Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr niwroddatblygiadol.
Mae’r diagnosis yn cael ei wneud yn bennaf yn ystod plentyndod, er weithiau nid yw’n cael ei gydnabod nes bod rhywun yn oedolyn.
Pan gaiff diagnosis o ADHD ei wneud yn ystod plentyndod, mae’n aml yn parhau i’r cyfnod pan fydd rhywun yn ei arddegau ac wedyn yn oedolyn, ac mae effeithiau’n parhau gydol oes.
Gorfywiogrwydd, bod yn fyrbwyll, ac anawsterau canolbwyntio yw nodweddion ADHD.
Gall gorfywiogrwydd gynnwys methu ag eistedd yn llonydd, bod yn aflonydd, neu ei chael hi’n anodd cymryd rhan mewn gweithgareddau’n dawel.
Weithiau, gall pobl ag ADHD ymddangos fel pe baen nhw ‘byth yn llonydd’ neu ymddwyn fel pe baen nhw ‘yn cael eu gyrru gan fodur’. Gall bod yn fyrbwyll gynnwys torri ar draws (er enghraifft, ymyrryd mewn sgyrsiau), cael trafferth aros am eich tro, neu siarad gormod.
mhlith y symptomau sy’n ymwneud â chanolbwyntio, gall y rhain gynnwys bod rhywun yn ei chael hi’n anodd rhoi sylw manwl i fanylion, hawdd tynnu eu sylw, methu â chanolbwyntio ar dasg benodol, neu gael problemau dilyn cyfarwyddiadau a threfnu gweithgareddau.
Mae’r nodweddion hyn yn berthnasol i bob un ohonom i ryw raddau – gall pob un ohonom fod yn ddiamynedd, yn rhy frwdfrydig, neu’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio.
Er mwyn i weithiwr iechyd proffesiynol wneud diagnosis o ADHD, rhaid i’r symptomau hyn fod yn ddifrifol, yn barhaus, yn ymddangos mewn mwy nag un lleoliad (er enghraifft, yn y cartref a’r gwaith) ac achosi anawsterau i’r unigolyn ar draws gwahanol feysydd o’u bywydau (gartref, prifysgol/gwaith, a bywyd cymdeithasol).
Gall amgylcheddau bob dydd fel gwaith neu brifysgol achosi heriau i bobl ag ADHD, os nad yw’r amgylchedd yn cael ei addasu’n iawn.
Cyfnod plentyndod i fod yn oedolyn
Fel arfer, mae symptomau ADHD yn dechrau yn gynnar yn ystod plentyndod, ond dydyn nhw ddim bob amser yn cael eu hadnabod na diagnosis yn cael ei roi yn yr oedran hwn.
rai pobl, mae symptomau’n lleihau neu’n llai amlwg erbyn iddyn nhw ddod yn oedolion, ond i eraill, mae’r symptomau a’r amhariad yn parhau pan fyddan nhw’n oedolion.
Mae’n bosibl i’r symptomau gael mwy o effaith yn ystod llencyndod a bywyd fel oedolyn, pan fydd disgwyl i bobl ifanc fod yn fwy annibynnol a phan fydd mwy o ofynion arnyn nhw.
Neu, mae’n bosibl y bydd ADHD yn dod yn haws ei reoli pan fydd rhywun yn oedolyn, pan fydd pobl yn fwy abl i ddewis rolau ac amgylcheddau sy’n addas i’w cryfderau a’u diddordebau.
Gyda’r gefnogaeth gywir, mae pobl ag ADHD yn gallu byw bywydau llwyddiannus sy’n rhoi llawer o foddhad.
Cael cymorth
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi symptomau ADHD, dylech chi drafod hyn gyda’ch meddyg teulu, a fydd yn gallu cynnig cyngor.
Efallai y bydd yn gallu eich cyfeirio at arbenigwr. Yn anffodus, does dim prawf cyflym a hawdd ar gyfer ADHD.
I gael diagnosis o ADHD, rhaid cael asesiad llawn a manwl gan seiciatrydd, gan gynnwys adroddiadau o gyfnod eich plentyndod neu wybodaeth amdanoch chi gan rywun sydd wedi’ch adnabod ers llawer o flynyddoedd.
Mae gwahanol fathau o gymorth ar gael yn dibynnu ar eich sefyllfa:
- mae tîm Gwasanaethau Anabledd Myfyrwyr yn gallu helpu
- os ydych chi yn y brifysgol, gall Mynediad i Waith helpu os ydych chi’n chwilio am waith
- mae eich rheolwr llinell, adran iechyd galwedigaethol neu Fynediad i Waith yn gallu helpu os ydych chi mewn gwaith
- gallwch wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) i’ch cynnal os na allwch weithio
Mae ffyrdd iach o fyw yn bwysig hefyd – mae’r rhain yn cynnwys digon o gwsg rheolaidd, deiet iach, osgoi cyffuriau anghyfreithlon a gormod o alcohol, a chael digon o ymarfer corff yn rheolaidd.
Gall rhai pobl elwa o therapïau siarad, hyfforddwr ffordd o fyw, neu fathau eraill o gefnogaeth allanol, er nad yw hyn yn driniaeth sydd wedi’i hanelu at drin ADHD yn uniongyrchol.
Er enghraifft, rheolwr yn cwblhau hyfforddiant ar niwroamrywiaeth, neu ofyn i gydweithiwr gynorthwyo mewn meysydd penodol lle mae anawsterau fel prawfddarllen.
Mae modd cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar ôl cael diagnosis o ADHD. Dangoswyd bod meddyginiaeth yn lleddfu’r heriau sy’n gysylltiedig ag ADHD trwy leihau gorfywiogrwydd a bod yn fyrbwyll, a galluogi pobl ag ADHD i ganolbwyntio’n fwy effeithiol.
Mae meddyginiaethau cyffredin sy’n cael eu defnyddio i drin ADHD yn cynnwys Methylffenidad (Ritalin, Equasym, Concerta), Lisdecsamffetamin, Atomocsetin, (Strattera), a Guanffasin.
Mae’r meddyginiaethau sy’n cael eu defnyddio fwyaf yn dechrau gweithio yn fuan ar ôl pob dos fel arfer. Does dim effaith barhaol iddyn nhw. Maen nhw’n gallu bod yn effeithiol iawn, ond fel gyda phob meddyginiaeth, mae siawns o sgil-effeithiau.
Mae ymchwil yn dangos bod modd cefnogi oedolion ag ADHD drwy gyfuno therapi siarad (fel therapi gwybyddol ymddygiadol) â meddyginiaeth ADHD.
Ni fydd angen meddyginiaeth ar bob oedolyn ag ADHD, ac efallai y bydd angen cymorth addysgol neu driniaeth seicolegol ar y rhai sy’n cymryd meddyginiaeth hefyd.
Cyngor i oedolion ag ADHD
- Cofiwch nad nam mewn personoliaeth yw ADHD ond ffordd wahanol o fod yn y byd.
- Gall addysgu eich hun a’r rhai o’ch cwmpas helpu i frwydro yn erbyn llawer o’r stigma sy’n gysylltiedig ag ADHD.
- Chwiliwch am gefnogaeth a dod o hyd i gymuned. Mae adeiladu rhwydwaith cymorth naill ai’n bersonol neu ar y we yn gallu bod yn fuddiol. Gallwch rannu awgrymiadau a gofyn am gyngor mewn lleoliadau anffurfiol, achlysurol, a lleoliadau heb fod yn rhai clinigol.
- Peidiwch â digalonni os nad yw un math o feddyginiaeth neu ffordd o reoli yn gweithio. Rhowch gynnig ar rywbeth arall nes i chi ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i chi.
- Os ydych chi yn y brifysgol, siaradwch â’r tîm anabledd a’ch goruchwyliwr neu diwtor.
- Os ydych chi yn y gweithle, rhowch wybod i’ch rheolwr llinell am eich diagnosis, os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny, a siaradwch â’r adran iechyd galwedigaethol i weld pa addasiadau a newidiadau mae modd eu gwneud.
- Dysgwch beth yw eich hawliau. Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae ADHD yn anabledd ac felly mae’n nodwedd sy’n cael ei gwarchod rhag unrhyw wahaniaethu.
- Chwiliwch i weld pa dechnegau sy’n gweithio i chi. Mae rhai pobl yn gweld bod deiet cytbwys, ymarfer corff, lleihau faint o alcohol maen nhw’n ei yfed neu roi’r gorau yn llwyr, neu gael digon o gwsg, yn eu helpu i reoli eu symptomau’n well.
ADHD yn y gweithle ac addysg uwch
- Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol yn y gweithle ar gyfer gweithwyr ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor – mae ADHD wedi’i gynnwys yn y rhestr honno.
- Addasiadau rhesymol yw newidiadau mae modd eu gwneud yn y gweithle i helpu i leddfu anfantais a allai fod gan rywun ag ADHD, er enghraifft, caniatáu defnyddio clustffonau sy’n canslo sŵn mewn swyddfa swnllyd neu roi cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn hytrach na chyfarwyddiadau ar lafar.
- Mae grant Mynediad i Waith yn gallu eich helpu i ddechrau gweithio a pharhau i weithio. Mae’n cynnwys cyllid ar gyfer offer yn y gweithle ac addasu offer, costau teithio, a mathau eraill o gymorth ymarferol fel hyfforddwr swyddi.
- Mae Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn talu costau sy’n gysylltiedig ag astudio gydag anabledd, ac mae’n cynnwys meddalwedd, mentora a chymorth i brynu offer.
Homework tips for young people with ADHD
Tasks that need a lot of concentration, like homework, can be especially difficult for young people with ADHD. Here a few ideas that can help:
Dyma rai syniadau a allai fod o gymorth:
- Cadwch ddyddiadur gwaith cartref ac ysgrifennwch bopeth sydd angen i chi ei wneud. Efallai y byddai’n dda gofyn i’ch athro/athrawes edrych ar eich dyddiadur i wneud yn siŵr bod gennych chi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Cofiwch fynd â’ch dyddiadur gwaith cartref adref gyda chi.
- Dewch o hyd i le tawel i wneud eich gwaith cartref lle nad oes llawer o bethau i dynnu eich sylw.
- Paratowch bopeth sydd ei angen arnoch cyn i chi ddechrau. Mae cadw eich holl ddeunydd ysgrifennu a llyfrau mewn un lle penodol yn gallu bod o gymorth.
- Cymerwch amser i ddarllen cyfarwyddiadau yn ofalus fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud. Darllenwch y cyfarwyddiadau eto wrth i chi ddechrau, i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth i’w wneud.
- Torrwch dasgau hir yn rhai llai.
- Cymerwch egwyl fer bob 20 munud neu fwy i roi seibiant i’ch ymennydd.
Adnoddau
- Daflen NCMH: ADHD in children and young people
- Daflen NCMH: ADHD in adults
Let’s talk about ADHD animation
The ADHD research team at Cardiff University worked with children with ADHD and their families and carers to create an animation about what it’s like to have ADHD. Read more about the animation.
Gweithiodd tîm ymchwil ADHD Prifysgol Caerdydd gyda phlant sydd ag ADHD a’u teuluoedd a gofalwyr i greu animeiddiad am sut brofi ADHD. Darllenwch fwy am yr animeiddiad.
Podlediad Piece of Mind: ADHD mewn merched a menywod
Dr Joanna Martin ac Ellie, person ifanc nad yw’n fenyw na gwryw, i drafod sut mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn ceisio dysgu mwy am ADHD.
Podlediad Piece of Mind: ADHD
Mae Zoe Piper, sylfaenydd ADHD Connections, a’r Athro Anita Thapar yn eistedd i lawr gyda’r cynhyrchydd Piece of Mind, Bozo Lugonja, i drafod y ymchwil ddiweddaraf ynglŷn â ADHD.
Gwahaniaethu ffeithiau oddi wrth chwedlau
Mae’r Athro Anita Thapar yn trafod rhai o’r mythau a’r camddealltwriaethau o amgylch y cyflwr, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu o wyddoniaeth, a sut y gall hyn helpu arfer clinigol ac addysgol.
Mae’r Athro Anita Thapar yn ateb cwestiynau am ADHD
Mae gan Claire ferch sydd ag ADHD eithafol ac mae’n gofyn ei chwestiynau i’r Athro Anita Thapar, un o brif ymchwilwyr NCMH a phroffesor clinigol yn Prifysgol Caerdydd. Cafodd y fideo hwn ei gynhyrchu fel rhan o gyfres Challenge Cardiff.

