Gwahoddwyd yr Athro Jones, cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH), a Dr Di Florio, o’r Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, i siarad yn rhan o Arddangosfa Ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd y gweminar fel un cyhoeddus, trafodwyd sut mae eu gwaith yn gobeithio gwella’r dull presennol o roi diagnosis, atal a thrin ar gyfer yr heriau iechyd meddwl y mae menywod yn eu hwynebu mewn cyfnodau bywyd allweddol.
Agorwyd y gweminar gan Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, “Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r baich y mae problemau iechyd meddwl yn ei roi ar bobl, gyda materion fel hyn yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl.”
Roedd yr ymchwil yn ffrwyth cydweithredu rhwng NCMH, Prifysgol Caerwrangon, Bipolar UK, Action on Postpartum Psychosis (APP), gwasanaethau clinigol a’r menywod a gymerodd ran.
Ar ôl recriwtio dros 7,000 o unigolion ag anhwylder deubegynol ledled y DU, dyma’r astudiaeth fwyaf o anhwylder deubegynol yn y byd.
Un o bob 1,000 o fenywod
Agorodd yr Athro Jones drwy esbonio sut dylanwadodd astudiaeth anhwylder deubegynol ar ymchwil i’r cylchred atgenhedlu.
“Pan ymunais â Phrifysgol Caerdydd a gwneud fy swydd ymchwil gyntaf, y peth trawiadol mewn cyfweliadau oedd y menywod yr oeddwn yn siarad â nhw,” meddai. “Bydden nhw’n aml iawn yn dweud bod eu cyfnod cyntaf o anhwylder yn ddifrifol ac mai rhoi genedigaeth oedd wedi’i sbarduno.”
Mae’r cyfnod hwn yn aml yn cael ei adnabod fel seicosis ôl-enedigol.
Aeth yr Athro Jones rhagddo, “Felly, beth wyddon ni am y cyflwr hwn o’r enw seicosis ôl-enedigol?
Rydyn ni’n sôn am salwch difrifol sy’n effeithio ar un o bob 1,000 o fenywod. Mewn tua 50% o achosion, gallai hyn fod yn gyfnod difrifol cyntaf menyw o salwch seiciatrig.
“Mae’n dechrau fel arfer yn ystod yr wythnosau cyntaf ac mae’n salwch sydd â phrognosis da iawn. Mae menywod yn tueddu i wella cyn pen wythnosau neu fisoedd.”
Nododd yr Athro Jones y gall y symptomau gynnwys seicosis teimladol difrifol, neu ddatgysylltiad emosiynol realiti difrifol.
Mae’r symptomau o ran hwyl yn debygol o fod fel rhai mania, ond gallant fod yn gymysg â chyfnodau o iselder, fel lluniau sy’n datblygu neu’n newid yn gyflym, neu gyfnodau “caleidosgopig”.
Trin seicosis ôl-enedigol
Soniodd yr Athro Jones am bwysigrwydd ymyrraeth gynnar, “Mae seicosis ôl-enedigol yn argyfwng seiciatrig ac mae angen meddyginiaeth yng nghyfnodau cynnar y driniaeth a derbyn y claf i’r ysbyty.
“Ond mae triniaeth seicolegol, helpu menywod i ddod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, yn bwysig iawn yn y tymor hirach.”
Yna nododd pa mor bwysig yw ymchwil mewn seicosis ôl-enedigol drwy helpu menywod i wneud penderfyniadau anodd ynghylch cymryd meddyginiaeth.
Nodwyd cyfle i atal ac i ddeall y pathoffisioleg, a fydd nid yn unig yn helpu i ddeall seicosis ôl-enedigol ymhellach, ond hefyd am achosion anhwylderau newydd a salwch seicotig yn fwy cyffredinol.
Soniodd yr Athro Jones hefyd am yr effaith ehangach y mae ei waith wedi’i chael, “Y peth pwysicaf rwyf wedi’i wneud yn fy mywyd gwaith yw gweithio i leihau stigma seicosis ôl-enedigol.
I wneud hynny, aeth cydweithwyr a minnau i gynnig i gynhyrchwyr EastEnders y dylen nhw ymdrin â’r stori hon. Gwnaethon nhw hynny’n eithriadol o dda a chyrraedd dros 12 miliwn o bobl gyda’u stori Nadolig lle datblygodd Stacey Slater seicosis ôl-enedigol.
Yr angen am amrywiaeth mewn ymchwil
Ymhelaethodd Dr Di Florio y drafodaeth am yr angen am gynrychiolaeth well mewn ymchwil bywyd atgenhedlol, yn ogystal ag mewn amrywiaeth hiliol a diwylliannol.
Meddai, “Mae stereoteipiau wedi bod yn effeithio ar feddygaeth y Gorllewin dros y 50 mlynedd diwethaf, o leiaf. Mae rhywbeth ‘o’i le’ gyda mamau nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r ystrydeb o fenyw wen, hardd, effeithlon a hapus.
“Mae’r materion hyn wedi’u llunio [mewn diwylliant poblogaidd] fel anghenion meddygol sydd i’w datrys drwy brynu tabledi neu lawdriniaeth.
“Ychydig o le sy’n cael ei roi i agweddau eraill ar eu bywydau biolegol a seicolegol.”
Nododd Dr Di Florio fod tuedd mewn ymchwil tuag at faterion sy’n effeithio ar ddynion, dros faterion sy’n effeithio ar fenywod:
Mae’r gwahaniaeth yn ofnadwy. Mae dros gan gwaith yn fwy o gyhoeddiadau ar anhawster codiad nag sydd ar iselder perimenopos.
Tynnodd hi sylw at y ffordd yr oedd yr NCMH a Chanolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd yn ymdrin â hyn drwy gynnal yr astudiaeth fwyaf erioed mewn seiciatreg atgenhedlol.
Trafododd Dr Di Florio hefyd sut nad yw pob menyw ag anhwylder deubegynol yr un fath yn y cylch atgenhedlu.
Byddai rhai menywod yn cael eu heffeithio cyn rhoi genedigaeth, rhai ar ôl hynny, a rhai drwy gydol y daith geni plant i gyd.
Yn olaf, soniodd am y nod o ddatblygu dulliau ymchwil sy’n sensitif yn ddiwylliannol, gan ddarparu gofal priodol i bob menyw sydd ei angen, gobeithio.
Torri tir newydd mewn ymchwil ôl-enedigol
Mae dros gant o bapurau wedi’u cyhoeddi yn ystod cyfnod ymchwil yr Athro Jones a Dr Di Florio. Maen nhw wedi canfod bod menywod ag anhwylder deubegynol mewn perygl uchel iawn o gael cyfnod o anhwylder yn ystod beichiogrwydd neu’r cyfnod ôl-enedigol.
Mae’r astudiaeth wedi helpu i unigoli’r risg hyd yn oed ymhellach drwy nodi grwpiau risg uchel.
Roedd menywod a oedd yn tueddu i beidio â chysgu’n dda ddwywaith yn fwy tebygol o brofi cyfnod o seicosis ôl-enedigol.
Bydd gwaith yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddeall y cyflwr yn well gydag ymgyrch recriwtio ar-lein genedlaethol a gaiff ei lansio’n fuan.
I gloi, meddai’r Athro Jones:
Yn y pen draw, bydd ein hymchwil yn cael ei farnu yn ôl sut mae’n cael effaith ac yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd.
Hoffai’r Athro Jones a Dr Di Florio ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymchwil.
Gwylio’r gweminar
Adnoddau
- Taflen NCMH | Bipolar Disorder, pregnancy and childbirth
- Podcast NCMH | Episode 1: Postnatal depression
Darllen rhagor
- NCMH | Anhwylder deubegynol, beichiogrwydd a geni plant
- Arolwg NCMH | Maternal mental health online study
- Blog NCMH | Astudiaeth newydd yn ceisio cipio profiadau mamau newydd