98% o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt yn teimlo y bydd calorïau ar fwydlenni yn cael effaith negyddol arnynt

a close photo of from the neck down of two people sat at a restaurant table

Mae 98% o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt yn teimlo y byddai cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni yng Nghymru yn cael effaith negyddol neu negyddol iawn, yn ôl arolwg newydd gan Beat, elusen anhwylderau bwyta’r DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn y cyhoedd ar gynlluniau arfaethedig i wneud labelu calorïau ar fwydlenni yn orfodol mewn siopau bwyd fel busnesau, siopau tecawê, bwytai, lleoliadau gofal plant ac ysbytai, fel rhan o strategaeth gordewdra’r genedl. Mae Beat yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi cyflwyno labelu calorïau ar fwydlenni i ddiogelu’r 58,000 o bobl yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn byw ag anhwylderau bwyta.

Gwnaeth Beat arolwg o dros 100 o bobl y mae anhwylderau bwyta yn effeithio arnynt ledled Cymru i ofyn sut maent yn teimlo y byddai’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt. Nid yw 96% o ymatebwyr yr arolwg yn cefnogi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni mewn caffis, bwytai a siopau tecawê.

Lleisiodd llawer o bobl bryderon y byddai calorïau ar fwydlenni yn gwaethygu gorbryder i’r rhai sy’n byw ag anhwylder bwyta ac yn gwneud adferiad yn anoddach. Dywedodd Rhys*: ‘Yn ddiweddar rwyf wedi profi ailwaeliad o ganlyniad uniongyrchol i labelu calorïau mewn bwytai yng Nghymru. Roedd yn brofiad ofnadwy i fod yn ôl yng ngafael rhywbeth rwyf wedi gweithio mor galed i’w oresgyn.’

Roedd bron i 7 o bob 10 o ymatebwyr i’r arolwg yn teimlo pe bai calorïau’n cael eu cyflwyno ar fwydlenni’ yng Nghymru, y byddant yn mynd allan i fwyta’n llai aml. Dywedodd Elis* ‘pe bai calorïau wedi’u hargraffu ar fwydlenni pan oeddwn ar fy ngwaethaf, ni fyddwn wedi gallu bwyta allan o gwbl’. Dywedodd unigolyn arall: ‘Dydw i ddim yn gwybod a fyddaf yn gallu mynd allan i fwyta mewn bwyty eto’.

Roedd pobl hefyd yn pryderu am yr effaith y gallai calorïau ar fwydlenni ei chael ar blant a phobl ifanc, gyda 96% o bobl yn dweud na fyddant yn cefnogi calorïau ar fwydlenni mewn ysgolion, colegau, lleoliadau blynyddoedd cynnar neu ofal plant. Dywedodd Sara* y ‘gallai dod ag ymwybyddiaeth o galorïau ysgogi dechrau anhwylderau bwyta mewn pobl ifanc y mae’n hawdd dylanwadu arnynt, drwy annog gor-ymwybyddiaeth o’r calorïau yn y bwydydd y maent yn eu bwyta.’ Dywedodd un arall fod cyfyngu ar galorïau yn ifanc ‘yn gallu achosi cymhlethdodau difrifol i iechyd hirdymor y plentyn’.

Cyfeiriodd nifer o bobl at bwysigrwydd mynd allan am fwyd yn ystod adferiad o anhwylder bwyta. Dywedodd Owen* ‘mae’r agwedd gymdeithasol ar rannu a mwynhau bwyd yn rhan hynod bwysig o gydlyniant cymunedol a chymdeithasol, yn ogystal ag adferiad o anhwylderau bwyta.’

Roedd eraill yn rhannu rhwystredigaeth na fyddai labelu calorïau ar fwydlenni yn gwneud gwahaniaeth i iechyd y boblogaeth yn gyffredinol. Dywedodd Beca* nad yw ychwanegu calorïau at fwydlenni ‘yn cymryd i ystyriaeth y dwysedd maetholion na’r buddion cymdeithasol ac emosiynol y mae pobl yn eu cael o fwyta bwyd penodol’. Dywedodd rhywun arall ‘nid yw calorïau’n adlewyrchu pa mor iach yw bwydydd, ond maent yn gallu ysgogi teimladau o orbryder ynof i yn hawdd’.

Pan ofynnwyd iddynt beth y gallai’r Llywodraeth ei gyflwyno yn lle calorïau gorfodol ar fwydlenni, awgrymodd rhai ymatebwyr i’r arolwg y dylid darparu bwydlen ddewisol gyda labelu calorïau ar gyfer cwsmeriaid sy’n gofyn am un, ond mai bwydlenni heb galorïau ddylai fod y dewis diofyn.

