Rhybudd sbardun: mae’r blog hwn yn cynnwys cyfeiriadau at anhwylderau bwyta.
Yr un stori yw hi bob blwyddyn newydd: y siarad yn troi i ffwrdd o’r dathliadau ac at sgwrs am ffitrwydd, diddordebau, mynd ar ddiet, a cholli pwysau.
Ar y cyntaf o Ionawr, mae’r cyfan sy’n cael ei ystyried yn ‘ddrwg’ i ni yn cael ei roi o’r neilltu wrth i bobl ymdrechu i wella eu hunain a newid eu ffordd o fyw o fewn ychydig wythnosau.
Ond ydy addunedau’n dda i’n hiechyd meddwl? Ydyn ni o bosibl yn rhoi gormod o bwysau arnom ni ein hunain?
Mewn arolwg YouGov a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021, dywedodd 80% o sampl o 2,118 o oedolion yn y DU nad wnaethon nhw addunedau ar gyfer y flwyddyn 2021.
O fewn y sampl, atebodd yr 11% o gyfranogwyr a wnaeth addunedau Blwyddyn Newydd eu bod yn canolbwyntio’n bennaf ar ffitrwydd, diet a cholli pwysau.
Fodd bynnag, dim ond 30% o’r addunedau hyn a gadwyd mewn gwirionedd, gyda 44% yn cadw at rai, a 19% heb gadw at unrhyw addunedau.
Fodd bynnag, yr hyn sy’n ddiddorol am yr ymchwil yw bod 16% o’r rhai a ddywedodd iddynt ddefnyddio addunedau Blwyddyn Newydd yn y flwyddyn 2021 yn dweud y byddent yn parhau i wneud hynny yn 2022 – cynnydd o’r 11% yn unig a ddywedodd iddynt wneud addunedau ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Nid yw’n syndod fod ychydig llai na hanner yr addunedau hyn hefyd yn ymwneud â ffitrwydd, diet a cholli pwysau.
Arweiniodd yr ystadegau hyn i mi ystyried effeithiolrwydd addunedau Blwyddyn Newydd, ac a all y pwysau i newid effeithio’n negyddol ar ein hiechyd meddwl, yn enwedig o ran ffitrwydd, colli pwysau a diet gan hwyluso delwedd corff gwaeth.
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn awgrymu bod ‘gwir angen cymryd golwg dosturiol ar hunan-ddatblygu a’n hiechyd meddwl’, yn enwedig yn sgil COVID-19.
‘Er y gall gwella’r hunan yn y Flwyddyn Newydd fod yn beth cadarnhaol gyda buddion i iechyd meddwl a chorfforol, gall hunan-feirniadaeth ddi-fudd fod yn ysgogiad hefyd’.
Yn lle addunedu i newid, maen nhw’n awgrymu y gallai helpu i osod ‘thema’ ar gyfer y Flwyddyn Newydd sy’n annog ‘agwedd garedig at hunan-ddatblygiad’.
‘Bod yn garedig gyda chi eich hun yn rheolaidd yw un o’r pethau gorau y gallwch chi ei wneud.’
Maen nhw hefyd wedi creu templed gosod thema i helpu i greu syniadau yn ymwneud â lles cadarnhaol a hunan-dderbyn.
I’r rhai sy’n dal yn awyddus i osod addunedau, gall pwysleisio hunan-dderbyn hefyd ein hatgoffa i ystyried ein hiechyd meddwl gyda phob adduned a wnawn.
Ceisiwch ofyn i chi’ch hun ‘a fydd hyn o les i fy iechyd meddwl?’ cyn gosod adduned benodol.
Gyda hyn mewn golwg, dyma’r ddwy adduned Blwyddyn Newydd gyffredin, wedi’u hail-fframio i annog lles cadarnhaol.
Symud, bwyta, a gorffwys
Drwyddi draw, addunedau’n ymwneud â cholli pwysau, gwella ffitrwydd a newid arferion diet yw’r mwyaf cyffredin flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ond weithiau gall addunedau’n ymwneud â newid ein cyrff ddeillio o fod yn anhapus â’r ffordd rydym ni’n edrych ar y pryd.
Gall addunedau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r corff hefyd fod yn arbennig o anodd i bobl sy’n byw ag anhwylderau bwyta a dysmorffia’r corff.
Mae’r elusen yn y DU CALM (Campaign Against Living Miserably) yn tynnu sylw at bwysigrwydd derbyn eich corff yn eu hadnoddau ar-lein ar ddysmorphia’r corff.
“Dyw’r corff perffaith ddim yn bodoli. Waeth beth mae’r glorian yn ei ddweud, waeth beth yw’r diffiniad yn eich cyhyrau, neu’r gwallt ar eich pen, dychmygol yw’r ddelwedd honno o’r corff perffaith yn ein pen.
A cheisio ei gyflawni? Gall wneud bywyd yn go anodd ac weithiau gall arwain at broblemau iechyd meddwl eraill fel anhwylderau bwyta, obsesiynau a gorbryder.”
