Mae Mai 2024 yn nodi 20 mlynedd ers digwyddiad arwyddocaol yn fy mywyd. Yn 2004, ar ôl genedigaeth fy mhlentyn cyntaf, profais seicosis ôl-enedigol difrifol, salwch a ddaeth i’r amlwg yn sydyn, heb rybudd, ac a effeithiodd yn ddramatig ar fy mywyd a’m teulu.
Unarddeg diwrnod ar ôl rhoi genedigaeth cefais fy nghadw dan orchymyn Iechyd Meddwl a’m hanfon i ward iechyd meddwl acíwt oedolion rhywedd cymysg, a oedd yn brofiad arswydus i fam newydd oedd yn cael ei gwahanu oddi wrth ei babi a’i phlentyn. Wedi hynny, fe wnes i barhau â’m triniaeth a’m hadferiad mewn Uned Mamau a Babanod.
Ar ôl genedigaeth fy ail blentyn yn 2007, profais seicosis ôl-enedigol eto, a bu angen i mi aros eto mewn uned mamau a babanod, yn ogystal â chael meddyginiaeth a thriniaeth ymosodol.
Fe es i’n sâl eto naw mlynedd yn ôl a chael diagnosis o anhwylder deubegynol, anhwylder y credir yn aml ei fod yn dod i’r amlwg ar ôl profi seicosis ôl-enedigol.
Myfyrio ynghylch yr ugain mlynedd diwethaf
Rwyf bellach yn gweithio yn y GIG fel gweithiwr cymorth cymheiriaid iechyd meddwl amenedigol, rôl sy’n fy ngalluogi i dynnu ar fy mhrofiad fy hun o seicosis ôl-enedigol i ddarparu cymorth iechyd meddwl 1:1 i fenywod yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl genedigaeth.
Mae fy rôl yn rhan o dîm ehangach sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol sy’n darparu cymysgedd o ofal clinigol a chyfannol i fenywod sydd angen cymorth ychwanegol gyda’u hiechyd meddwl mamol.
Rwyf hefyd yn meddwl bod fy mhrofiad o seicosis ôl-enedigol yn fy ngalluogi i ddarparu mewnwelediad persbectif claf i feddygon, nad yw o bosib wedi cael ei ystyried yn llawn.
Newid agweddau tuag at iechyd meddwl mamau
Pan brofais seicosis ôl-enedigol am y tro cyntaf ugain mlynedd yn ôl, doedd rôl fy swydd ddim yn bodoli, ac roedd hynny’n ei gwneud hi’n anoddach cysylltu â mamau eraill a oedd wedi profi rhywbeth tebyg oherwydd y stigma mawr a’r diffyg adnoddau.
Nid oedd grwpiau cymorth a chymunedau ar-lein mor gyffredin bryd hynny chwaith. Fodd bynnag, dros amser cefais gymorth gan elusennau trydydd sector fel Action on Postpartum Psychosis (APP) – sefydliad sy’n gweithio’n ddiflino i gynyddu ymwybyddiaeth gyhoeddus a chlinigol o seicosis ôl-enedigol trwy hyfforddiant ac addysg.
Er bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol o gyflyrau iechyd meddwl wedi cynyddu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae llawer o ffordd i fynd eto o ran iechyd meddwl mamau newydd, ac yn arbennig seicosis ôl-enedigol.
Trwy’r NCMH rwyf wedi cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil ar iechyd meddwl mamau, ac rwy’n annog eraill i wneud hynny hefyd, fel bod modd i’n lleisiau gael eu deall yn well. Fy nod pennaf yw defnyddio fy mhrofiadau i helpu i hysbysu a chefnogi mamau a theuluoedd eraill yn gadarnhaol.
Rwy’n angerddol am wella’r llwybrau i fenywod gael mynediad at gymorth gyda’u hiechyd meddwl mamol sydd, yn fy marn i, yn cynnwys addysg a hyfforddiant ehangach i holl dimau’r GIG er mwyn darparu cymorth effeithiol.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig hyfforddi’r holl staff am anghenion iechyd corfforol a meddyliol unigryw mamau beichiog a mamau ôl-enedigol yn y lleoliadau hyn, yn ogystal â dealltwriaeth ychwanegol o’r effaith bosibl y gall gwahanu mam a’i baban yn y tymor byr a’r hirdymor ei chael.
Yn rhy aml, caiff mamau eu derbyn i wardiau seiciatrig acíwt cymysg ochr yn ochr ag unigolion eraill sâl iawn mewn argyfyngau iechyd meddwl amrywiol, a all achosi trawma ychwanegol.
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, y newidiadau mwyaf i mi eu gweld yng Nghymru oedd y rôl barhaol i un gweithiwr cymorth cymheiriaid iechyd meddwl amenedigol ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan, yn ogystal ag agor Uned Gobaith, sef Uned Mamau a Babanod newydd yng Nghymru ac Uned newydd arfaethedig yng Ngogledd Cymru, sydd i agor yn ddiweddarach eleni.
Wrth i mi gloi’r blog hwn, tybed beth fydd fy myfyrdodau dros yr ugain mlynedd nesaf o ran deall a gofalu am iechyd meddwl mamol. Ar y cyfan, rwy’n llawn gobaith ynghylch darpar famau a mamau newydd y dyfodol.
Cymerwch ran yn ein hymchwil Mamau ac Iechyd Meddwl heddiw
Adnoddau
- NCMH | Stori Barbara