Sylwer bod y blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad.
Rwy’n treulio 60% o’r flwyddyn yn byw fel fy hunan arall.
18 diwrnod a 432 awr bob mis.
Rwy’n treulio 40% o’r flwyddyn fel fi.
10 diwrnod da a 240 o oriau da bob mis.
Dechreuodd y cyfan pan oedden yn 14 oed a newydd ddechrau fy mislif.
Roeddwn wedi bod yn barod ar gyfer yr acne, teimlo ychydig yn ddagreuol ac ambell chwant siwgr cyn fy mislif.
Roedd pobl yn siarad am y Syndrom Cyn Mislif (PMS) fel defod newid byd; ar ôl i chi brofi eich ‘episod’ cyntaf, roeddech wedi dod yn fenyw!
Ond doedd yr hyn roeddwn i’n ei brofi bob 2.5 wythnos cyn pob mislif ddim yn teimlo’n normal. Roedd yn teimlo fel endid anhysbys a oedd wedi fy meddiannu, gan fy ngwthio i fod ar fin hunanladdiad, gwrthdroi fy hunan-gred ac arwain at y fath ddicter nad oeddwn yn gwybod ei fod yn bodoli ynof o’r blaen.
Nid oedd neb wedi fy rhybuddio o hyn
Roedd meddygon yn ei ddiystyru fel angst y glasoed, gan wneud diagnosis o iselder ac anhwylder gorbryder cyffredinol i mi. Ceisiodd fy mam argyhoeddi’r meddygon bod y symptomau hyn yn gysylltiedig â’m mislif. Y cyfan a glywsom oedd ‘mae pob menyw yn profi PMS, mae’n normal’.
Yn sicr nid oedd hyn yn teimlo’n normal, nid oeddwn innau’n teimlo’n normal.
Nid oedd llawer o bobl yn deall y newid dramatig hwn ynof bob mis. Yn raddol collais fwyfwy o ffrindiau, a theimlais yn unig ac yn ynysig.
Pan oeddwn yn 26 oed cefais ddiagnosis o anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD) ac anhwylder deubegwn.
Ond nid oedd hyn yn teimlo’n iawn. Roedd fy symptomau’n gylchol, roedd yn teimlo fel nad oedd neb yn gweld y cysylltiad rhwng fy hormonau a’m hiechyd meddwl. Rhoddais gynnig ar feddyginiaeth, ond roedd yn gwneud i mi deimlo fel sombi, gan aros am y 2.5 wythnos cyn fy mislif, pan fyddai switsh yn fflipio, a byddai fy hunan arall yn cael ei ryddhau.
Roeddwn yn 32 oed pan oedd fy ngŵr yn teimlo na allai ymdopi mwyach. Aeth â mi i weld y meddyg, gan ofni y byddwn unwaith eto yn gweithredu ar fy ysfa i gyflawni hunanladdiad. Gwrandawodd y meddyg arnaf gan adnabod y patrwm cylchol yn fy symptomau.
Dyna’r adeg, 18 mlynedd ar ôl i’m symptomau ddechrau, y cefais ddiagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif.
Dyna’r dilysiad yr oeddwn wedi bod yn chwilio amdano.
Dyna oedd y rheswm dros fy mhersona tebyg i Jekyll a Hyde, y rheswm dros fy mherthynas ar chwâl â’m ffrindiau a’m teulu.
Roedd yn rhyddhad gwybod bod rheswm pam y byddwn wedi rhedeg i ffwrdd yn ystod episodau, gan feddwl fy mod yn dianc rhag cyfrifoldebau bywyd a’r bobl yn fy mywyd, dim ond i sylweddoli fy mod yn ceisio dianc rhag fy hun, fy anhwylder a’r boen roedd yn ei achosi.
Dywedodd y meddyg wrtha i fod pobl eraill yn y byd fel fi – doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Rwy’n 1 o bob 20 mislifwr sy’n byw gyda PMDD, anhwylder hwyliau cylchol sy’n seiliedig ar hormonau.
Y camau nesaf fyddai atgyfeiriad at gynaecolegydd, a fyddai’n awgrymu ataliad cylchau, a elwir fel arall yn Fenopos Cemegol. Cefais fy ngweld hefyd gan seiciatrydd a gytunodd fod gennyf PMDD ac nid anhwylder deubegwn.
Felly, pwy ydw i? Beth mae byw gyda PMDD yn ei olygu?
Am 40% o’r amser, fi ydw i, sy’n golygu codi’r teilchion dinistr mae pob episod o PMDD yn eu gadael ar ôl, gan geisio adfer fy mywyd fesul darn, ceisio dal fy nheulu ynghyd unwaith eto.
Mae’n golygu’r cylch di-ddiwedd o roi hen gynlluniau a chynlluniau newydd ar waith i geisio lleihau’r difrod y mae PMDD yn ei achosi i’r rhai sydd agosaf ataf.
Mae’n golygu byw gyda chywilydd, euogrwydd, ofn ac embaras oherwydd y pethau rydw i wedi’u dweud a’u gwneud.
Mae’n golygu gwneud y gorau o’r amser byr sydd gennyf i fwynhau fy nheulu cyn i’r cwmwl tywyll ddisgyn unwaith eto.
Am 60% o’r amser, hi ydw i. Isel, blinedig, hunanladdol, dig, tawedog, ar goll i’r byd a phawb sydd ynddo.
Ond hebof fi, ni fyddai hi’n bodoli, na minnau hebddi hi.
Rwyf bellach yn wirfoddolwr ar ran Triniaeth Deg i Ferched Cymru fel cynrychiolydd cleifion, ac yn aelod o Banel Mewnwelediad Cleifion y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif.
Rwyf am helpu i greu naratif newydd ynghylch iechyd meddwl a mislifol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol heb gywilydd, ofn na stigma.
Adnoddau
- Gweminar | Mythau a chamsyniadau PMDD
- AMPMD | About PMDD
- IAPMD | Transgender and PMDD
- IAPMD | Women and Depression
- IAPMD | Diagnosis
- IAPMD | Toolkit
- IAPMD | PMDD and Bipolar
- National Association for Premenstrual Syndromes (NAPS)