Mae’n bwysig cofio hunan-dderbyn wrth osod addunedau ynghylch diet, ffitrwydd, a cholli pwysau a bod yn ymwybodol o ba gyflyrau iechyd meddwl a all ddeillio’n aml o roi gormod o bwysau arnom ni ein hunain i newid.
Gall ail-fframio datrysiadau sy’n canolbwyntio ar ddelwedd y corff gyda dull cyfannol fod yn ddefnyddiol.
Yn hytrach na chanolbwyntio ar ganlyniadau ymarfer corff yn y dyfodol, meddyliwch am fanteision symud ein cyrff mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus yn y foment bresennol.
Dylech symud, bwyta, a gorffwys ym mha bynnag ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus i chi ar y pryd.
Mae gan Mind.org gyfoeth o adnoddau i’r rhai sy’n ystyried gweithgaredd corfforol ac iechyd meddwl, megis beth i’w wneud pan nad yw bod yn actif yn gweithio i chi.
Mae TalkED hefyd yn pwysleisio y dylid ‘trin bwyd ac ymarfer corff fel math o hunan-ofal, yn hytrach nag offeryn i newid ffurf eich corff’ yn eu cyngor ar ddiet camweithredol. Mae hefyd yn cynnwys llyfrau defnyddiol i hybu positifrwydd y corff.
Cofiwch fod ymarfer corff a rhoi maeth i’r corff gyda bwydydd maethlon yn wych os ydyn ni’n gallu gwneud hynny, ond gall rhoi pwysiau arnom ein hunain greu neu ddwysau teimladau o anfodlonrwydd a gofid.
Defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol: cymerwch amser i dynnu’r plwg
Adduned gyffredin arall yw cyfyngu ar yr amser rydyn ni’n ei dreulio ar ein ffonau.
Er y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn offeryn pwerus sy’n gadael i ni deimlo cyswllt â phobl eraill a lleddfu teimladau o unigrwydd, gall hefyd ysgogi teimladau o gymharu, gorbryder a straen.
Yn aml gall yr hyn rydyn ni’n dewis ei weld ar-lein greu neu waethygu’r teimladau hyn. Wrth ystyried lles digidol, mae’n bwysig cwestiynu cynnwys ein ffrwd newyddion a holi sut mae’n gwneud i ni deimlo amdanom ein hunain.
Pa deimladau mae rhai cyfrifon yn eu hysgogi? Ydyn nhw’n gadarnhaol?
Drwy ofyn y cwestiynau hyn gallwn nodi a dad-ddilyn cyfrifon nad ydynt yn gwneud i ni deimlo’n dda, a churadu gofod ar-lein sy’n hyrwyddo lles cadarnhaol.
Er ei bod yn bosibl mai treulio llai o amser ar-lein yw’r nod, mae’r un mor bwysig sicrhau bod y cynnwys a welwn pan fyddwn ni’n cysylltu yn creu* bodlonrwydd, yn hytrach na negyddiaeth.
Mae Mind.org yn darparu canllaw ar les digidol gydag awgrymiadau sy’n hyrwyddo cydbwysedd iachach ar-lein/all-lein, megis gosod terfynau amser ar gyfer diffodd a chymryd seibiant.
Pwysau a newid
Yn aml, yr hyn sy’n dilyn addunedau Blwyddyn Newydd yw ymdeimlad o frys. Mae’n hawdd syrthio i’r fagl o fesur cynnydd neu lwyddiannau ar ôl mis yn unig.
Ond mae’n bwysig rheoli ein disgwyliadau wrth wneud addunedau er mwyn osgoi ychwanegu pwysau diangen ac mewn rhai achosion, pwysau peryglus.
Mae Mind Sheffield yn cynghori, wrth ystyried addunedau, y dylid cofio bod ‘newid yn broses anodd ac os ydych eisoes yn byw gydag iselder, gorbryder neu unrhyw fath arall o salwch meddwl, gallai methu â chadw at benderfyniadau ychwanegu at deimladau o hunan-barch isel neu wneud i chi deimlo nad oes gennych reolaeth dros eich bywyd’.
Heb y pwysau ychwanegol o orfod mesur newid, gallwn ganolbwyntio ar ein haddunedau, a pha fudd y gallant ei roi i ni yn y presennol, nid yn y dyfodol.
Cofiwch nad yw gwneud addunedau’n orfodol, ac os nad ydych chi’n siŵr mae’n bwysig estyn allan at eich system gymorth neu sefydliadau iechyd meddwl fel Mind, Beat a’r Sefydliad Iechyd Meddwl.
Adnoddau
Y Sefydliad Iechyd Meddwl | Gosod thema Blwyddyn Newydd
Y Sefydliad Iechyd Meddwl | Templed thema Blwyddyn Newydd
CALM | Guide to body image
Mind | Physical activity and mental wellbeing
Talk-ed | Challenging dysfunctional diet and diet culture
Mind | Guide to digital wellbeing
Taflen NCMH | Anhwylderau Bwyta