Cyflyrau iechyd meddwl

Dysgwch fwy am y cyflyrau iechyd meddwl rydym yn eu hastudio

Rydym wedi datblygu ystod o wybodaeth am nifer o ddiagnosisau, gan gynnwys symptomau, triniaethau a chyngor defnyddiol i unigolion a’u teuluoedd.

Anhwylder galar hirfaith (PGD)
Anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd (ARFID)
Mae anhwylder osgoi a chyfyngu ar gymeriant bwyd (ARFID) yn anhwylder bwyta sy'n arbennig o gymhleth ac yn cael ei gamddeall. Fe'i nodweddir gan osgoi neu gyfyngu ar gymeriant bwyd, neu'r ddau.
Sgitsoffrenia
Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy'n effeithio ar feddwl, profiadau, teimladau, ac ymddygiad. Mae'n effeithio ar tua 1% o'r boblogaeth ar ryw adeg yn eu bywydau.
Iselder
Mae'n normal teimlo'n drist neu'n ddigalon weithiau. Ond os yw eich hwyliau’n parhau’n isel am wythnosau ar y tro, yn dychwelyd dro ar ôl tro, neu'n ymyrryd â'ch bywyd, gallai hyn fod yn arwydd o iselder.
Anhwylderau bwyta
Mae anhwylderau bwyta yn afiechydon meddwl sy’n gallu ymddangos fel meddyliau a theimladau sydd ddim yn dda am fwyd a bwyta, sy’n arwain at newidiadau sylweddol mewn ymddygiad.
Therapi electrogynhyrfol (ECT)
Mae therapi electrogynhyrfol (ECT) yn driniaeth ar gyfer rhai mathau o salwch meddwl difrifol nad ydyn nhw wedi ymateb i driniaethau eraill.
Hunan-niweidio
Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn niweidio neu'n anafu ei gorff yn fwriadol.
Awtistiaeth
Mae awtistiaeth, anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu gyflyrau sbectrwm awtistiaeth (ASC) yn dermau am gyflwr niwroddatblygiadol sy'n effeithio ar agweddau penodol ar ddatblygiad person gydag effeithiau sy’n para gydol oes.
Gorbryder a phyliau o banig
Mae’n beth arferol teimlo’n bryderus neu’n ofidus mewn sefyllfaoedd sy’n ymddangos yn fygythiol i ni.
Anableddau dysgu, iechyd meddwl ac ymddygiad heriol
Dydy hi ddim yn anghyffredin i bobl gael problemau gyda dysgu. Pan nad yw'r problemau hyn yn effeithio ar ddeallusrwydd person na'i fywyd bob dydd, mae hyn yn cael ei alw’n anhawster dysgu.
Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD)
Mae anhwylder dysfforig cyn y mislif (PMDD) yn anhwylder hwyliau gyda symptomau'n dechrau yn ystod cyfnod lwteal y cylch mislif ac yn dod i ben o fewn ychydig ddyddiau ar ôl i’r mislif ddechrau.
Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr niwroddatblygiadol. Mae’r diagnosis yn cael ei wneud yn bennaf yn ystod plentyndod, er weithiau nid yw'n cael ei gydnabod nes bod rhywun yn oedolyn.
Anhwylder deubegynol, beichiogrwydd a geni plant
Mae cael babi yn ddigwyddiad mawr ym mywyd unrhyw fenyw. I'r rheini sydd ag anhwylder deubegynol (a elwid gynt yn iselder gorffwyll) mae hyd yn oed fwy o faterion i feddwl amdanyn nhw.
Anhwylder deubegynol
Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yw’r enw ar gyflwr iechyd meddwl y mae rhai pobl yn ei ddatblygu ar ôl profi digwyddiad trawmatig mawr.
Problemau cysgu
Bydd tua un o bob tri ohonom yn profi problemau cysgu achlysurol ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae problemau cysgu sy’n para’n hirach yn gyffredin hefyd ac yn effeithio ar oddeutu un o bob deg o bobl.