Rhaglen ymgysylltu cyhoeddus gan Ymddiriedolaeth Wellcome oedd Share Your Rare dan arweiniad Dr Sam Chawner, sy’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phenotypica, menter celf a gwyddoniaeth gan y gwyddonydd Ben Murray a’r artist Neus Torres Tamarit.
Nod y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o brofiadau pobl y mae cyflyrau genetig prin yn effeithio arnynt.
Dywedodd Dr Chawner, “Mae cyflyrau prin yn effeithio ar un o bob dau ar bymtheg o bobl yn y DU, ond mae ymwybyddiaeth o’r cyflyrau hyn yn isel.
“Crëwyd prosiect Share Your Rare i gynnig llais creadigol i’r gymuned cyflyrau prin.
Mae’r gwaith a ddeilliodd wedi creu adnodd i godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae’r gwaith eisoes wedi’i arddangos yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, ac edrychwn ymlaen at gyfleoedd pellach i rannu’r prosiect.
Crëwyd y gwaith celf ar-lein ac mewn digwyddiadau wyneb yn wyneb, ac mae bellach i’w weld mewn oriel ar-lein.
Gwybodaeth am y prosiect
Drwy weithdai ar-lein gyda phobl a theuluoedd â phrofiadau byw o gyflyrau genetig prin, defnyddiodd y tîm dechneg adrodd stori i helpu’r rhai oedd yn bresennol i ysgrifennu cerdd fer am eu profiadau.
Y dechneg a ddefnyddiodd y tîm oedd pumawd, cerdd bum llinell a gaiff ei llunio drwy ateb pum cwestiwn:
- Beth yw pwnc fy ngherdd?
- Allwch chi feddwl am ddau air neu ymadrodd i’w disgrifio?
- Allwch chi feddwl am dri gair neu ymadrodd gweithredu sy’n ei disgrifio?
- Sut ydw i’n teimlo am y pwnc?
- Beth yw gair arall am fy mhwnc neu gasgliad am fy mhwnc?
Esboniodd Neus Torres Tamarit o Phenotypica pam y dewiswyd y dechneg, “Roeddem ni am gael math o gyfathrebu oedd yn lefelu’r tir rhwng pobl sy’n byw gyda chyflyrau genetig prin a’r bobl sy’n eu hastudio ac yn eu trin. Gan mai ychydig iawn o bobl sy’n ysgrifennu barddoniaeth yn rheolaidd, roedd barddoniaeth yn ymddangos yn gyfrwng delfrydol i ni.
“Prydferthwch y Pumawd yw ei bod hefyd yn addas ar gyfer “plethu” lle mae modd gwau llinellau o nifer o gerddi gyda’i gilydd i greu cerddi newydd.
“Helpodd hyn ni i gymryd safbwyntiau unigol pobl a’u gwau gyda’i gilydd i greu profiadau cyffredin ac mae hefyd yn gweithio fel cyfatebiaeth ar gyfer proses genetig ail-gyfuno.”
Codi ymwybyddiaeth am y gymuned cyflyrau prin
Cyflwynwyd y prosiect yng nghanol pandemig COVID-19, gan gynnig cipolwg unigryw o brofiadau pobl â chyflyrau genetig yn ystod y cyfnod hwnnw.
Roedd yn cynnwys gweithdai ar-lein gyda’r Gynghrair Genetig a chydweithio gyda Cerebra ac IMAGINE-ID, yn ogystal â chyfraniadau gan y gymuned cyflyrau genetig prin ar-lein.
Darllenwch y cerddi o weithdai’r Gynghrair Genetig.
Gwyliwch y fideo o waith celf a grëwyd i’r prosiect, a ysbrydolwyd gan yr amrywiaeth o brofiadau o fewn y gymuned clefydau prin:
Share Your Rare yn y Syrcas Isatomig
Cafodd y prosiect gynulleidfa wyneb yn wyneb newydd yn y Syrcas Isatomig ym mis Awst 2021, a gynhaliwyd yng Ngŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, wrth i’r tîm weithio gyda phlant a’u teuluoedd i gofnodi eu prosiect yn ystod haf 2021 wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu codi.
Esboniodd Dr Chawner: “Arweiniodd y digwyddiad at sgyrsiau ar genomeg, iechyd meddwl a chelf”.
“Defnyddiom ni’r cyfle hefyd i archwilio profiad teuluoedd o’r pandemig, a rhannu eu haf prin.”
“Creodd y plant osodiad celf ar hyd Rhodfa’r Amgueddfa yng nghanol Caerdydd, gan dynnu ar brofiad yr haf wrth ddod allan o gyfnod clo 2021.
Gwylich gelf y stryd yn dod yn fyw ar wefan Phenotypica.
Gorffennodd Dr Chawner, “Hoffem ddiolch i bawb a fu’n cymryd rhan yn y prosiect i ddod â Share Your Rare yn fyw.”
Darllen rhagor
- Phenotypica | Oriel Share Your Rare
- Newyddion Canolfan MRC | Newyddion Canolfan MRCCardiff University genomics researcher awarded Medical Research Foundation fellowship
- Newyddion Canolfan MRC | Nod prosiect Share Your Rare yw codi ymwybyddiaeth o gyflyrau genetig ac iechyd meddwl prin