Mae meddyginiaeth yn un o amrywiaeth o driniaethau a allai gael ei chynnig i chi os cewch ddiagnosis iechyd meddwl. Mae llawer o wahanol fathau o feddyginiaeth ar gael, ac mae’n gallu bod yn anodd cofio’r holl wahanol ffyrdd o’u defnyddio a’r sgîl-effeithiau posibl.
Er mwyn helpu pobl i wneud dewisiadau hyddysg, rydym yn galluogi pobl i ddefnyddio Mental Health and Medication Wales, sef gwefan sy’n cynnwys gwybodaeth am gannoedd o feddyginiaethau iechyd meddwl cyffredin.
Mae’r gwasanaeth hwn, sydd am ddim, yn rhoi gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl ac yn ateb cwestiynau pwysig am fathau gwahanol o feddyginiaeth, e.e. am sgîl-effeithiau a rhyngweithio â meddyginiaethau eraill, bwyd a diod.
Ardystir y wefan gan y Coleg Fferylliaeth Iechyd Meddwl ac ysgrifennir y cynnwys annibynnol, sydd a’i ansawdd wedi’i sicrhau, gan fferyllwyr arbenigol ac mae’n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.