Ar ôl pedair blynedd, datgelwyd canlyniadau’r treial i’r cyfranogwyr.
Cynhaliwyd y treial, dan arweiniad Dirprwy Gyfarwyddwr NCMH, yr Athro Jon Bisson, rhwng 2017 a 2021 ar draws nifer o leoliadau’r GIG yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Cymerodd 196 o bobl â PTSD ran ynddo.
Ar ôl i’r tîm gasglu a gwerthuso eu canlyniadau, cynhaliwyd gweminar gyda chyfranogwyr, eu teuluoedd a phobl eraill yn trafod canfyddiadau RAPID, gan orffen gyda sesiwn holi ac ateb fyw.
Rhesymau dros gynnal treial RAPID
Cadeiriodd yr Athro Bisson y weminar, gan ddechrau gyda chefndir yr astudiaeth a pham y cafodd ei chynnal.
Mae triniaeth PTSD fel arfer yn cynnwys 12-16 awr o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda therapydd, ac oherwydd rhestrau aros hir gall gymryd amser i gael mynediad at hyn.
Yn 2005, argymhellodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fod angen mwy o ymchwil i ddod o hyd i ffyrdd gwahanol o drin PTSD.
Dechreuodd y gwaith datblygu mewn cydweithrediad â GIG Cymru ar raglen hunangymorth dan arweiniad ar gyfer trin PTSD ysgafn i gymedrol.
Cafodd Spring, triniaeth hunangymorth dan arweiniad gam wrth gam ar-lein, ei datblygu gyda phobl â phrofiad o gael PTSD.
Ariannwyd RAPID i helpu i ddarganfod a oedd hyn yr un mor effeithiol â CBT-TF wyneb yn wyneb, ond gan gynnig y posibilrwydd o leihau amseroedd aros a galluogi mynediad hyblyg.
Dywedodd yr Athro Bisson:
Doedden ni ddim yn disgwyl i Spring fod yn well na therapi wyneb yn wyneb, ond roedden ni eisiau treialu a oes modd dweud nad yw therapi wyneb yn wyneb yn well na hunangymorth dan arweiniad.
“Gyda RAPID, roedden ni am ddisgrifio’r profiad o gael hunangymorth o safbwynt y derbynnydd, ac o’i gyflwyno o safbwynt y therapydd.
“Roedden ni hefyd am drafod pa mor gost-effeithiol yw hyn a phenderfynu a allai ffactorau penodol effeithio ar effeithiolrwydd, a’r gallu i gyflwyno hunangymorth dan arweiniad yn llwyddiannus ar gyfer PTSD yn y GIG pe bai’n llwyddiannus.”
Roedd yr astudiaeth, a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cynnwys nifer o randdeiliaid allweddol gan gynnwys y GIG, a oedd yn hanfodol wrth recriwtio cyfranogwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Roedd pob un a gymerodd ran yn RAPID yn gymwys i gael triniaeth yn y GIG, ac yn ceisio cael triniaeth.
Mae’r fideo canlynol yn rhoi crynodeb o’r astudiaeth:
Pwysigrwydd cynnwys y cyhoedd mewn ymchwil
Bu Sarah Cosgrove, Cadeirydd y Grŵp Cynghori Cyhoeddus a chyfranogwr cynnar ar y treial, yn trafod cyfraniad y grŵp.
Dywedodd Sarah:
Rydyn ni i gyd yn awyddus i weithio i osgoi’r stigma sy’n gallu bod yn gysylltiedig â PTSD i rai pobl.
“Rydyn ni wedi cyfrannu mewn cymaint o feysydd: gwybodaeth i gleifion, y wefan; rydyn ni wedi cyfrannu blogiau, rydyn ni wedi gwneud gwaith yn y wasg a’r cyfryngau i ehangu cyrhaeddiad yr hyn rydym yn ei wneud. Ar bob cyfle, rydyn ni wedi cael ein cynnwys.
“Mae cyd-gynhyrchu wedi bod yn ganolog i’r gwaith.”
Soniodd am sut y gall y grŵp, drwy rannu ei brofiadau, helpu pobl eraill, “Mae bod yn aelod o grŵp cynghori cyhoeddus yn brofiad sy’n eich grymuso, oherwydd mae’n eich atal chi rhag teimlo fel dioddefwr, mae’n eich helpu chi yn eich adferiad eich hun ac mae’n gallu helpu pobl eraill.”
Dadansoddiad yn dangos nad yw Spring yn israddol o’i gymharu â CBT-TF
Nesaf, siaradodd Cono Ariti, Cymrawd Ymchwil ac ystadegydd RAPID, am ganfyddiadau ystadegol y treial.
Daeth y prif ddadansoddiad o’r treial i’r casgliad y canfuwyd nad oedd hunangymorth dan arweiniad yn israddol o’i gymharu â CBT-TF.
Dangosodd dadansoddiadau eilaidd hefyd dystiolaeth nad oedd yn israddol ar draws meysydd eraill o ganlyniadau’r cyfranogwyr.
Dywedodd, “Yn y bôn dydyn ni ddim yn credu y bydd hunangymorth dan arweiniad yn well na CBT-TF, yn hytrach, rydyn ni’n credu na fydd y driniaeth yma’n waeth na CBT-TF.”
Llwyddwyd i ragori ar y sampl arfaethedig o 192, gyda chyfanswm o 196.
Nod y gwaith dadansoddi oedd darganfod a oedd y driniaeth yn cael effeithiau gwahanol ar gyfer gwahanol grwpiau.
Er enghraifft, dynion o’u cymharu â menywod, ac a oedd gwahaniaethau yn y treial cyn y pandemig o’i gymharu ag yn ystod y pandemig.
