Gwasanaethau anhwylder bwyta yng Nghymru’n parhau i fod yn loteri côd post

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Beat, elusen anhwylder bwyta’r DU, mae gwasanaethau anhwylder bwyta yng Nghymru’n amrywio fawr ar hyd rhanbarthau, yn ysgrifennu Jo Whitfield, Swyddog Cenedlaethol Cymru Beat.

Mae adroddiad newydd Beat ‘Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru: 3 blynedd yn ddiweddarach’, yn ymchwilio i’r cynnydd a wnaed ers cyflwyno arolwg 2018 i Lywodraeth Cymru.

Amlygodd arolwg 2018 fod triniaeth ar gyfer anhwylder bwyta yng Nghymru yn aml ar gael i bobl a oedd yn ddifrifol wael yn unig, a bod argaeledd ac ansawdd gwasanaethau’n amrywio’n fawr ar hyd a lled y wlad.

Er bod peth cynnydd wedi’i wneud i ehangu a gwella gwasanaethau ar gyfer y 60,000 o bobl yng Nghymru sydd ag anhwylder bwyta, mae adroddiad Beat yn nodi bod y cynnydd yn hynod o anghyson.

Prinder cyllid yw un ffactor sydd wedi cyfrannu at y cynnydd anghyson mewn gwasanaethau anhwylder bwyta yng Nghymru.

Dywedodd Jo Whitfield, Swyddog Cenedlaethol Beat ar gyfer Cymru, “Mae anhwylderau bwyta yn anhwylder meddwl cymhleth a difrifol sy’n gallu bod yn hynod o ddyrys i’r rhai sy’n dioddef yn ogystal â’u teuluoedd.

Rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 fe gawsom ni, yn Beat, 220% yn fwy o bobl yn cysylltu â ni o’i gymharu â chyn y pandemig, ac rydym yn tristau nad yw sawl unigolyn, gofalwyr a theuluoedd ar hyd a lled y wlad yn derbyn digon o gefnogaeth.

Nid yw’r gweithlu’n ateb y galw

Mae peth buddsoddiad ychwanegol wedi digwydd ers 2018, ond dywedodd dros 55% o staff gofal iechyd a gwirfoddolwyr a gymrodd ran yn arolwg Beat fod diffyg cyllid i’r gweithlu’n cael effaith ‘sylweddol’ neu ‘sylweddol iawn’ ar y gallu i drin pob person ifanc gydag anhwylder bwyta.

Ers 2018, mae rhai ardaloedd wedi ehangu mynediad i driniaeth drwy sefydlu timau arbenigol ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) neu drwy ymestyn timau oedolion.

Fodd bynnag, mewn ardaloedd eraill o Gymru, dim ond ar gyfer pobl sydd eisoes yn wirioneddol wael y mae’r gwasanaeth arbenigol ar gael, ac mae cael mynediad i driniaeth ar gyfer anhwylder gorfwyta mewn pyliau ac anhwylder osgoi bwyta/cyfyngu faint o fwyd sy’n cael ei fwyta (ARFID) yn parhau’n wahanol iawn ar hyd a lled y wlad.

Mae angen triniaeth o safon nawr fwy nag erioed, gyda chlinigwyr yn dweud eu bod wedi gweld llawer mwy o bobl gydag anhwylderau bwyta yn ystod y pandemig.

Mae clinigwyr yn bryderus hefyd am bobl yn dirywio wrth iddynt aros am driniaeth.

Neges allweddol arolwg 2018 oedd y gall teuluoedd a gofalwyr chwarae rhan hanfodol ym mhroses wella’i hanwyliaid os cânt y wybodaeth lawn, a’u cefnogi a grymuso’n briodol.

Mae ymatebion gan glinigwyr yn awgrymu bod cefnogaeth i deuluoedd yn gwahaniaethu’n fawr ar hyd a lled Cymru, ac yn ôl adroddiad Beat does dim proses ffurfiol yn ei lle byth i sicrhau bod gofalwyr yn cymryd rhan wrth ddatblygu’r gwasanaethau bob amser.

