Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yw un o’r cyflyrau niwroddatblygiadol mwyaf cyffredin, gan effeithio ar tua 1 o bob 20 o bobl ifanc.
Fodd bynnag, mewn clinigau dim ond un ferch fydd yn cael diagnosis ADHD o’i chymharu â phob saith neu wyth o fechgyn.
Mae’r bwlch hwn mewn diagnosis yn rhywbeth y mae Dr Joanna Martin a’i thîm yn ymchwilio iddo mewn ymchwil i ADHD mewn merched, menywod ifanc, a phobl anneuaidd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gwrandewch ar y podlediad
Beth rydyn ni’n ei wybod am ADHD?
Cyflwr niwroddatblygiadol, sydd â symptomau gan gynnwys lefelau o ddiffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra sy’n ymyrryd â bywyd beunyddiol ac sy’n amhriodol i’r oedran yw Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am ADHD, yn aml byddan nhw’n cyfeirio at y math cyfunol hwn.
Fodd bynnag, mae yna hefyd is-deipiau o’r anhwylder sydd ond yn cynnwys anawsterau o ran canolbwyntio a diffyg sylw neu orfywiogrwydd a byrbwylltra.
Y ddelwedd hon o ADHD y mae Ellie yn ei phriodoli i’w diagnosis pan yn oedolyn, gan nad oedd yn sylweddoli y bydd symptomau weithiau’n golygu diffyg sylw, yn ogystal â gorfywiogrwydd mwy mewnol.
“Un o’r rhesymau pam nad o’n i’n meddwl am gyhyd bod gen i ADHD yw bod gen i syniad penodol o sut beth oedd e, ro’n i’n meddwl mai gorfywiogrwydd corfforol yn unig oedd e ymhlith bechgyn ifanc”.
Y gwahaniaeth hwn yng nghyfansoddiad ADHD oedd wedi symbylu Dr Martin yn y lle cyntaf. Mae ei hymchwil yn ceisio dal rhagor o symptomau’r anhwylder er mwyn cael darlun cliriach o sut mae’n ymddangos ymhlith merched, menywod ifanc a phobl anneuaidd.
Bydd y canfyddiadau hyn hefyd yn helpu i ddatblygu offeryn asesu sy’n cynnwys ystod fwy amrywiol o nodweddion ADHD y gellir eu defnyddio mewn ysgolion ac a fydd hwyrach yn arwain at ragor o ferched ifanc yn cael diagnosis.
Mae Ellie yn trafod effaith diagnosis hwyr yn y rhifyn, gan awgrymu y gall fod wedi cael rhagor o gymorth yn y Brifysgol pe bai’n gwybod am ADHD, yn ogystal â’r cymorth y mae wedi dod o hyd iddo ers hynny mewn cymunedau ar-lein.
Pwysigrwydd ymchwil gynhwysol
Pwysleisiodd Dr Martin y trafferthion cychwynnol i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ADHD mewn merched a menywod ifanc.
“Mae cymaint o’r data sydd eisoes ar gael yn canolbwyntio ar ADHD sy’n effeithio ar fechgyn a dynion ifanc”.
Fodd bynnag, yn ôl Dr Martin, yn sgil targedu’r ymchwil ar ferched a menywod ifanc yn y lle cyntaf, daeth yn amlwg bod hunaniaeth rhywedd yn gysyniad llawer mwy hyblyg gan nad yw pawb yn uniaethu â’r rhyw a briodolwyd iddyn nhw ar adeg eu geni.
Wrth edrych ar y setiau data presennol sydd ar gael, nid yw gwybodaeth am hunaniaeth rhywedd ar gael gan nad yw wedi cael ei chasglu’n amlach na heb.
Mae hyn yn rhywbeth y mae Dr Martin yn bwriadu ei newid yn ei hymchwil, gan gadw’r meini prawf cynhwysiant ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mor eang â phosibl, a hynny er mwyn cynyddu’r data hwn a hefyd i helpu pobl a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni (AFAB) i elwa ar gymorth yn gynharach.
Mae ymchwil Dr Martin, a hoffai glywed gan fenywod ifanc a phobl anneuaidd sydd â diagnosis ADHD, yn ogystal â rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ac addysg wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Pwysleisiodd Ellie hefyd bwysigrwydd cymryd rhan mewn ymchwil yn ogystal â pharhau â’r drafodaeth am ADHD.
“Fy ngobaith, wrth rannu fy mhrofiadau, yw y bydd pobl eraill hwyrach yn gallu uniaethu â hyn a chydnabod ei bod yn bosibl bod ganddyn nhwthau ADHD”.
Mae’r cyfnod i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gymryd rhan yn yr ymchwil hon bellach wedi dod i ben. Fodd bynnag, os ydych chi’n weithiwr proffesiynol ym maes addysg, hoffai’r tîm glywed gennych o hyd.