Astudio effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl

Rydym ni’n yn ceisio cynnig gwell dealltwriaeth o effaith COVID-19 ar ein lles, yn enwedig i bobl sydd wedi cael problemau iechyd meddwl yn eu bywydau.

Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn heriol i bawb ac mae pob un ohonom yn ymateb yn wahanol i fyw drwy gyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen.

Mae ymatebion cyffredin, arferol wedi cynnwys teimladau cadarnhaol o obaith ac undod ar adegau, ochr yn ochr ag emosiynau negyddol o bryder a phryder.

Cyflwynodd yr Athro Jonathan Bisson, y mae ei brif ddiddordebau ymchwil ym maes straen ôl-drawmatig, ganfyddiadau ymchwil diweddaraf NCMH fel rhan o gyfres Prifysgol Caerdydd o weminarau ar-lein Gwyddoniaeth ym Maes Iechydym mis Rhagfyr 2020.

Arolwg COVID-19 NCMH

Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ar y pandemig yn ystod haf 2020 a chafwyd dros 3,000 o ymatebion gan garfan o oedolion y Ganolfan sydd â hanes o salwch meddwl.

Dadansoddwyd y data dan arweiniad Dr Katie Lewis, ac roedd y cwestiynau’n canolbwyntio ar brofiadau unigolion yn ystod y pandemig, sut roeddent yn teimlo ei fod wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, a’u nod oedd mesur eu lles cyffredinol o ganlyniad i hyn.

Roedd y cyfranogwyr wedi cael amrywiaeth o ddiagnosisau iechyd meddwl gan gynnwys anhwylderau pryder, anhwylderau iselder, anhwylderau straen ar ôl-drawmatig ac anhwylderau bwyta.

Roedd yr anhwylderau amrywiol hefyd yn caniatáu i ni ddadansoddi’r profiadau iechyd meddwl penodol hyn mewn perthynas â’r boblogaeth yn gyffredinol.

Datgelodd y data fod lefelau uchel o bobl yn disgrifio eu lles yn wael, gyda 50-60% yn ateb eu bod yn teimlo’n waeth o ganlyniad i’r pandemig.

Fodd bynnag, yn ddiddorol, dywedodd 10% o gyfranogwyr eu bod yn teimlo’n llawer gwell yn ystod y pandemig.

Dywedodd unigolion fod y cyfyngiadau a gyflwynwyd drwy’r cyfnodau clo cenedlaethol yn eu galluogi i anwybyddu’r byd y tu allan sydd fel arfer yn peri pryder iddynt.

Dywedodd eraill fod y cyfyngiadau yn eu helpu i deimlo’n fwy cartrefol ac yn debyg i eraill gan fod pawb arall yn yr un cwch o ran methu â mynd allan chwaith.

Roedd arolwg yr haf hefyd yn gyfle i archwilio effaith ffactorau cyd-destunol ar gyfranogwyr fel oedran, incwm isel, patrymau cysgu a mwy, yfed mwy o alcohol a defnydd uwch o sylweddau.

Tynnodd yr arolwg sylw mawr at yr anhawster cynyddol a achosir gan y pandemig wrth gyrchu gwasanaethau iechyd meddwl a pheidio â chael cefnogaeth mor hawdd gan rwydweithiau ffrindiau a theulu.

Dywedodd yr Athro Bisson, uchod, “Mae diffyg cefnogaeth gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn un o’r ffactorau anoddaf a welsom yn ein carfan.

“Mae gennym dystiolaeth ar hyn o bryd bod diffyg gwasanaethau iechyd meddwl hygyrch wedi cael effaith.

Mae methu â gweld pobl, o fewn rhwydwaith cymorth personol a phroffesiynol, yn y ffordd arferol, yn ogystal â rhestrau aros hir am driniaethau seicolegol wedi ychwanegu at y brwydrau i lawer.

“Dyna pam mae NCMH yn edrych ar dechnegau amgen fel hunangymorth dan arweiniad a fyddai’n caniatáu rhoi triniaethau mewn modd amserol er mwyn cyrraedd mwy o bobl.”