Gwelodd adroddiad Beat hefyd fod buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylder bwyta mewn cymuned oedolion arbenigol wedi cynyddu o ddim ond 1% mewn termau real rhwng 2018/19 i 2020/21, ac roedd gwariant bwrdd iechyd ar y gwasanaethau hyn yn amrywio‘n fawr.

Y ffordd ymlaen

Mae Beat wedi creu argymhellion allweddol i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, i sicrhau cynnydd a gwelliannau cyfartal mewn gwasanaethau anhwylder bwyta ar hyd a lled y wlad. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cyhoeddi cynllun newydd – gydag amserlenni – ar gyfer cyflawni gweledigaeth arolwg gwasanaeth anhwylder bwyta 2018, fel y gall pawb yr effeithir arnynt gael cymorth effeithiol yn gyflym.
  • Gwneud y swydd ‘Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau Bwyta’ yn un barhaol. Darparodd Dr Menna Jones, a oedd yn y swydd tan iddi ddod i ben yn Rhagfyr 2021, gefnogaeth werthfawr i fyrddau iechyd, clinigwyr a gwasanaethau ar hyd a lled y wlad. Mae’n hanfodol fod y cynnydd hwn yn parhau.
  • Gwella’r canllawiau ar y cyllid ychwanegol y mae’n ei ddarparu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a dwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu holl fuddsoddiadau i wasanaethau anhwylderau bwyta.
  • Sicrhau bod pobl sydd â phrofiad go iawn o anhwylderau bwyta, gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr eraill, yn cymryd rhan wrth helpu i wella gwasanaethau yng Nghymru bob amser.

Ychwanegodd Jo, “Rydym yn gwybod fod cael mynediad i’r driniaeth gywir yn gyflym yn sicrhau’r cyfle gorau i rywun wella’n llwyr, ac mae’n galonogol i weld fod peth cynnydd wedi digwydd.

“Byddai gweithredu’n argymhellion yn galluogi Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i drawsnewid y gwasanaethau hyn ar hyd a lled y wlad, gan sicrhau bod pawb sydd wedi’u heffeithio yng Nghymru yn cael mynediad cyflym i gefnogaeth a all drawsnewid eu bywydau.”

Meddai dywedodd Dr Menna Jones, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Anhwylderau Bwyta tan Rhagfyr 2021, “Ers cyhoeddi’r arolwg gwasanaeth anhwylderau bwyta yn 2018 mae gwelliannau sylweddol wedi bod mewn gwasanaethau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag anhwylderau bwyta.

Fe gynyddodd hyn ymhellach pan gyflwynwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf ar gyfer swydd arweinydd cenedlaethol anhwylderau bwyta, a bellach cadarnhawyd y bydd y cyllid yn parhau’r flwyddyn nesaf ar gyfer arweiniad cenedlaethol mewn anhwylderau bwyta.

“Mae adroddiad Beat o gymorth mawr i adnabod lle mae amrywiad mewn pa wasanaethu sydd ar gael mewn ardaloedd ar draws Cymru yn dal i fod ac yn helpu i sicrhau bod cwrdd ag anghenion pobl sydd ag anhwylderau bwyta a’u teuluoedd yn parhau’n flaenoriaeth.’

Ychwanegodd dywedodd Dr Jacinta Tan, prif awdur Arolwg Gwasanaeth Anhwylder ar gyfer Bwyta yng Nghymru 2018, “Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad parhaus i ddarpariaethau gwych, teg, effeithiol gwasanaethau’r GIG ar gyfer pawb sydd ag anhawster bwyta yng Nghymru, eu teuluoedd a’u hanwyliaid.

“Hoffwn ymuno â Beat i alw ar ymrwymiad parhaus i swydd Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer anhwylderau bwyta er mwyn arwain y newid yn gyflymach a gyda mwy o gysondeb ar draws Byrddau Iechyd; mwy o ymrwymiad i’r gôst ariannol i allu cyflawni hyn; amserlenni a cherrig milltir cliriach a fydd o gymorth i sicrhau bod nodau’n glir ac i leihau amrywiadau ar draws byrddau iechyd; ac ymwneud amlycach gan arbenigwyr trwy brofiad ymhob agwedd o’r newidiadau mewn gwasanaeth cenedlaethol.”

Adnoddau

Darllen rhagor

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *