Cefais ddiagnosis yn 2015 pan oeddwn tua 42 oed. Roedd fy ngwraig wedi bod yn dweud ers tro bod rhywbeth ddim yn hollol iawn gyda fi.
Roedd hi’n amau seiclothymia gan ddweud fy mod yn aml yn negyddol iawn neu fel arall yn or-gyffrous am brosiectau a phethau roeddwn i’n eu gwneud.
Siaradais gyda rhywun ar-lein ond mae’n debyg nad nhw oedd y person iawn i siarad â nhw, felly chefais i ddim diagnosis ar y adeg honno.
Cael diagnosis yn yr Unol Daleithiau
Aeth pethau ymlaen am ychydig tan i fi deithio i Austin yn UDA i aros gyda ffrindiau.
Tra’r oeddwn i yno gwnes i’r penderfyniad i fynd i weld rhywun.
Gwelais seicolegydd, a gadarnhaodd mai anhwylder deubegwn math II oedd arnaf i.
Roedd yn dipyn o syndod gan i mi feddwl falle fod y ‘fersiwn llai’ arnaf i, ond ar yr un pryd roedd yn gryn ryddhad i gael gwybod a meddyliais i, “Dyna fwy neu lai beth sydd wedi bod yn digwydd gyda fi.”
Roedd cael diagnosis yn beth cadarnhaol iawn i fi.
Dyw deubegwn ddim yn ddedfryd oes
Mae deubegwn wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd a hyd yn oed cyn i mi wybod fy mod wedi profi iselder neu hypomania, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n wahanol.
Roeddwn i’n ei chael yn anodd mwynhau hobi, ac yn anodd rhyngweithio gyda phobl.
Ond rwy’n credu ei fod wedi fy helpu i ddod yn fwy empathig at bobl eraill, yn enwedig pobl eraill a allai fod yn profi rhywbeth ar yr adeg benodol honno yn eu bywydau.
Felly drwy gydol fy mywyd fel oedolyn rwyf i wedi ceisio cadw pethau’n syml, a gallech chi ddweud bod hynny wir wedi helpu i fy ffurfio i.
Rwy’n ceisio gwneud bywyd mor syml â phosibl, ac rwy’n credu bod hynny wedi rhoi persbectif gwahanol ar fywyd i fi.
Ac mae wedi gwneud i fi sylweddoli hefyd nad yw deubegwn yn ddedfryd oes. Mae’n rhywbeth y gallwn ni barhau i’w wella a gallwn fyw bywydau boddhaus a hapus iawn.
Sut mae anhwylder deubegwn yn effeithio ar fy mywyd teuluol
Rwyf i hefyd yn gweld bod anhwylder deubegwn yn effeithio ar fy mywyd teuluol gan fod fy hwyliau’n amrywio, felly weithiau dyw’r plant ddim wir yn gwybod pa dad sydd o’u blaenau.
Gall fod yn dad dig neu’n dad blin.
Neu gallai fod yn dad hwyliog a chyffrous, sy’n gwneud llawer o bethau, felly weithiau mae’n anodd.
Os yw fy mhlant am wneud pethau ond dydw i ddim mewn hwyliau i wneud dim, rwy’n teimlo’n wael ac yn teimlo nad ydw i wedi bod y rhiant gorau y gallwn i fod.
Yn gyffredinol, mae’n bendant yn effeithio ar fywyd teuluol a chymdeithasol ar nifer o lefelau.
Serch hynny, dydw i ddim eisiau cydymdeimlad os ydw i mewn hwyliau isel. Dim ond i bobl ddeall nad ydw’n mynd i allu gwneud yr holl bethau y byddwn i’n gallu eu gwneud fel arfer.
Felly mae’n help os yw rhywun yn dweud, “Hei, bydd yn ymwybodol o ble’r wyt ti ar y funud a phaid â gadael i dy hun fynd yn llwyr.”
Pwysigrwydd ymchwil iechyd meddwl
Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod ni’n parhau i ddysgu am yr ymennydd dynol.
Dim ond megis dechrau deall sut mae ein hymennydd yn gweithio ydyn ni, ac mae ffordd bell i fynd eto.
Felly, rwy’n meddwl po fwyaf o ymchwil a wnawn ni, y mwyaf y byddwn yn ei ddatgelu, y mwyaf y gallwn ddysgu amdanom ein hunain.
A dim ond drwy ymchwil y profwyd fod pethau fel ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio, yn wyddonol, yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a newid strwythur a llwybrau yn eich ymennydd.
Yr holl ymchwil yma sy’n ein helpu i ddeall y pethau hyn, ac yn araf bach gallwn ddechrau gosod darnau’r pos at ei gilydd i weithio ar gynlluniau llawer mwy cyflawn i bobl allu gwella eu hiechyd meddwl.
Gwyliwch ein sesiwn holi ac ateb lawn gyda Steve:
Adnoddau
- NCMH | Bipolar Education Programme Cymru (BEPC)
- Taflen NCMH | Bipolar disorder
- Taflen NCMH | Bipolar disorder, pregnancy and childbirth
- Bipolar UK | Information leaflets
Darllen rhagor
- Astudio NCMH | Anhwylder Deubegwn
- Blog NCMH | Gwneud newidiadau parhaol i wella ein lles meddyliol
- Blog NCMH | Cyfarwyddwr NCMH yn westai ar bodlediad newydd Bipolar UK
- Blog NCMH | Anhwylder deubegynol: 11 o bwyntiau allweddol a ddaeth â chydbwysedd i’m bywyd yn ystod y pandemig
- Blog NCMH | Climbing mountains: diagnosed with bipolar disorder at 57