Mae dros 800 o bobl wedi cymryd rhan yn Astudiaeth PreDDICT dan arweiniad yr Athro Arianna Di Florio hyd yma. Ei nod yw gwella sut y gwneir diagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD) a’r driniaeth ar ei gyfer yn ogystal ag amlygu’r rhai sy’n wynebu risg drwy ddysgu rhagor am ffactorau amgylcheddol a genetig.
Amlinellu PMDD
Anhwylder hwyliau yw Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD), ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar oddeutu 5.5% o fenywod a phobl sy’n cael mislif. Mae hynny’n oddeutu 80,000 o bobl yn y DU.
Yn ystod yr wythnos cyn dechrau gwaedu (a adwaenir fel cyfnod lwteaidd cylch y mislif), mae’r unigolion hyn yn profi newid hwyliau ac emosiynol difrifol, gan gynnwys gorbryder a hwyliau isel, llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol, anawsterau canolbwyntio a symptomau eraill.
Mae’r symptomau’n dechrau gwella o fewn ychydig ddyddiau wedi i’r gwaedu misol (mislif) gychwyn.
Fe lansiwyd animeiddiad newydd yn y gweminar hwn hefyd. Fe gafodd ei ddatblygu gan ymchwilwyr y rhaglen iechyd meddwl atgenhedlol mewn cydweithrediad â’r rhai sydd wedi cael profiad o PMDD.
Rhannu canfyddiadau o astudiaeth PreDDICT
Mae Chloe Apsey, sy’n gynorthwy-ydd seicoleg, yn gweithio ar ymchwil PMDD NCMH, ac fe rannodd y canfyddiadau cychwynnol hyd yma.
“Yr hyn sy’n ddiddorol am PMDD yw bod y symptomau’n lleihau ar ôl i’r gwaedu ddechrau. Fodd bynnag, deufis o fonitro hwyliau, fel dyddiadur, yw’r un peth sy’n aml ar goll mewn ymchwil ac sy’n ofynnol ar gyfer diagnosis.”
Dyma pam y gofynnir i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ymchwil PreDDICT gwblhau dyddiadur monitro hwyliau dros ddau gylch yn olynol, ochr yn ochr ag arolwg ar-lein cychwynnol. Gofynnir hefyd i rai ohonynt roi sampl genetig trwy becyn poeri drwy’r post.
Mae dros 830 o bobl wedi cymryd rhan yn yr arolwg ers ei lansio. Mae’n cynnwys 112 o samplau genetig a ddarparwyd, a 58 o ddyddiaduron hwyliau wedi’u cwblhau.
Roedd y data cychwynnol hwn yn dangos bod cysylltiadau cryf rhwng PMDD ac iselder, a gall y rhain fod yn gysylltiedig â delio â difrifoldeb y symptomau bob mis.
“Wrth siarad â phobl â PMDD rydyn ni wedi sylwi, gan fod y symptomau’n ddifrifol, bod llawer o bobl yn dal i ddioddef ar ôl i’r cyfnod lwteal ddod i ben.”
Ochr yn ochr â hyn, mae iselder yn ddiagnosis mwy adnabyddus a chyffredin hefyd. Prin yw’r ddealltwriaeth o PMDD o hyd ac mae hyn yn aml wedi arwain at fethu â rhoi diagnosis neu gamddiagnosis.
Fe drafododd Chloe ganfyddiadau eraill o’r ymchwil hefyd, megis y cysylltiad rhwng PMDD ac ADHD, yn ogystal â chamddiagnosis.
“Gan ddefnyddio’r canfyddiadau hyn fel man cychwyn, ein nod yw cael 1,000 o bobl i gymryd rhan gan olygu mai hon fydd y set ddata enetig fwyaf o bobl â PMDD yn y DU.”
Rydym hefyd yn awyddus i barhau i gryfhau ein partneriaethau presennol. Rydym wedi defnyddio dealltwriaeth y bobl sydd â phrofiad go iawn i arwain ein hymchwil yn seiliedig ar y wybodaeth y maent wedi’i rhoi i ni. Byddwn yn dal ati i wneud hyn.”
Gwyliwch y gweminar llawn i gael gwybod rhagor am y canfyddiadau data cychwynnol.
Y cysylltiad rhwng PMDD ac anhwylder deubegynol
Fe drafododd yr Athro Arianna Di Florio y gorgyffwrdd rhwng symptomau deubegynol a PMDD. Meddai:
“Wrth edrych ar y meini prawf diagnostig ar gyfer PMDD gallwn weld bod symptomau sy’n debyg i’r rhai sy’n gysylltiedig ag anhwylder deubegynol, fel anniddigrwydd, gwrthdaro rhyngbersonol, a hwyliau isel.”
Fodd bynnag, nododd yr Athro Di Florio y gall anniddigrwydd fod yn anos i’w ddiffinio a bod mwy yn digwydd na’r hyn y mae pobl yn ei weld a’i fynegi. Nododd hefyd effaith alcohol ar hormonau atgenhedlu benywaidd.
Bu’r Athro Di Florio yn trafod ansefydlogrwydd hwyliau hefyd, sef symptom cyffredin arall o anhwylder deubegynol, a PMDD sy’n fwy cyffredin ymhlith menywod na dynion.
Fodd bynnag, y gwahaniaeth allweddol ar gyfer y diagnosisau hyn, gan gynnwys anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), yw amseriad y symptomau.
“Mae symptomau PMDD yn bresennol yn ystod y cyfnod lwteal a gall symptomau mania ddigwydd ar hap ond ar adegau gwahanol.”
Er ei bod yn bosibl profi symptomau PMDD ac anhwylder deubegynol, mae’r Athro Di Florio yn awgrymu y gallai gwaethygu cyn mislif (PME) fod yn ddiagnosis mwy addas.
Aeth yr Athro Di Florio yn ei blaen i drafod llwybrau triniaeth amrywiol PMDD gan rannu dealltwriaeth bwysig o sut y gellir rheoli symptomau yn well a sut y gellir gwella diagnosis.
Gwyliwch y gweminar yn llawn gan gynnwys sesiwn holi ac ateb.
Cymryd rhan yn ein hymchwil PMDD
Rhagor o wybodaeth
- Padlet | Adnoddau a chysylltiadau a grybwyllir yn y weminar
- Cardiff University | Rhaglen Iechyd Meddwl Atgenhedlol
- Bipolar UK | Dysgu mwy
- NCMH | Cymryd rhan yn ein hymchwil PMDD
- NCMH | Torri’r stigma: Anhwylder Dysfforig Premenstrual (PMDD)
- NCMH | Hormonau a’m Hiechyd Meddwl; mae PMDD yn fy ngwneud yn gyfan
- Podlediad Piece of Mind | Y cysylltiad cudd rhwng hormonau ac iechyd meddwl