Dywedodd Cono, “O ran demograffeg y llinell sylfaen, roedd 64% yn fenywod a 36% yn ddynion. Yr oedran canolrifol oedd 32.”
Y ‘digwyddiad trawmatig gwaethaf a brofwyd’ a nodwyd gan y cyfranogwyr oedd damwain o ryw fath (29%), ac yna marwolaeth sydyn, annisgwyl rhywun agos (11%).
Roedd categorïau eraill yn cynnwys ymosodiad corfforol, ymosodiad rhywiol, ac anaf neu salwch sy’n bygwth bywyd.
Cynhaliwyd dadansoddiad archwiliadol ychwanegol i weld a oedd gwahaniaethau o ran triniaeth rhwng grwpiau penodol, er enghraifft, dynion a menywod, ac a oedd gwahaniaethau yn y treial cyn y pandemig o’i gymharu ag yn ystod y pandemig.
Ni ddangosodd unrhyw is-grŵp unrhyw dystiolaeth o wahaniaethau o ran triniaeth rhwng y grwpiau hunangymorth dan arweiniad a CBT-TF.
Cost therapi
Aeth Katherine Cullen, Economegydd Iechyd RAPID Prifysgol Abertawe, ati i nodi’r costau sy’n gysylltiedig â hunangymorth dan arweiniad o’i gymharu â CBT.
Roedd y costau’n cynnwys costau cynnal y wefan a’r apiau ar gyfer hunangymorth dan arweiniad, amser hyfforddi staff a goruchwyliaeth ar gyfer pob ymyriad, costau unrhyw therapi ychwanegol, gofal iechyd sylfaenol a chymunedol a gofal cymdeithasol, a gofal ysbyty dros y treial cyfan.
Dywedodd Katherine:
Cost gyfartalog hunangymorth dan arweiniad Spring oedd tua £277 o’i gymharu â £729 ar gyfer CBT wyneb yn wyneb, a hynny fesul person. Mae’n debyg mai’r prif ffactor y tu ôl i’r gost oedd yr amser therapi wyneb yn wyneb.
“Mae’r canlyniadau’n dangos i ni fod defnyddio hunangymorth dan arweiniad yn arbed costau o’i gymharu â therapi wyneb yn wyneb, gydag arbediad tebygol o oddeutu £500 fesul person.
“Yma mae gennym therapi sy’n arbed costau ac yn rhyddhau adnoddau,” meddai wrth gloi.
Yr hyn a ddywedodd cyfranogwyr RAPID
Yn olaf, tynnodd Ymchwilydd Ansoddol RAPID Kim Smallman o Brifysgol Caerdydd sylw at y cyfweliadau a gynhaliwyd gyda’r cyfranogwyr.
Cymerodd 39 o gyfranogwyr ran mewn cyfweliadau a chynhaliwyd cyfanswm o 54 o gyfweliadau gyda chleifion a therapyddion cyn ac ar ôl gwneud ymyriadau, a gyda chomisiynwyr a rheolwyr y GIG.
Wrth sôn am ba mor hygyrch oedd fformat y driniaeth hunangymorth dan arweiniad a’r sesiynau gwirio, dywedodd y cyfranogwr Ellen, “Pan rydych chi’n mynd i apwyntiad, fel arfer mae’n rhaid i chi neilltuo dwy i dair awr. Ond dim ond galwad ffôn oedd hunangymorth dan arweiniad. Rydych chi’n gallu gwneud yr alwad ffôn ac yna parhau â’ch diwrnod.”
Siaradodd Luke am y berthynas therapiwtig, “Roedd y therapydd yn wych. Gwnaeth i mi deimlo’n gyfforddus… Fe wnaeth i mi agor i fyny a thrafod y damwain mewn llawer o fanylder.”
Roedd y canlyniad, i rai, yn gadarnhaol. Meddai Emma, “Mae fy nealltwriaeth o PTSD yn sicr wedi cael ei ehangu a’i dyfnhau oherwydd rydw i bellach yn deall yr hyn roeddwn i’n ei brofi.”
Fodd bynnag, tynnodd Kim sylw at heriau therapi hunangymorth dan arweiniad, gan nodi nad yw’n addas i bawb.
Roedd rhai yn ei chael hi’n anodd neilltuo amser ar gyfer hunangymorth neu’n cael trafferth canolbwyntio, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol oedd eu PTSD.
Awgrymwyd hefyd efallai na fydd defnyddio ap gartref yn briodol yng nghwmni’r rhai sy’n byw gyda nhw.
Yn gyffredinol, er bod triniaeth wyneb yn wyneb yn cael ei ffafrio, roedd y cyfranogwyr yn ystyried hunangymorth dan arweiniad yn beth cadarnhaol a defnyddiol.
Daeth y weminar i ben gyda sesiwn holi ac ateb gyda chyfranogwyr, gan drafod therapi all-lein o’i gymharu â therapi ar-lein, materion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r costau sy’n gysylltiedig â’r ddau fath o therapi.
I gloi, dywedodd yr Athro Bisson: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r tîm ymchwil ac yn bennaf oll, wrth gwrs, cyfranogwyr RAPID am gymryd rhan.”
Mae gwaith eisoes ar y gweill i ehangu a chynnig y driniaeth newydd hon i fwy o bobl â PTSD.
Darllenwch fwy
- Darllen y papur llawn: https://www.bmj.com/content/377/bmj-2021-069405
Adnoddau
- Taflen NCMH | Post-traumatic stress disorder
- Podcast NCMH | Episode 2: Post-traumatic stress disorder
Darllen rhagor
- Blog NCMH | Guided self-help: a new treatment in PTSD?
- NCMH | RAPID – Guided self-help for PTSD