Sylwch fod y blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.
Er i gyfraddau hunanladdiad byd-eang ostwng, bydd tua 30-60% o bobl sy’n byw ag anhwylder deubegynol yn gwneud o leiaf un ymgais i ladd eu hunain, gyda 15-20% yn marw drwy hunanladdiad.
At hynny, mae hunanladdiad yn rhannol gyfrifol am ddisgwyliad oes is pobl sy’n byw ag anhwylder deubegynol, sydd tua 20 mlynedd yn is na’r boblogaeth gyffredinol.
Gallai’r niferoedd hyn fod yn llawer mwy mewn gwirionedd, oherwydd yn ogystal â’r ffaith bod hunanladdiad ymhlith pobl ag anhwylder deubegynol yn faes ymchwil nad yw’n cael digon o adnoddau, mae’n cymryd deng mlynedd ar gyfartaledd i fynd o’r cam o geisio cael cymorth hyd at gael diagnosis.
Pontio’r bwlch dealltwriaeth
Er bod gan bobl ag anhwylder deubegynol ymwybyddiaeth o risg hunanladdiad, mae ymchwil wedi dangos bod y rhai sy’n byw gyda’r cyflwr yn aml yn fwy sâl ac yn cael teimladau hunanladdol i raddau mwy difrifol na’r hyn y mae eu hasesiadau gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ei ddangos, weithiau hyd yn oed yn yr wythnos cyn i rywun ladd ei hun.
Mae’r gwahaniaeth hwn rhwng asesiadau clinigol a sut mae pobl yn teimlo mewn gwirionedd yn awgrymu diffyg dealltwriaeth o sut mae ymddygiad hunanladdol yn ymddangos yn wahanol o berson i berson, yn enwedig ymhlith y rhai ag anhwylder deubegynol.
Gwnaeth Dr Gergel, sy’n byw ag anhwylder deubegynol, dynnu sylw at y diffyg dealltwriaeth hwn drwy rannu ei phrofiad ei hun:
“Y nodwedd fwyaf hollbresennol a dinistriol [o fy mhyliau] yw teimladau hunanladdol obsesiynol a di-baid sydd, yn rhy aml o lawer, wedi arwain at benderfyniad i ladd fy hun a chamau tuag at gyflawni hynny.”
Fodd bynnag, pwysleisiodd Dr Gergel na lwyddodd unrhyw un i sylwi’r ‘trais, aflonyddwch, afresymoldeb, a diffyg rheolaeth yn fy meddwl’ gan ei bod i’w gweld yn ddigynnwrf ac yn mynegi ei hun yn glir.
O ganlyniad i hyn cafodd ei rhyddhau o ofal, gan fod ei hasesiad clinigol yn nodi nad oedd mewn perygl.
Gan herio hyn, nododd Dr Gergel ei bod o blaid defnyddio Dogfennau Dewis Ymlaen Llaw, sy’n cael eu hysgrifennu gan yr unigolyn ac yn amlinellu pa driniaeth a gofal yr hoffai’r unigolyn eu cael pe bai’n cael pwl, a hefyd pa symptomau y mae angen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gadw llygad amdanynt er mwyn darparu’r gofal gorau ac atal yr unigolyn rhag lladd ei hun.
“Gyda fy nogfen hunan-rwymol, rwy’n gobeithio y byddaf, unwaith eto, yn gallu amddiffyn fy hun a fy nheulu rhag y weithred hunan-ddinistriol o hunanladdiad o ganlyniad i anhwylder deubegynol.”
Ymhlith yr argymhellion pellach a wnaeth Dr Gergel mae newid yr iaith ynghylch hunanladdiad. Drwy gyfeirio at rywun fel rhywun sydd wedi ‘goroesi hunanladdiad’ yn hytrach na chyfeirio at yr ymgais, nid yw bellach yn tanseilio pa mor ddifrifol a phwrpasol oedd y weithred.
At hynny, mae Dr Gergel yn galw am bobl sy’n arbenigo mewn profiad bywyd i lenwi’r bylchau o ran y ddealltwriaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ag anhwylder deubegynol, gan gyfeirio at eu syniadau hynod werthfawr fel ‘adnodd nad yw’n cael ei ddefnyddio’.
Mae cynnwys pobl â phrofiad bywyd mewn gwaith ymchwil nid yn unig yn caniatáu i glinigwyr adnabod y gwahanol ffyrdd y gall hunanladdiad godi, mae hefyd yn hybu hunan-fyfyrio ynghylch patrymau hwyliau a symptomau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad gan ganiatáu ar gyfer rhoi mesurau ataliol ar waith.
“Rydw i ymhlith y rhai ffodus – yn gyntaf, o ran goroesi sawl ymgais i ladd fy hun, ac yn ail, o gael cymorth clinigol a chymorth allanol i sicrhau bod modd deall a rheoli fy nheimladau a risg o hunanladdiad erbyn hyn.
“Mae gwybod bod cymaint o bobl yn dal i farw yn fy mhoeni i’n fawr. Pam mae lleihau nifer y bobl ag anhwylder deubegynol sy’n lladd eu hunain mor anodd? Pam mae cyn lleied o ymchwil effeithiol wedi’i thargedu’n cael ei gwneud i leihau risgiau a chynyddu cyfraddau goroesi?”
Mae ‘Suicide and bipolar disorder: opportunities to change the agenda‘ ar gael i’w darllen yn The Lancet Psychiatry