Byddwch siŵr o fod wedi clywed am Syndrom Cyn Mislif (PMS) – yr adeg honno o’r mis pan rydych chi’n teimlo’n fwy emosiynol nag arfer, yn dioddef o fola tost, ac efallai’n teimlo’n ddi-hwyl yn y cyfnod cyn eich mislif.
Mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn achosi amrywiaeth o symptomau emosiynol a chorfforol bob mis yn ystod yr wythnos neu ddwy cyn eich mislif. Weithiau mae’n cael ei alw ‘PMS difrifol’. – Mind
Mae’r Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD) yn disgrifio Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) fel anhwylder hwyliau cylchol sy’n seiliedig ar hormonau, gyda symptomau’n ymddangos yn ystod y cyfnod cyn y mislif, neu gyfnod lwteal y cylch mislif, ac yn dechrau diflannu ychydig ddyddiau ar ôl dechrau’r mislif.
Beth mae Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn ei olygu i’r rhai y mae’r cyflwr yn effeithio arnyn nhw?
Wel, os ydym yn dadansoddi’r peth, mae ‘cyn mislif’ yn cyfeirio at y cyfnod cyn y mislif, a gellid disgrifio ‘dysfforig’ fel y gwrthwyneb i ewfforig – cyflwr o anhawster, felly. Enw’r cyflwr yn Saesneg yw ‘Premenstrual Dysphoric Disorder’ ac yn ôl Google, diffiniad ‘disorder’ yw ‘a confused or messy state’.
Felly, gellir diffinio PMDD fel ‘bod mewn cyflwr anodd, dryslyd a blêr cyn mislif’.
Ond rydw i hefyd yn gwybod beth nad yw’n rhan o’r diffiniad o PMDD.
Er bod PMS a PMDD ill dau yn gysylltiedig â’r cylch mislif, ac er ei fod yn broblem ddilys, credir nad yw PMS yn gyflwr mor wanychol.
Wnes i erioed gysylltu pa mor isel roeddwn i’n teimlo na hyd yn oed fy symptomau corfforol â’m cylch mislif.
Yn syml, roeddwn i’n ei weld fel cyfnodau o iselder. Pryd bynnag fy mod i’n dechrau meddwl am drafod fy symptomau gyda meddyg, byddai fy iselder yn codi a byddwn i’n meddwl fy mod i wedi ‘gwella’.
Roeddwn i’n cysylltu fy hwyliau gwell â’r ffaith fy mod i wedi bwyta’n iachach ac wedi bod yn gwneud ymarfer corff, ac er bod cysylltiad rhwng y pethau hyn, rwy’n sylweddoli nawr y gall y ffordd hon o feddwl fod yn beryglus.
Dyma pam: rydych chi’n teimlo’n dda, yn ôl pob golwg am eich bod wedi bod yn gofalu am eich hun, ac rydych chi’n teimlo’n falch o hynny.
Rydych chi hefyd yn rhoi pwysau ar eich hun i barhau â’r ffordd o fyw iach, hapus yma. Ond, pan rydych chi’n teimlo’n fwy isel (boed hynny o ganlyniad i PMDD ai peidio – mae’n beth naturiol), rydych chi wrth gwrs yn teimlo bod hyn oherwydd eich diffyg gweithredu, ac rydych chi’n gofyn cwestiynau i’ch hun fel “Wnes i ddim digon? Ai fy mai i yw hwn?”
Gall PMDD fod yn ergyd mawr i’r bobl hapusaf, hyd yn oed.
Mae’r niwl yn cyrraedd mor gyflym, prin y byddwch chi’n ei weld yn dod cyn iddo eich amgylchynu, ac yna pan fydd y niwl yn codi, rydych chi’n cwestiynu pa mor wael oedd y peth mewn gwirionedd.
Y broblem o ran PMDD yw ei fod hefyd yn gwneud i chi gasáu eich hun.
Os ydych chi eisoes yn teimlo’n gyfrifol am eich hwyliau, mae’r hunangasineb hwnnw yn gallu eich rhoi chi mewn lle tywyll iawn a gwneud i chi deimlo cywilydd ac embaras am fod ‘mor ddramatig ac emosiynol.’
Dros y blynyddoedd rydw i wedi bod yn ôl ac ymlaen at y meddyg ac wedi cael triniaeth ar gyfer fy hwyliau a meigryn, ond doedd dim sôn – ganddyn nhw na fi – am unrhyw gysylltiad â fy nghylch mislif.
Dywedwyd wrthyf bob amser i wneud mwy o ymarfer corff, ac ar un achlysur pan siaradais am fy mhryderon ynglŷn â’m hanhwylder bwyta, fe wnaethon nhw fy mhwyso a dweud wrthyf, er fy mod i ar ben isaf yr hyn sy’n cael ei ystyried yn bwysau iach, nad oedd yn ddigon isel i fod yn broblem.
Yn lle, cefais restr o fwydydd y dylwn eu bwyta, a dyna ddiwedd y peth.
Am flynyddoedd, parhaodd y patrwm hwn – weithiau byddai fy symptomau yn gwaethygu ac weithiau doeddwn nhw ddim mor wael, ac rwy’n gwybod nawr bod hynny oherwydd y gwahanol ddulliau atal cenhedlu rydw i wedi’u defnyddio dros y blynyddoedd.
Ar ddechrau 2019, ar ôl Nadolig arbennig o wael, penderfynais fod angen i mi weithio allan beth oedd yn achosi’r newidiadau dramatig i’m hwyliau, a dechreuais gadw dyddiadur.
