Astudiaeth newydd yn ceisio cipio profiadau mamau newydd

Rydym yn gweithio i geisio deall effaith profiadau bywyd gwahanol ar les corfforol a meddyliol mamol yn ystod y cyfnod amenedigol.

Mae’r cyfnod amenedigol yn cynnwys yr amser o feichiogi hyd at pan fydd y babi’n flwydd oed. Gall y cyfnod hwn fod yn un o adegau mwyaf cyffrous a gwerth chweil erioed i deuluoedd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad dyna yw’r achos bob tro.

Ein nod yw ymchwilio ffactorau all gymhlethu’r cyfnod hwn, fel bod modd rhoi mesurau atal a thriniaethau ar waith.

Trwy gefnogi mamau a’u teuluoedd y mae anawsterau iechyd meddwl yn effeithio arnynt yn ystod y cyfnod amenedigol, gallwn wella canlyniadau i blant a sicrhau bod babanod yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Lansiwyd yr Arolwg Lles Mamol, Iechyd Meddwl a Phrofiadau Bywyd ar ddechrau mis Ebrill. Mae ar agor nawr i unrhyw un sy’n feichiog ar hyn o bryd, neu sydd wedi rhoi genedigaeth o fewn y 12 mis diwethaf.

Mae’r arolwg yn edrych ar nifer o ffactorau sy’n ymwneud â beichiogrwydd. Mae lles corfforol a meddyliol yn cael eu hystyried ochr yn ochr ag ystod o brofiadau bywyd gwahanol, y gallech fod wedi bod drwyddynt neu beidio.

Mae’r arolwg hefyd yn mynd i’r afael ag effaith y pandemig COVID-19 a’r newidiadau i wasanaethau amenedigol.

Rydym yn gwybod bod bod yn feichiog a magu plant ifanc yn ystod y pandemig COVID-19 wedi bod yn arbennig o heriol i rieni newydd.

Mae mynychu apwyntiadau cynenedigol ar eich pen eich hun neu gyda chefnogaeth gyfyngedig gan rywun annwyl, methu â chyflwyno’ch babi newydd i aelodau o’r teulu a ffrindiau, a chael ei ynysu gartref gyda chefnogaeth ymarferol ac emosiynol gyfyngedig wedi cael effaith negyddol ar les emosiynol a chorfforol menywod.

Rydym am ddeall profiadau menywod yn well yn ystod yr amser heriol hwn er mwyn hysbysu llunwyr polisïau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol am y newidiadau y mae angen eu rhoi ar waith.

Helpwch ni gyda’n hymchwil trwy ateb yr arolygon a’u rhannu ag unrhyw un arall a allai gyfrannu at yr ymchwil bwysig hon.

Cymerwch ran heddiw

Mae cymryd rhan yn cynnwys ateb rhai cwestiynau am eich lles, beichiogrwydd cyfredol neu ddiweddar, iechyd meddwl, eich profiadau bywyd, a’ch meddyliau a’ch teimladau sy’n gysylltiedig â COVID-19. Mae’n cymryd tua 20-30 munud i’w gwblhau.

Cymerwch ran ar-lein heddiw.

Adnoddau

Darllen mwy

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *