Ddydd Sadwrn 7 Mehefin, fe aeth y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl i drydydd digwyddiad blynyddol Gŵyl Everywoman yng Nghwrt Insole, Caerdydd.
Digwyddiad undydd yw’r ŵyl sy’n gyfle i ddathlu iechyd menywod a’u grymuso. Wedi’i sefydlu yn 2023 gan yr Athro Julie Cornish, mae Gŵyl Everywoman yn parhau â’i chenhadaeth o rannu gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arweiniad arbenigol ar ystod eang o bynciau iechyd gyda phawb sy’n bresennol.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol dan arweiniad gweithwyr meddygol proffesiynol, eiriolwyr cleifion, a goroeswyr ac yn cynnwys trafodaethau ar ffibroidau, trais ar sail rhywedd, y menopos, goroesi canser, iechyd y pelfis, ac iechyd meddwl. Roedd sesiynau arbennig hefyd yn ymdrin â materion cyfoes megis iechyd hormonaidd, endometriosis, ymarferion llawr y pelfis, a rheoli pwysau.
Yn y Babell Addysg, arddangosodd y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl adnoddau ar wahanol gyflyrau iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o ddwy astudiaeth yn ymwneud ag iechyd meddwl atgenhedlol.
Yn gyntaf, nod yr astudiaeth Mamau ac Iechyd Meddwl (MaM) yw nodi’r ffactorau sy’n achosi a sbarduno salwch meddwl difrifol yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. Yn ail, mae astudiaeth PreDDICT yn edrych ar achosion a sbardunau anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD); anhwylder hwyliau gyda symptomau sy’n ymddangos yn ystod cyfnod lwteal y gylchred fislifol.
Dywedodd yr ymchwilydd iechyd meddwl atgenhedlu, Jess Yang: “Roedd hi’n wych bod yn bresennol yn Ngŵyl Everywoman eto eleni i sgwrsio â phobl am ein hymchwil parhaus yn ymwneud ag iechyd meddwl atgenhedlol. Clywson gan lawer o fenywod a oedd yn uniaethu â’r profiadau rydyn ni’n eu trin a’u trafod yn ein hymchwil, ac roedd mor ddefnyddiol siarad â nhw a sefydliadau tebyg ynglŷn â sut y gallwn ni ddatblygu’r maes gyda’n gilydd.”
Drwy gyfuno gwybodaeth feddygol, cefnogaeth gymunedol a mynegiant creadigol, mae strategaeth gynhwysfawr yr ŵyl yn cadarnhau ei safle yn lwyfan arloesol yn y DU. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ehangu i leoliadau newydd, gan gynnwys Llundain yn 2026.