Bydd cydweithio i wella iechyd yr ymennydd yn dathlu’r rôl hanfodol y mae grwpiau cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI) yn ei chwarae mewn ymchwil. Rydym yn trefnu’r digwyddiad mewn cydweithrediad â’r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol (BRAIN).
Mae’r ail weminar yn rhannu canfyddiadau cychwynnol yr astudiaeth enetig gyntaf yn y byd i anhwylder dysfforig cyn mislif
Nod y Gyfres o Weminarau i Fenywod dros y Gaeaf yw trafod sut mae prosesau atgenhedlu megis beichiogrwydd, y cylch mislifol a heneiddio atgenhedlol yn gallu effeithio ar iechyd meddwl menywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni (AFAB).
King’s College Llundain yn lansio gwefan newydd i gefnogi pobl sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd meddwl
Mae Dogfennau Dewis Ymlaen Llaw (ACDs) yn gofnodion ysgrifenedig neu lafar sy’n caniatáu i bobl sy’n byw gydag afiechyd meddwl nodi o flaen llaw pa driniaeth yr hoffent gael ei chynnig os byddant yn mynd yn sâl.
Sut gall y menopos effeithio’n negyddol ar iechyd meddwl?
Nod ein cyfres newydd o weminarau i fenywod dros y gaeaf yw gallu cynnig cyfres o weminarau sy’n trafod sut mae prosesau atgenhedlu megis beichiogrwydd, y cylch mislifol a heneiddio atgenhedlol yn effeithio ar iechyd meddwl menywod a phobl y nodwyd eu bod yn fenywod adeg eu geni (AFAB).