Dywedodd Jo Whitfield, Arweinydd Cenedlaethol Beat yng Nghymru: ‘Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i osgoi gwneud calorïau’n orfodol ar fwydlenni. Mae tystiolaeth glir bod calorïau ar fwydlenni yn beryglus i’r rhai y mae’r salwch meddwl difrifol hwn yn effeithio arnynt. Er enghraifft, gall labelu calorïau gynyddu teimladau o ofid a phryder, a all waethygu ymddygiadau anhwylderau bwyta a gwneud rhywun yn fwy sâl. Rydym yn arbennig o bryderus bod labelu calorïau yn cael ei ystyried ar gyfer bwydlenni plant, gan fod hyn yn debygol o gynyddu’r gorbryder y mae pobl ifanc ag anhwylderau bwyta yn ei deimlo am amseroedd bwyd a gwneud adferiad yn anoddach.

‘Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar bobl ag anhwylderau bwyta, gyda llawer o bobl yn teimlo’n fwyfwy ynysig a gofidus, ac yn anffodus mae’r galw am gymorth yn parhau i dyfu. Yn Beat, darparodd ein tîm dros deirgwaith y nifer o sesiynau cymorth i bobl yng Nghymru rhwng mis Ebrill 2021 a Mawrth 2022, o’i gymharu â chyn y pandemig.

‘Mae labelu calorïau ar fwydlenni eisoes wedi dod i rym yn Lloegr, lle mae tîm ein llinell gymorth wedi bod yn cefnogi pobl sy’n ofidus am y newid hwn. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle hollbwysig i fyfyrio ar effaith negyddol deddfwriaeth Lloegr, ac i osgoi cyflwyno polisïau iechyd sy’n niweidio pobl ag anhwylderau bwyta. Rydym yn cyfrannu at yr ymgynghoriad ac yn parhau i annog y Llywodraeth i ymgynghori â chlinigwyr anhwylderau bwyta ac arbenigwyr trwy brofiad trwy gydol y broses hon er mwyn osgoi niwed i bobl ag anhwylderau bwyta.’

Dywedodd Dr Isabella Jurewicz, Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru: ‘Mae gan ordewdra ac anhwylderau bwyta ffactorau risg tebyg a chyflwyno effeithiau corfforol a meddyliol sylweddol. Dylai polisïau iechyd cyhoeddus symud o bwysleisio cyfrifoldeb unigol i fesurau iechyd sy’n seiliedig ar y boblogaeth. Gallai labelu calorie helpu rhai pobl i wneud dewisiadau gwybodus ond gallai hefyd fod yn niweidiol i blant a’r rhai sydd mewn perygl o ddatblygu anhwylder bwyta, neu’r rhai mewn adferiad, ac felly rydym yn cefnogi galwadau i osgoi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni.

‘Dylid cydlynu strategaethau i atal y ddau gyflwr wrth i fwy o blant a phobl ifanc nag erioed o’r blaen gael eu heffeithio, ac o oedran cynharach. Byddai polisïau sy’n rheoleiddio’r diwydiannau bwyd, diet a ffitrwydd, creu ysgolion a gweithleoedd iach, a mannau corfforol diogel sy’n annog chwarae a thrafnidiaeth actif yn ddefnyddiol er mwyn hybu lles meddyliol, gan gynnwys atal anhwylderau bwyta.’

*Mae enwau wedi’u newid  

-DIWEDD-  

Canfyddiadau Allweddol:  

  • Maint sampl arolwg ‘Labelu Calorïau ar Fwydlenni yng Nghymru’ Beat oedd 105 o gyfranogwyr sydd ag anhwylder bwyta neu sydd wedi bod ag anhwylder bwyta, neu sydd wedi cefnogi anwylyd ag anhwylder bwyta. Roedd yr holl ymatebwyr i’r arolwg wedi’u lleoli yng Nghymru.
  • Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 4ydd Gorffennaf a 7fed Awst 2022. Gofynnwyd 14 o gwestiynau ynghylch sut y byddai labelu calorïau ar fwydlenni yn effeithio ar bobl ag anhwylderau bwyta.
  • Mae 98% o ymatebwyr yr arolwg yn teimlo y byddai labelu calorïau ar fwydlenni yn negyddol neu’n negyddol iawn i bobl sy’n byw ag anhwylderau bwyta.
  • Nid yw 96% o ymatebwyr yr arolwg yn cefnogi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni mewn caffis, bwytai a siopau tecawê yng Nghymru.
  • Nid yw 96% o ymatebwyr yr arolwg yn cefnogi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni mewn ysgolion, colegau, lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant.
  • Nid yw 94% o ymatebwyr yr arolwg yn cefnogi cyflwyno labelu calorïau gorfodol ar fwydlenni sydd wedi’u targedu’n benodol at blant.
  • Dywedodd 67% o ymatebwyr yr arolwg y byddant yn mynd allan i fwyta’n llai aml pe bai calorïau’n cael eu hychwanegu at fwydlenni yng Nghymru.

Nodiadau i olygyddion:  

a young woman with long brown hair looking at a menu

How will this impact people in Wales?

Beat surveyed over 100 people affected by eating disorders across Wales to ask how they feel this legislation would impact them. 96% of survey respondents do not support the introduction of mandatory calorie labelling on menus in cafes, restaurants and takeaways.

Many people voiced concerns that calories on menus would worsen anxiety for those unwell with an eating disorder and make recovery more difficult. Rhys* said:

I have recently experienced a relapse as a direct result of calorie labelling in restaurants in Wales. It was devastating to be back in the grip of something I have worked so hard to overcome.

Almost 7 in 10 survey respondents felt that if calories on menus were introduced in Wales, they would go out to eat less frequently. Elis* commented that ‘if calories had been printed on menus at my worst, I wouldn’t have been able to eat out at all’. Another person said: ‘I don’t know if I’ll ever be able to go out to eat at a restaurant again’.

Risking an essential part of eating disorder recovery

People were also concerned about the impact that calories on menus could have on children and young people, with 96% of people saying they would not support calories on menus in schools, colleges, early years or childcare settings. Sara* said that ‘bringing an awareness to calories could trigger the start of eating disorders in young impressionable people, by encouraging hyper-awareness of the calories in the foods they eat.’ Another commented that restricting calories at a young age ‘can pose serious complications to the child’s long-term health’.

a young woman with curly hair serving a man and woman sat outside a coffee shop using laptops

Many people expressed how important eating meals out is during eating disorder recovery. Owen* said ‘the social aspect of sharing and enjoying food is an extremely important part of community and social cohesion, as well as eating disorder recovery.’

Others shared frustrations that calorie labelling on menus wouldn’t make a difference to the health of the general population. Beca* commented that adding calories to menus ‘doesn’t take into consideration the nutrient density or social and emotional benefits that people get from eating a certain food’. Another said:

Calories don’t reflect the healthiness of foods, but can easily trigger feelings of anxiety in me.

When asked what the Government could introduce instead of mandatory calories on menus, some survey respondents suggested providing an optional menu with calorie labelling for customers who request one, but that menus without calories should be the default.

Beat calls on Welsh Government to avoid the change

At Beat, we are urging the Welsh Government to avoid making calories mandatory on menus. There is clear evidence that calories on menus are dangerous for those affected by these serious mental illnesses. For instance, calorie labelling can heighten feelings of distress and concern, which can worsen eating disorder behaviours and make somebody more unwell.

We’re particularly concerned that calorie labelling is being considered for children’s menus, as this is likely to increase the anxiety that young people with eating disorders feel about mealtimes and make recovery more difficult.

The pandemic has had a devasting impact on people with eating disorders, with many people feeling increasingly isolated and distressed, and sadly demand for support is continuing to grow.

At Beat, our team provided over three times the amount of support sessions to people in Wales between April 2021 and March 2022, in comparison to before the pandemic.

young black man wearing a headset and smiling

Calorie labelling on menus has already come into force in England, where our helpline team has been supporting people who are distressed about this change. The Welsh Government has a crucial opportunity to reflect on the negative impact of England’s legislation and to avoid introducing health policies that harm people with eating disorders.

We are contributing to the consultation and continuing to urge the Government to consult with eating disorder clinicians and experts by experience throughout this process to avoid harm to people with eating disorders.

Dr Isabella Jurewicz, Chair of the Eating Disorder Faculty, Royal College of Psychiatrists Wales said: “Both obesity and eating disorders have similar risk factors and present significant physical and mental health impacts. Public health policies should shift from emphasising individual responsibility to population-based health measures.

“Calorie labelling might help some people make informed choices but it could also be harmful to children and those at risk of developing an eating disorder, or those in recovery, and therefore we back calls to avoid the introduction of mandatory calorie labelling on menus.

‘Strategies to prevent both conditions should be coordinated as more children and young people than ever before are affected, and from an earlier age. Policies regulating the food, diet and fitness industries, creating healthy schools and workplaces, and safe physical spaces that encourage play and active transport would be useful to promote mental wellbeing, including the prevention of eating disorders.’

What happens now?

The Welsh Government’s Healthy Food Environment consultation is open until 1st September 2022, available here. Beat has also written a guide to the consultation which is available here.

If you’re from Wales please consider signing an open letter to Wales’ Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing, Lynne Neagle.

*Names have been changed

Support

  • Beat is the UK’s eating disorder charity, providing information and support 365 days a year through Helplines which people can call, text or email, and through online support including information and online support groups. Beat also provides expert training for health and social care professionals and for schools. It relies on financial support from the public to run its services. More information is available from Beat.
  • Beat’s Welsh Helpline is open 365 days a year on 0808 801 0433 or via Waleshelp@beateatingdisorders.org.uk

Resources

NCMH Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *