Gweminar gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a gwybyddiaeth

Cynhaliodd y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) weminar lawn gwybodaeth ddydd Mercher 14 Mai yn trafod iechyd meddwl a gwybyddiaeth. Canolbwyntiodd y weminar ar y cysylltiad, sy’n aml yn cael ei anwybyddu, rhwng heriau iechyd meddwl a gweithrediad gwybyddol, yn ogystal â’r modd y gellir defnyddio asesiadau gwybyddol ar-lein i wella gofal clinigol.

Daeth y digwyddiad ag ymchwilwyr ac unigolion â phrofiad byw ynghyd i drafod sut y gall cyflyrau iechyd meddwl effeithio ar brosesau gwybyddol allweddol, fel y cof, canolbwyntio, a gwneud penderfyniadau.

Cyflwynwyd yr ymchwil ddiweddaraf yn y maes gan Dr Amy Lynham, arweinydd prosiect Asesu Gwybyddol Ar-lein Caerdydd (CONCA). Tynnodd sylw at dystiolaeth gynyddol bod gan wahanol fathau o ddiagnosis botensial i amharu ar weithgarwch gwybyddol mewn parthau gwybyddol amrywiol, gan gynnwys cynllunio, atal a chof gweithredol. Fodd bynnag, mae ymchwil hefyd yn dangos mai pobl sydd â sgitsoffrenia sydd â’r namau gwybyddol mwyaf difrifol, ar gyfartaledd.

Meddai Amy: “O ran heriau iechyd meddwl, mae anawsterau gwybyddol yn aml yn cael eu hanwybyddu, er bod ymchwil yn dangos eu bod yn effeithio ar bobl sydd â chyflyrau amrywiol. Diolch i’n gwaith gyda’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Doeth am Iechyd Cymru, rydyn ni wedi cael dealltwriaeth gliriach o sut y gall yr anawsterau hyn effeithio ar fywyd bob dydd, gan gynnwys hunan-ofal, gwaith, a pherthnasoedd gydag unigolion eraill. Drwy weithio’n agos gyda phobl sydd wedi cael profiad o’r cyflyrau hyn, rydyn ni wedi datblygu teclyn newydd i asesu gweithrediad gwybyddol, ac rydyn ni’n ei brofi ar hyn o bryd. Y nod yw ei ddefnyddio mewn ymarfer clinigol yn y pen draw.”

Ar ben hynny, dengys ymchwil gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Doeth am Iechyd Cymru fod gweithrediad gwybyddol yn effeithio ar fywyd bob dydd mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys symudedd, hunan-ofal, cyfrifoldebau yn y cartref, problemau gwybyddol, bywyd cymdeithasol a’r gallu i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Cefnogwyd hyn gan stori bersonol ddirdynnol Tony Cope, aelod o’r grŵp Partneriaeth mewn Ymchwil (PAR) ac sy’n cymryd rhan yn CONCA. Rhannodd Tony brofiadau o fyw gydag anawsterau iechyd meddwl, COVID hir ac am yr effeithiau ar ei allu gwybyddol. Mae ei stori yn pwysleisio’r heriau go iawn y mae nifer o bobl yn eu hwynebu, ac mae’n tynnu sylw at yr angen am ddulliau cyfannol o ofalu am iechyd meddwl.

Dywedodd Tony: “Fe wnes i’n dda yn yr ysgol a chael gradd yn y brifysgol, ac yna gyrfa yn y gwyddorau biofeddygol, a sefydlu fy musnes fy hun. Pan oeddwn i ar bwynt ‘uchel’, roedd fy ngwybyddiaeth i drwy’r to – byddwn i wedi gallu rhedeg y byd! Pan oeddwn i’n isel fy ysbryd, roedd fy ngwybyddiaeth i’n diflannu’n llwyr.”

Yna, aeth Tony ymlaen i siarad am ei brofiad o gymryd rhan yn CONCA ac fel cydweithredwr yn rhaglen Cyfranogiad gan Gleifion a’r Cyhoedd (PPI). Cafodd brofion gwybyddol amrywiol i asesu a yw’r offeryn asesu ar-lein yn gallu cynnig mesuriadau cyson o allu gwybyddol dros amser.

Daeth y sesiwn i ben gyda chyfle i holi ac ateb cwestiynau, gan sbarduno trafodaeth agored am bwysigrwydd cynnwys asesu gwybyddol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn parhau i hyrwyddo ymchwil sy’n pontio gwybodaeth glinigol a phrofiad personol, gan ein helpu i gael dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o iechyd a lles meddyliol.