Dirprwy gyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl yn cael ei gydnabod am ei ymdrechion dyngarol mewn digwyddiad ym Mhalas Buckingham

Roedd dirprwy gyfarwyddwr Y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, yr Athro Jon Bisson yn bresennol mewn derbyniad dyngarol ym Mhalas Buckingham ddydd Iau 20 Chwefror.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan y Brenin, gyda’r Frenhines, y Dywysoges Frenhinol, a Dug a Duges Caerloyw hefyd yn bresennol.

Roedd y digwyddiad yn nodi pen-blwyddi pedair elusen fyd-eang gan gynnwys International Health Partners, ShelterBox, Islamic Relief a Chymorth Cristnogol, ac yn cydnabod ymdrechion dyngarol o bob cwr o’r byd.

Cafodd yr Athro Bisson wahoddiad er mwyn cydnabod ei waith gyda’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a Straen Trawmatig Cymru.

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i’r rheini oedd yn bresennol drafod eu gwaith a gweld arddangosfeydd wedi’u paratoi gan yr elusennau byd-eang nodedig, yn ogystal â chasgliad o ddelweddau gan y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) a gafodd ei anfon at y Brenin ar gyfer Diwrnod Dyngarol y Byd ym mis Awst 2024.

Dywedodd yr Athro Bisson: “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael mynd i’r digwyddiad ac fe wnes i fwynhau cwrdd ag unigolion angerddol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl sy’n dioddef digwyddiadau trawmatig ledled y byd.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *