aethon ni ati i ystyried a oedd gan y bobl sy’n wynebu problemau gwybyddol anawsterau o ddydd i ddydd, waeth beth fo’u diagnosis iechyd meddwl.
Beth ddysgon ni?
Canfuon ni fod pobl sy’n wynebu heriau gwybyddol yn fwy tebygol o fod ag anawsterau mewn sawl agwedd ar eu bywyd, gan gynnwys rheoli cyfrifoldebau’r cartref, y gwaith neu’r ysgol, ymdrin â phobl, yn ogystal â gofalu amdanynt eu hunain.
Roedden ni eisiau gweld a fyddem yn dod o hyd i ganlyniadau tebyg mewn sampl fwy o boblogaeth Cymru. Er mwyn gwneud hyn, ymunon ni â Doeth am Iechyd Cymru yn 2020, sef astudiaeth ar-lein fawr o bobl sy’n byw yng Nghymru, a gofyn i’r sawl a oedd yn cymryd rhan i gwblhau asesiad CONCA.
Roedd hyn yn ein galluogi i adnabod pobl sydd hwyrach â symptomau salwch meddwl ond nad ydyn nhw efallai wedi ceisio cymorth ar gyfer y rhain.
Canfuon ni fod gan bobl sydd â symptomau iselder a gorbryder wybyddiaeth waeth, hyd yn oed os nad oedden nhw wedi cael diagnosis o’r cyflyrau hyn.
Mae hyn yn dangos yr effaith ehangach y bydd salwch meddwl yn ei chael weithiau ar broblemau’r cof a chanolbwyntio. Yn ogystal, yn union fel y nododd astudiaeth gychwynnol y Ganolfan, arweiniodd yr heriau gwybyddol hyn at anawsterau gweithredu o ddydd i ddydd.
Gwybyddiaeth ac anabledd
Roedden ni hefyd eisiau trafod pa ffactorau a allai esbonio’r berthynas rhwng gwybyddiaeth ac anabledd a nodwyd yn y ddau sampl.
Canfuon ni fod anawsterau o ran symudedd, hunanofal, rheoli’r cartref, perthnasoedd cymdeithasol a rhyngweithio â’r gymuned yn tueddu i ddilyn problemau gwybyddol. Eglurwyd hyn yn rhannol (ond nid yn gyfan gwbl) gan fod pobl â phroblemau gwybyddol yn fwy tebygol o fod â symptomau iselder a gorbryder ar adeg yr asesiad.
Nid oedd ffactorau ffordd o fyw, megis lefelau ymarfer corff, neu yfed alcohol ac ysmygu, yn esbonio unrhyw ran o’r berthynas rhwng gwybyddiaeth ac anabledd.
Beth mae’r canlyniadau hyn yn ei ddweud wrthym?
Mae gan y canlyniadau hyn oblygiadau pwysig o ran sut mae cleifion yn cael eu trin mewn clinigau.
Ar hyn o bryd, nid yw namau gwybyddol yn cael eu cydnabod yn dda iawn mewn lleoliadau iechyd ac nid oes llawer o opsiynau o ran triniaeth. Felly, rydyn ni’n datblygu offeryn a all helpu meddygon a nyrsys i fesur cof cleifion a’u gallu i ganolbwyntio i’w helpu i ddeall swyddogaeth wybyddol pobl yn well a chynllunio eu gofal yn unol â hynny.
Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl â phrofiad bywyd i greu rhaglen newydd a fydd yn cyflwyno adroddiad i weithwyr iechyd proffesiynol pan fydd rhywun yn cael ei asesu mewn clinig.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni wedi gwrando ar awgrymiadau gan y sawl sydd wedi cymryd rhan ac wedi ychwanegu adran ar wefan CONCA i roi adborth ar sgoriau tasgau unigol.
Mae’r fersiwn newydd o’r wefan a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir yn cynnwys tudalen “Fy Mhroffil”, sy’n rhoi gwybodaeth am sgoriau personol, yn olrhain newidiadau mewn perfformiad dros amser ac yn rhoi rhagor o wybodaeth am y tasgau a’r hyn y maen nhw’n ei fesur.
Mae cynlluniau ar gyfer rhaglen CONCA yn y dyfodol hefyd yn cynnwys ystyried namau gwybyddol sy’n effeithio ar gyflyrau eraill, megis anhwylderau gorbryder ac Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).
Darganfyddwch fwy am y Cardiff ONline Cognitive Assessment (CONCA)