Rydym yn ceisio deall Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) yn well a’i effaith ar fywydau pobl.
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod wedi cael diagnosis o PMDD neu Syndrom Cynfislifol Difrifol (PMS), neu’n profi’r symptomau cynfislifol difrifol yn rheolaidd yr wythnos cyn eich mislif?
Rydym wedi lansio arolwg i astudio’r cyflyrau hyn a dysgu sut y gallwn eu rheoli.
Beth yw PMDD?
Mae (PMDD) yn anhwylder hwyliau yr amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar tua 5.5% o’r bobl sy’n cael mislif.
Yn ystod yr wythnos cyn eu mislif, a elwir yn gyfnod lwteal, mae pobl â PMDD yn profi symptomau megis:
- Iselder neu hwyliau hynod isel
- Gorbryder
- Llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol (megis gwaith, ysgol, ffrindiau a hobïau)
- Syrthni, blino’n hawdd neu ddiffyg egni
- Cysgu’n ormodol neu ddiffyg cwsg
Gall y symptomau hyn fod yn bresennol am fwy na dau gylch yn olynol a dechrau gwella o fewn ychydig ddyddiau wedi i’r mislif ddechrau.
Gyda chyfartaledd o 450 mislif mewn oes, mae PMDD yn ddiagnosis hirdymor a all achosi niwed emosiynol, proffesiynol a phersonol difrifol i’r rhai sy’n ei gael.
Nododd rhai o’r menywod yr ydym wedi siarad â nhw yn ein grwpiau ffocws eu bod ‘eisiau cuddio’ yn ystod yr wythnos honno a’u bod ‘yn effeithio ar eu gallu i gael perthynas a bod yn fam’. Maen nhw wedi ychwanegu, ‘nad ydyn nhw’n gallu siarad â’u plant na gwenu’, felly’n treulio ‘gweddill y mis yn ceisio gwneud yn iawn am hyn’.
Drwy ddeall y cyflwr hwn yn well, bydd yn cyfrannu at ddatblygu triniaethau wedi’u targedu i helpu i reoli’r symptomau hyn.
Hefyd, gallwn nodi dangosyddion cynnar yn well i helpu meddygon, rhieni, athrawon ac unigolion i adnabod symptomau PMDD, er mwyn i bawb gael y gefnogaeth a’r ymyrraeth yn gynharach.
Ers pryd rydyn ni’n gwybod am PMDD?
Dim ond yn 2013 y cafodd diagnosis PMDD ei gydnabod yn swyddogol, ac ers hynny bu cyfradd gynyddol o ymchwil i’r pwnc.
Roedd hyn wedi arwain at lawer o syniadau am yr hyn sy’n achosi PMDD ac mae wedi dechrau arwain y drafodaeth am driniaethau arbenigol.
Fodd bynnag, mae yna lawer o fylchau i’w llenwi o hyd i roi’r darnau at ei gilydd, a dyna fydd ein rôl ni.
Beth ydym ni’n ei wneud ar gyfer PMDD?
Yn rhan o’r Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol rydym yn cynnal PreDDICT: Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif – Dangosyddion, Achosion a Sbardunau, prosiect sy’n ymroi i ddeall PMDD.
Nod PreDDICT yw dysgu rhagor am gyfranwyr genetig ac amgylcheddol PMDD, gyda’r nod hirdymor o wella’r dull gweithredu presennol o ran diagnosis, ataliaeth, triniaeth a chefnogaeth i unigolion sy’n profi PMDD.
Ymchwil yw un o’r camau cyntaf i newid hyn. Bydd hyn yn cynyddu dealltwriaeth o’r anhwylder i ysbrydoli gwell triniaethau a chymorth yn ddiweddarach.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n byw gyda PMDD, neu sydd â phrofiad blaenorol o’r anhwylder, i ddisgrifio sut oedd yn effeithio ar eu bywydau personol a’u gwaith.
Cymryd rhan yn ein hymchwil
Os ydych yn dioddef o symptomau PMDD/PMS difrifol ar hyn o bryd, gallech ein helpu i ddeall yr anhwylder yn well trwy gwblhau ein hastudiaeth ar-lein.
Dylai’r arolwg gymryd tua 20-25 munud i’w gwblhau ac mae’r cwestiynau’n ymdrin â phynciau megis eich profiad gyda symptomau PMDD, am eich iechyd corfforol a meddyliol cyffredinol a chwestiynau am eich profiad o feichiogrwydd (os yw’n berthnasol).
Cymerwch ran ar-lein heddiw a helpwch ni i wneud gwahaniaeth.
Adnoddau
- Cofrestrwch ar gyfer ein gweminar PMDD am ddim – 10 Hydref 2022
- Cymerwch ran yn yr ymchwil hwn
- Taflenni NCMH | PMDD a PMS eithafol