A bod yn onest, gyda’r holl deimladau negyddol am fy hun, roeddwn i’n cymryd mai rhywbeth roeddwn i’n ei wneud (neu hyd yn oed yn ei fwyta) a oedd yn gwneud i mi ‘ymddwyn mewn ffordd mor eratig’.
Erbyn mis Ebrill, roeddwn i wedi bod yn cadw dyddiadur ers rhai misoedd ac er nad oeddwn i wedi sylwi bod fy symptomau wedi gwella, roedd y weithred hon o hunanofal yn teimlo fel cam cadarnhaol.
Un noson, roeddwn i’n eistedd yn sgrolio drwy Instagram a gwelais neges gan ffrind a yn disgrifio symptomau PMDD, ac wrth i mi ddarllen drwy’r rhestr fe wnaeth rhywbeth fy nharo i.
Roedd pob un o’r symptomau yn gyfarwydd, a chefais deimlad enfawr o ryddhad a dilysiad.
Fodd bynnag, profiad byr oedd hwn, wrth i mi ymateb i’r wybodaeth newydd hon drwy feddwl mai dim ond bod yn ddramatig oeddwn i eto, ac nad oes gen i gyflwr mewn gwirionedd; rwy’n gwneud môr a mynydd o’r peth.
Fodd bynnag, roedd fy nyddiadur yn brawf fy mod i’n anghywir, ac roeddwn i’n gallu gweld o’r ychydig fisoedd o gofnodi fy hwyliau ei fod yn cyd-ddigwydd â’m cylch mislif 100%.
Roedd sylweddoli bod PMDD, mewn gwirionedd, yn debygol o fod wedi effeithio arnaf i ers i mi gyrraedd fy arddegau, yn rhywbeth fyddai’n newid fy mywyd.
Roedd yn glir pam nad oeddwn i erioed wedi clywed am PMDD – mae’n gymysgedd o stigma iechyd meddwl a chywilydd ynghylch y mislif, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth y mae pobl yn sôn amdano na hyd yn oed yn ei gydnabod.
Y camau cyntaf tuag at ddiagnosis
Roeddwn i wedi clywed y gallai cael diagnosis fod yn anodd am y rheswm hwn, ac ychydig ddyddiau’n ddiweddarach es i i weld fy meddyg teulu gyda’m dyddiadur wrth law, yn barod i gyflwyno fy achos.
Eisteddodd fy meddyg yn gwrando arnaf yn ddifynegiant wrth i mi egluro fy mod i wedi bod yn olrhain fy symptomau, fy mod i wedi gwneud fy ymchwil fy hun, a’m bod yn yn eithaf sicr bod gen i PMDD.
Roeddwn i’n disgwyl iddi fy niystyru – roeddwn i wedi paratoi fy hun ar gyfer brwydr, ac roeddwn i’n barod i feddwl am gael ail farn ac i ystyried gofal iechyd preifat. Ond ei hateb oedd, “Dydw i ddim yn sicr, ond rwy’n meddwl y gallech chi fod yn iawn.”
Roeddwn i wedi cael profion gwaed ynghylch cyflyrau eraill yn ddiweddar a oedd yn dangos nad oedd gen i’r cyflyrau hynny, ac roedd gen i’r dystiolaeth yno i’m cefnogi, ond doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth – roedd yn teimlo bod fy mrwydr drosodd o’r diwedd.
Yn anffodus, roedd y frwydr ymhell o fod ar ben, ac er i mi ddweud wrth fy meddyg fy mod i a’m gŵr yn ystyried dechrau teulu yn fuan, fe wnaeth hi ragnodi’r ‘bilsen fach’, ac mewn gwirionedd fe wnaeth hynny waethygu fy symptomau.
Roeddwn i’n teimlo’n ddigalon oherwydd roeddwn i’n hanner disgwyl iddi chwifio hudlath i’m gwella’n syth, ond nid hynny ddigwyddodd.
Er fy mod i’n teimlo mor ffodus i fod wedi ei gweld hi ar y diwrnod hwnnw ac yn teimlo’n ddiolchgar am fy niagnosis, mae’n amlwg nad oedd ganddi lawer o ddealltwriaeth o PMDD.
Fodd bynnag, roedd cael rhywun yn ystyried ac yn gwrando ar fy safbwynt yn dilysu fy nheimladau.
Er efallai nad yw fy meddyg yn deall fy nghyflwr yn llawn, rwy’n gobeithio y bydd hi’n chwarae rhan yn fy helpu i reoli fy symptomau, fel y byddaf i’n ei wneud hefyd.
Ond nid mater i feddyg yn unig yw fy nhrwsio, ac yn yr un modd nid mater i mi yn unig yw trwsio fy hun chwaith. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i mi ddysgu peidio â bod yn grac gyda fy hun pan nad ydw i’n cael diwrnod gwych.
Mae fy meddyg yn cynnig cymorth pwysig i mi yn fy mrwydr yn erbyn PMDD, ond yn y pen draw, fi fydd yn gorfod codi fy llais i siarad am fy nghorff fy hun.
Read more
Mind | Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD)
NCMH | Help gyda’n hymchwil Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif neu PMDD
NCMH | Nod astudiaeth newydd yw deall achosion Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif
NCMH | Hormonau a’m Hiechyd Meddwl; mae PMDD yn fy ngwneud yn gyfan
Resources
Webinar | PMDD: Myths and Misconceptions
IAPMD | About PMDD
IAPMD | Women and Depression
IAPMD | Transgender and PMDD
IAPMD | Diagnosis
IAPMD | Toolkit