COVID-19 a PTSD

Cwblhawyd canfyddiadau arolwg diweddaraf NCMH ar ddiwedd 2020.

Gofynnodd yr arolwg Anhwylder Pryder Ôl-drawmatig (PTSD) i’r un bobl a arolygwyd yn gynharach yn y flwyddyn, ond y tro hwn, roedd yn cynnwys cwestiynau a oedd yn edrych yn benodol ar ddiagnosis PTSD mewn perthynas â’r pandemig.

Canfu tua 40% o’r unigolion a arolygwyd fod o leiaf un agwedd ar argyfwng COVID-19 yn drawmatig.

Y pryder mwyaf cyffredin a roddwyd gan gyfranogwyr â phrofiad o anawsterau iechyd meddwl yn eu bywydau oedd pryder cyffredinol am y pandemig ac yna cyfyngiadau symud.

Roedd pobl eraill nad oeddent yn dilyn y rheolau yn destun pryder yn ôl pob golwg, yn ogystal â defnyddio gorchuddion wyneb, sylw yn y cyfryngau, y ffordd y mae’r llywodraethau’n trin y pandemig, pryderon ariannol ac ofn dal y firws eu hunain.

Mae’r data yn gofyn cwestiynau pellach ar sut gallai pandemig COVID-19 gyd-fynd â dosbarthiad digwyddiadau trawma PTSD.
Ychwanegodd yr Athro Bisson, “Yn ddiddorol nid yw’r mwyafrif o’r pryderon hyn a restrwyd yn bethau y byddem yn eu hystyried fel trawma o ran anhwylder straen ôl-drawmatig.

“Yn seiliedig ar ddiffiniadau seiciatryddol o drawma, ni fyddai byw drwy’r pandemig yn ddigon i gyflawni’r meini prawf ac felly’n cael ei gategoreiddio fel digwyddiad trawmatig PTSD.

“Mae hwn yn bwynt trafod diddorol ar gyfer dadl, ac rydym yn edrych ymlaen at archwilio hyn ymhellach.”

Dangosodd canlyniadau’r arolwg mai 1% yn unig o’r cyfranogwyr sy’n ffitio’r meini prawf llym ar gyfer nodi trawma ac yn debygol o ddioddef PTSD o ganlyniad i Covid-19.

Gyda hyn mewn golwg, aeth yr Athro Bisson ymlaen i ddweud, “Rydym yng nghanol pandemig byd-eang o hyd a bydd olrhain hyn i ddarganfod yr effeithiau meddyliol hirdymor yn hanfodol.

Mae’r pandemig hwn yn wahanol i ddigwyddiad trawma unigol, ac mae’n llawer mwy tebyg i lifogydd, er enghraifft.

“Mae gan effaith llifogydd elfen iselder tymor hwy a phruddglwyfus yn hytrach nag elfen PTSD.

“Rwy’n disgwyl y gwelwn ganlyniad tebyg dros amser oherwydd yr argyfwng hwn. Bydd hyn yn caniatáu inni ddysgu mwy am effeithiau parhaol ‘COVID hir’ gan bobl sydd wedi cael y feirws eu hunain.”

Felly ble nesaf am yr arolwg?

Mae NCMH yn bwriadu mynd ar drywydd hyn ar ei hyd drwy ddadansoddi’r data rhagarweiniol hwn ymhellach i gael gwell dealltwriaeth o effaith hirdymor y pandemig ar iechyd meddwl.

Mae NCMH yn datblygu arolygon Covid-19 yn y dyfodol ar gwsg, anhwylderau bwyta ac OCD. Mae’r Ganolfan hefyd yn bwriadu datblygu ymyriadau hunangymorth dan arweiniad ar gyfer cyflyrau sy’n debygol o gael eu gwaethygu gan Covid-19, megis anhwylder galar estynedig a PTSD cymhleth.

I weld darlith lawn yr Athro Bisson, ewch i https://youtu.be/misLUyhLFaM

Cymryd rhan yn ein hymchwil

I ddarllen mwy

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *