Astudiaeth newydd: Anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)

Beth yw anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD)?

Mae anhwylder straen ôl-drawmatig, neu PTSD yn fyr, yn enw a roddir i set o symptomau sy’n gallu datblygu ar ôl profiad trawmatig iawn. Mae’r profiadau trawmatig hyn yn ddigwyddiadau ysgytwol neu frawychus nad ydynt fel arfer yn digwydd i rywun.

Ymhlith yr enghreifftiau mae damweiniau difrifol, ymosodiadau rhywiol, neu brofiadau yn y fyddin.

Gall PTSD ddechrau ar ôl rhywbeth sy’n digwydd i’r unigolyn ei hun, neu rywbeth y mae unigolyn yn ei weld yn digwydd i rywun arall.

Mae symptomau PTSD yn cynnwys ail-fyw’r profiad trawmatig drwy feddyliau, ôl-fflachiau, neu hunllefau annifyr, osgoi atgofion neu bethau sy’n atgoffa’r unigolyn o’r trawma, a theimlo’n nerfus neu gadw llygad am berygl drwy’r amser.

Mae hefyd yn gyffredin i bobl â PTSD gael trafferth gyda theimladau o euogrwydd neu gywilydd am yr hyn a ddigwyddodd, hyd yn oed os nad oedd bai arnynt.

Beth yw PTSD cymhleth?

Yn debyg i PTSD, gall PTSD cymhleth ddechrau ar ôl llawer o wahanol ddigwyddiadau trawmatig, ond mae’n arbennig o gyffredin ar ôl profiadau sy’n mynd ymlaen am amser hir, yn digwydd dro ar ôl tro, neu’n digwydd yn ystod plentyndod.

Mae hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu ar ôl profiadau trawmatig a achosir gan berson arall.

Mae hyn yn gallu cynnwys cam-drin neu esgeuluso yn ystod plentyndod, cam-drin domestig, rhyfel neu artaith.

Mae PTSD cymhleth yn cynnwys llawer o symptomau PTSD, yn ogystal â symptomau ychwanegol gan gynnwys anawsterau’n deall neu reoli emosiynau, problemau mewn perthnasoedd, a chredoau negyddol am yr hunan neu am bobl eraill.

Er bod gweithwyr meddygol wedi adnabod symptomau PTSD cymhleth ers degawdau, dim ond yn fwy diweddar y cafodd ei gydnabod yn ffurfiol fel diagnosis.

A oes modd trin PTSD a PTSD cymhleth?

Mae tystiolaeth dda i ddangos bod therapïau seicolegol yn fwy effeithiol na meddyginiaeth ar gyfer trin PTSD.

Mae’r dystiolaeth gryfaf yn bodoli ar gyfer therapïau seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma, hynny yw, therapïau sy’n canolbwyntio ar atgofion o’r profiad trawmatig a’r meddyliau a’r teimladau sy’n gysylltiedig ag ef.

Therapi gwybyddol ymddygiadol gyda ffocws ar drawma a dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiad y llygaid (EMDR) yw’r triniaethau a argymhellir fwyaf yn y GIG ac mewn canllawiau triniaeth glinigol ledled y byd.

Yn anffodus, nid yw’r therapïau hyn bob amser ar gael yn hawdd.

At hynny, nid ydynt bob amser yn effeithiol, ac nid yw rhai pobl yn ymateb iddynt.

Rydym yn llai sicr ynghylch effeithiolrwydd therapïau ar gyfer PTSD cymhleth, ond mae rhywfaint o dystiolaeth ar gyfer therapïau sy’n meithrin sgiliau ar gyfer byw yn y presennol tra’n gwneud synnwyr o’r gorffennol, ond nid yw’r therapïau arbenigol hyn ar gael yn eang.

Mae hyn yn amlygu’r angen am therapïau newydd neu rai wedi’u haddasu ar gyfer PTSD a PTSD cymhleth.

Beth ydyn ni’n ei wneud ar gyfer PTSD?

Gan ddefnyddio data o’n Carfan, rydym wedi dysgu llawer am PTSD a PTSD cymhleth.

Rydym wedi llunio adroddiadau ar drawma cudd ymhlith pobl â phroblemau iechyd meddwl, hunan-stigma gyda PTSD, ac ar y profiad o gael PTSD cymhleth a PTSD ochr yn ochr â diagnosisau iechyd meddwl eraill.

Rydym wedi cynnal treialon clinigol o lawer o driniaethau sy’n bodoli ar gyfer PTSD, gan gynnwys 3MDR a’r Dechneg Ailddirwyn ac rydym wrthi’n gwerthuso EMDR sy’n cael ei roi i gyn-filwyr wyneb yn wyneb ac yn ei gymharu ag EMDR sy’n cael ei roi o bell.

Rydym wedi datblygu rhaglen hunangymorth digidol dan arweiniad ar gyfer PTSD ac wedi dod o hyd i dystiolaeth ei fod yr un mor effeithiol â therapi sy’n cael ei roi wyneb yn wyneb ac mae hwn bellach yn cael ei ddefnyddio yn y GIG.

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu rhaglen hunangymorth dan arweiniad ar gyfer PTSD cymhleth ac yn bwriadu gwneud yr un peth ar gyfer PTSD a PTSD cymhleth ymhlith cyn-filwyr.

Sut gallwch chi helpu?

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddeall mwy am PTSD a PTSD cymhleth, rydym yn lansio arolwg ar-lein.

Gobeithiwn ddysgu mwy am y rhesymau pam mae rhai pobl yn datblygu PTSD a PTSD cymhleth ar ôl profiadau trawmatig a sut mae hyn yn effeithio ar fywydau’r bobl hynny.

Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i addasu triniaethau sy’n bodoli eisoes ar gyfer PTSD a datblygu therapïau newydd ar gyfer y dyfodol gyda’r nod cyffredinol o wella iechyd a lles pobl y mae trawma wedi effeithio arnynt.

Cymryd rhan yn ein hymchwil

Os ydych chi wedi wynebu digwyddiad trawmatig, gallech ein helpu i ddeall PTSD a PTSD cymhleth yn well drwy gwblhau ein hastudiaeth ar-lein.

Dylai’r arolwg gymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau, a byddwch yn cael eich gwahodd i ateb rhai cwestiynau am eich profiadau o drawma (fel plentyn ac fel oedolyn) a’ch iechyd meddwl.

Cymerwch ran ar-lein heddiw a helpwch ni i wneud gwahaniaeth.

Adnoddau

Resources

Ar y blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *