Beth yw PTSD?
Anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yw’r enw ar gyflwr iechyd meddwl y mae rhai pobl yn ei ddatblygu ar ôl profi digwyddiad trawmatig mawr.
Mae PTSD yn gyflwr iechyd meddwl cyffredin, gydag astudiaethau’n amcangyfrif y bydd 7% o bobl yn datblygu PTSD ar ryw adeg yn eu bywyd; mae hyd at draean o’r bobl sydd wedi profi digwyddiad trawmatig yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD.
Gallai digwyddiad trawmatig fod pan fydd unigolyn yn profi neu’n gweld un digwyddiad sy’n bygwth neu’n achosi marwolaeth, anaf difrifol neu drais rhywiol, neu lawer o ddigwyddiadau sydd wedi digwydd dros wythnosau, misoedd neu flynyddoedd.
Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig yn cynnwys:
- camdriniaeth yn ystod plentyndod, gan gynnwys esgeulustod emosiynol
- profiadau wrth roi genedigaeth
- rhyfel cartref, terfysg, neu artaith
- trais domestig
- digwyddiadau milwrol neu ymatebwyr cyntaf
- anaf neu salwch sy’n peryglu bywyd
- disgyrchiannau naturiol a phersonol
- ymosodiad corfforol
- damwain traffig ffordd
- ysmosodiad rhywiol
- ymosodiadau terfysgol
- neu unrhyw sefyllfa drychinebus
Nodweddion PTSD
Gall pobl sydd â PTSD ddioddef o wahanol fathau o symptomau. Ymhlith y rhain mae:
- ail-brofi’r trawma
- osgoi meddwl am y trawma
- atgofion a phethau sy’n eu hatgoffa o’r trawma a theimlad cyson o fygythiad parhaus
n aml mae pobl â PTSD yn ail-brofi’r digwyddiad trawmatig yn y presennol, ar ffurf atgofion ymwthiol o’r trawma sy’n codi dro ar ôl tro ac sy’n peri gofid, hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n trio meddwl am y peth.
Efallai y bydd y digwyddiad trawmatig yn cael ei ail-fyw drwy ôl-fflachiau, lle gallai’r unigolyn golli synnwyr o’r hyn sy’n digwydd yma-a-nawr, a theimlo fel pe bai’n ôl yn y digwyddiad trawmatig. Gall hyn fod yn ddryslyd ac yn annymunol dros ben.
Gall pobl gael hunllefau trallodus o’r digwyddiad trawmatig sy’n gallu eu deffro o’u cwsg, ac achosi cymaint o ofid fel nad oes modd iddyn nhw fynd yn ôl i gysgu.
Efallai y bydd rhywun â PTSD eisiau osgoi cofio neu feddwl am y digwyddiad trawmatig, ac yn ceisio gwthio’r meddyliau a’r atgofion hyn o’r neilltu yn eu meddwl.
Efallai y bydd rhai pethau y bydd y person eisiau osgoi eu gwneud neu fod o’u cwmpas, rhag ofn iddo ddeffro atgof sy’n peri gofid; mae’r rhain yn enghreifftiau o’r hyn rydym yn ei alw’n ymddygiad osgoi. Mae hyn yn aml yn peri i fywyd y person fod yn llawer llai o ran yr hyn gall ei wneud yn gyfforddus.
Mae ymddygiad osgoi yn un o’r pethau hefyd sy’n atal rhywun rhag gallu gwella ar ôl digwyddiad trawmatig.
Yn aml, mae pobl â PTSD yn teimlo bod pethau’n dal i deimlo’n beryglus, er bod y digwyddiad trawmatig wedi dod i ben.
Rydym yn galw hyn yn ymdeimlad parhaus o fygythiad. O ganlyniad i’r teimlad hwn, efallai y bydd pobl â PTSD yn teimlo ar bigau o hyd, ac yn methu ag ymlacio.
Efallai y bydd sŵn sydyn yn codi ofn arnyn nhw’n hawdd, ac efallai y byddan nhw’n chwilio drwy’r amser am berygl yn eu hamgylchedd; rydym yn galw’r math hwn o ymddygiad yn orwyliadwriaeth.
Ar gyfer pobl â PTSD, mae’r nodweddion hyn yn achosi gofid a phroblemau sylweddol o ran gallu gweithredu yn eu bywyd personol, teuluol, cymdeithasol, addysgol, neu yn y gwaith.
Yn aml mae pobl â PTSD yn cael trafferth â’u cwsg, ac yn ei chael yn anodd syrthio i gysgu ac aros ynghwsg am gyfnod digon hir. Gallai hyn fod oherwydd cyfuniad o fethu ag ymlacio, a chael hunllefau sy’n eu deffro o’u cwsg.
Yn aml, mae’n gallu bod yn gyffredin i bobl â PTSD brofi emosiynau anodd fel teimlo’n bigog ac yn flin neu ddim yn gallu teimlo dim o gwbl a theimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth bobl eraill. Efallai hefyd y byddan nhw’n eu beio eu hunain am yr hyn a ddigwyddodd, a theimlo cywilydd neu euogrwydd, neu wedi ffieiddio â nhw eu hunain, hyd yn oed os nad nhw oedd ar fai. Weithiau gall y meddyliau a’r teimladau hyn gael effaith ar eu perthnasoedd.
Efallai na fydd rhai pobl sydd â PTSD yn cofio rhannau sylweddol o’r digwyddiad trawmatig, tra bydd eraill yn meddwl am y digwyddiad drwy’r amser. Gallai hyn eu hatal rhag dod i delerau â’r hyn sydd wedi digwydd (efallai y byddan nhw, er enghraifft, yn gofyn iddyn nhw eu hunain pam wnaeth y digwyddiad ddigwydd iddyn nhw neu sut gellid bod wedi’i osgoi).
Weithiau gall pobl â PTSD deimlo wedi’u llethu i’r graddau eu bod yn teimlo wedi’u datgysylltu oddi wrth eu corff neu o’r ymdeimlad ohonyn nhw eu hunain. Gall hyn gynnwys y canlynol:
- ddim yn siŵr iawn lle maen nhw
- colli cyfrif o’r amser
- teimlo bod yr amgylchedd o’u cwmpas fel bod mewn breuddwyd neu wedi newid
- ddim yn cofio beth oedden nhw’n ei wneud wrth i hyn ddigwydd
Rydym yn galw’r math hwn o brofiad yn ymdeimlad o ddatgysylltiad; mae’n nodwedd gyffredin mewn llawer o gyflyrau iechyd meddwl, a dydy hyn ddim yn para’n hir iawn fel arfer.
Dydy hi ddim yn anghyffredin i bobl â PTSD fod â chyflyrau iechyd meddwl a chorfforol eraill hefyd fel:
- iselder
- gorbryder
- problemau defnyddio cyffuriau ac alcohol
- clefyd y galon
- problemau iechyd y perfedd
- cyflyrau poen cronig
Nodweddion CPTSD
Mae gan bobl ag anhwylder straen wedi trawma cymhleth (CPTSD) symptomau PTSD ond maen nhw hefyd yn ei chael yn anodd iawn cael trefn arnyn nhw eu hunain, fel sy’n cael ei ddisgrifio isod.
Gall pobl ag anhwylder straen wedi trawma cymhleth gael trafferth ymdopi â theimladau o ofid, a dydy eu strategaethau arferol i ymdawelu a rheoli eu teimladau ddim yn gweithio cystal.
Mae hyn yn golygu bod sbardunau cymharol fach yn gallu arwain at deimladau llethol, neu deimlo dim byd o gwbl ac wedi’u datgysylltu. Mae hyn yn aml yn deillio o ymdeimlad o fod yn anniogel drwy’r amser, cyflwr sy’n gysylltiedig o fod yn orwyliadwrus ac anallu i ymlacio, a chred y byddan nhw’n profi digwyddiadau bywyd trychinebus cyn hir.
enwedig y rheini sy’n gysylltiedig â niwed gan eraill, gael effaith wirioneddol niweidiol ar hunanwerth a hunanhyder rhywun.
Mae pobl â CPTSD yn aml yn meddwl am eu hunain mewn ffordd negyddol yn gyson, fel teimlo’n ddiwerth, yn anobeithiol, teimlo eu bod wedi torri neu’n fethiant, a hyn oll yn rhan o ymdeimlad dwys o gywilydd personol. Gall hyn arwain at strategaethau osgoi ac atal, fel camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gorfodaeth i brofi’u hunain mewn amgylchedd gyrfa drwy orweithio.
an eu bod wedi dioddef niwed gan bobl eraill, mae’n hawdd deall y gall pobl â CPTSD ei chael yn anodd ymddiried mewn pobl a chynnal perthynas dda â phobl.
Gall hyn gael effaith fawr ar sut maen nhw’n gweithredu’n gymdeithasol a’u gallu i ffurfio perthnasoedd cefnogol, sy’n hynod bwysig wrth wella ar ôl digwyddiad trawmatig.
mae CPTSD a BPD yn gyflyrau gwahanol, ond mae ganddyn nhw nodweddion sy’n gorgyffwrdd.
Fel arfer, mae pobl â BPD yn cael trafferth gyda’r canlynol:
- teimladau sy’n gallu newid yn gyflym yn ystod y dydd
- dim syniad clir o sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain
- gweithredu’n fyrbwyll
- cael perthynas â phobl ond bod ag ofn mawr y bydd anwyliaid yn eu gadael
- meddwl dro ar ôl tro am hunan-niweidio neu hunanladdiad neu am y gweithredoedd hynny
I’r gwrthwyneb, mae pobl â CPTSD yn dueddol o fod ag ymdeimlad clir ond negyddol o sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain, ac yn tueddu i osgoi cael perthynas agos â phobl.
Gall BPD ddatblygu mewn pobl ar ôl digwyddiadau trawmatig, ond i rai pobl bydd BPD yn datblygu
heb ddim hanes o drawma. Efallai y bydd gan rai pobl â BPD nodweddion PTSD neu CPTSD ar yr un pryd.
Mae sefydlu beth yw diagnosis rhywun yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i helpu pobl i ddeall beth maen nhw’n ei brofi, ac i’w tywys at y triniaethau a allai weithio orau iddyn nhw.
Ond, mae’n bwysig cofio bod pobl â PTSD a CPTSD yn dangos nodweddion mewn gwahanol ffyrdd, ac y dylai’r profiad a’r broses briodol o reoli symptomau gael eu teilwra’n bersonol i bob un.
Getting support
TY cam pwysig cyntaf yw i unigolion gysylltu â’u meddygfa a threfnu apwyntiad i siarad am eu symptomau.
Mae pobl sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig yn aml yn pryderu am gael asesiad i siarad am eu trawma.
Mae’n bwysig gwybod nad oes angen trafod llawer o fanylion am y digwyddiad trawmatig yn ystod yr ymweliad cyntaf nac, yn wir, nes eu bod nhw’n barod.
Bydd yr asesiad yn canolbwyntio mwy ar eu symptomau a sut mae’r trawma yn effeithio ar eu bywyd a’u perthynas ag eraill.
Cofiwch fod modd trin PTSD a CPTSD, ac y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn eich deall, yn eich cefnogi, ac yn gofalu amdanoch chi, ac yn gallu trafod y triniaethau gorau sydd ar gael i chi.
Triniaethau ar gyfer PTSD a CPTSD
Cyflyrau iechyd meddwl yw PTSD a CPTSD, ac fel unrhyw gyflwr iechyd meddwl arall, maen nhw’n gallu bod yn gymhleth iawn.
Mae angen i ni allu trin a bod yn ymwybodol o’r holl ffactorau ym mywyd pobl a allai fod yn cyfrannu at eu cyflwr mewn modd cadarnhaol neu negyddol.
Rydym yn rhannu’r rhain yn ffactorau cymdeithasol, seicolegol a biolegol.
Ffactorau cymdeithasol
Mae ffactorau cymdeithasol yn bethau fel a oes gan berson â PTSD neu CPTSD y canlynol:
- man diogel i fyw lle nad oes perygl drwy’r amser neu risg o newid sydyn
- mynediad at gymorth ariannol i sicrhau bod ei anghenion sylfaenol yn cael eu diwallu
- rhwydwaith cymdeithasol o gefnogaeth o’i gwmpas trwy ffrindiau, teulu neu’r gymuned ehangach
Y ffactorau cymdeithasol hyn yw’r pethau pwysicaf i fynd i’r afael â nhw yn gyntaf, lle bo angen.
Ffactorau seicolegol a biolegol
Unwaith y bydd y ffactorau cymdeithasol gystal ag y bo modd, mae sawl ffordd o drin hyn sydd, yn ôl tystiolaeth ymchwil, yn rhai effeithiol wrth helpu gyda PTSD a CPTSD.
Ffactorau seicolegol yw pethau mae modd eu trin gyda therapïau siarad neu therapïau seicolegol, a ffactorau biolegol yw pethau mae modd eu helpu gyda meddyginiaethau.
Therapïau seicolegol yw’r triniaethau mwyaf effeithiol ar gyfer PTSD a CPTSD. Mae rhai pobl yn dewis peidio â defnyddio therapïau seicolegol, neu maen nhw’n methu cael mynediad atyn nhw.
Efallai y byddan nhw wedi rhoi cynnig ar therapïau seicolegol ac wedi canfod nad oedden nhw’n eu helpu cymaint â’r hyn roedden nhw’n ei obeithio; efallai y byddan nhw ar restr aros ac yn dymuno dechrau meddyginiaeth cyn therapi.
Therapïau seicolegol
Mae therapïau seicolegol effeithiol iawn ar gael ar gyfer trin straen wedi trawma.
Therapïau siarad yw therapïau seicolegol, sydd fel arfer yn cael eu darparu i berson â PTSD gyda therapydd dros apwyntiadau 60-90 munud bob wythnos, dros wyth i un deg chwe wythnos.
Yn aml, mae angen cyrsiau therapi hirach i helpu pobl â CPTSD oherwydd yr ystod ehangach o symptomau ymwthiol a pharhaus maen nhw’n eu profi.
Yn y sesiynau cyntaf, mae’r therapydd yn treulio amser yn meithrin ymddiriedaeth a datblygu nodau therapiwtig, yn deall mwy am gyflwr y person a’i symptomau, ac yn sicrhau bod gan y person â PTSD neu CPTSD sgiliau i’w helpu i reoli ei symptomau cyn canolbwyntio ar y trawma.
Fel arfer, bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar ddiwedd pob sesiwn, i’r person ei wneud cyn y sesiwn nesaf.
EDMR a CBT-TF
Mae enghreifftiau o therapïau seicolegol ar gyfer straen wedi trawma yn cynnwys ailbrosesu a dadsensiteiddio symudiad y llygaid (EMDR) a therapi gwybyddol ymddygiadol â ffocws ar drawma (CBT-TF).
Yn EMDR, rydych chi’n dod â digwyddiad trawmatig i’r cof wrth ddefnyddio symudiadau llygaid i ysgogi rhannau chwith a dde’r ymennydd.
Gall hyn wir helpu i leihau’r straen emosiynol a chorfforol sy’n gysylltiedig â’r atgof, a helpu i newid y pethau mwyaf annymunol rydych chi’n eu teimlo amdanoch chi’ch hun a’r digwyddiad trawmatig.
Mae CBT â ffocws ar drawma yn ddull effeithiol iawn hefyd, sy’n helpu i newid ystyr yr atgof trawmatig a’i effaith.
Gwaith sy’n canolbwyntio ar drawma
Yr elfennau cyffredin ar draws therapïau ar gyfer trawma yw:
- mynd i’r afael â’r credoau sy’n gysylltiedig â’r trawma, er enghraifft, herio’r gred y bydd y byd neu sefyllfa bob amser yn beryglus oherwydd y digwyddiad trawmatig
- ymgysylltu â’r atgof trawmatig a’i sbarduno, er enghraifft, troi tuag at yr atgof o’r trawma rydych chi’n ei osgoi ac edrych ar bob agwedd arno mewn ffordd ddiogel dan reolaeth
- mynd i’r afael ag osgoi mewn profiadau eraill, er enghraifft, dysgu sut mae delio â sefyllfaoedd osgoi ac atgofion o’r trawma mewn bywyd bob dydd)
Mae’r gwaith sy’n canolbwyntio ar drawma yn gallu bod yn anodd, ond bydd y rhan helaeth o bobl sy’n mynd i’w sesiynau ac yn gwneud eu tasgau gwaith cartref yn gweld gwelliant yn eu symptomau.
Cymorth parhaus
Yn anffodus, gall rhestrau aros am meddwl cymunedol wrth iddyn therapïau seicolegol fod yn hir, ac efallai y bydd angen cymorth parhaus ar gleifion gan eu meddyg teulu neu dîm iechyd nhw aros.
Mae’n bosibl y bydd pobl â PTSD a CPTSD yn cael cynnig triniaethau nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar y digwyddiad trawmatig i ddechrau, a all eu helpu i ddatblygu diogelwch emosiynol a sefydlogrwydd yn gyntaf.
Ymyriadau digidol dan arweiniad
Mae ymyriadau digidol dan arweiniad yn gymharol gyffredin ac yn cynnwys therapydd yn tywys person â PTSD neu CPTSD i ddefnyddio rhaglenni gwe yn seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol gyda ffocws ar drawma.
Mae sylfaen dystiolaeth gref dros gynnig ymyriadau digidol dan arweiniad i bobl sydd â PTSD ysgafn i gymedrol yn dilyn un digwyddiad trawmatig a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg i drin achosion mwy cymhleth.
Bydd therapydd yn cwrdd â pherson sydd â PTSD i’w gyflwyno i’r rhaglen gyfrifiadurol, ac yna’n ei dywys drwy’r rhaglen wrth i’r person gwblhau’r tasgau sy’n canolbwyntio ar drawma yn ei amser ei hun.
Meddyginiaeth
Mae’r cyffuriau gwrth-iselder parocsetin, sertralin, fluocsetin a venlaffacsin, a’r feddyginiaeth cwetiapin yn gallu lleihau pa mor ddifrifol yw symptomau PTSD yn gyffredinol.
Gall meddyginiaeth sy’n cael ei defnyddio ar gyfer pwysedd gwaed uchel o’r enw prasosin helpu gyda symptomau PTSD hefyd, a gall helpu gyda hunllefau yn benodol.
Bydd y meddyginiaethau’n cael eu cymryd fel tabled bob dydd dros gyfnod o fisoedd ac am gyfnod hwy.
Weithiau gall gymryd chwech i wyth wythnos ac yn aml, bydd yn rhaid cymryd meddyginiaethau ar ddos uwch, os gall yr unigolyn eu goddef, er mwyn cael yr effaith orau.
Os nad yw un feddyginiaeth neu gyfuniad wedi gweithio, mae modd rhoi cynnig ar rai eraill; mae Algorithm Rhagnodi Anhwylder Straen Wedi Trawma Caerdydd wedi’i greu i gynorthwyo meddygon a chleifion i benderfynu pa ddewis o feddyginiaethau sydd orau iddyn nhw.
Cyngor i bobl sydd wedi profi digwyddiad trawmatig
- Rhowch amser a lle i chi’ch hun i gydnabod beth rydych chi wedi bod drwyddo, a’r ymatebion emosiynol cryf rydych chi’n eu cael.
- Dylech osgoi defnyddio alcohol a chyffuriau i wneud i chi deimlo’n well. Er y gallai’r rhain wneud i chi deimlo’n well yn y tymor byr, gallant achosi problemau difrifol i chi a’ch anwyliaid. Maen nhw hefyd yn gallu gwaethygu symptomau ac ymyrryd â thriniaethau.
- Efallai y byddwch yn cael eich temtio i gadw draw oddi wrth weithgareddau cymdeithasol a’ch anwyliaid, ond mae’n bwysig aros mewn cysylltiad â’r bobl sy’n meddwl y byd ohonoch chi. Mae cefnogaeth gan eraill yn hanfodol er mwyn i chi wella o straen ar ôl trawma.
- Peidiwch â bod yn hunan-feirniadol am y problemau rydych chi’n eu cael. Mae llawer o bobl yn profi problemau tebyg, a dydy hynny ddim yn arwydd o wendid.
- Ceisiwch fod yn iach. Gwnewch beth allwch chi i fwyta deiet cytbwys a chael ymarfer corff rheolaidd – hyd yn oed os mai mynd am dro yn unig yw hynny.
- Cadwch at drefn arferol cymaint â phosibl. Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, ceisiwch ddeffro a chodi yr un pryd bob dydd, a chofiwch osgoi yfed diodydd sy’n cynnwys caffein ar ôl 4pm.
- Rhowch nodau a heriau bach i’ch hun bob dydd, i wynebu’r pethau rydych chi’n eu hosgoi.
- Cofiwch y cryfderau sydd gennych chi. Mae’n bwysig atgoffa’ch hun bod gennych gryfderau a sgiliau ymdopi a fydd yn gallu eich tywys drwy adegau anodd.
- Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth. Trafodwch eich problemau gyda rhywun y gallwch ymddiried ynddo. Gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg teulu. Mae ystod o driniaethau a allai eich helpu.
Cyngor i bartneriaid, teuluoedd a gofalwyr
- Ceisiwch fod yn amyneddgar a charedig gyda’r unigolyn sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig.
- Dylech osgoi beirniadu rhywun am sut maen nhw’n ymdopi. Cofiwch eu bod wedi mynd trwy brofiadau sydd wedi achosi llawer o ofid iddyn nhw.
- Peidiwch â chymryd symptomau’n bersonol er enghraifft, diffyg teimlad emosiynol, dicter a chadw draw oddi wrthoch chi. Os yw’r person sydd wedi bod trwy ddigwyddiad trawmatig yn ymddangos yn bell, yn bigog, neu’n dawedog, cofiwch efallai nad yw hyn yn gysylltiedig o gwbl â chi na’ch perthynas â’ch gilydd.
- Os yw’n profi symptomau ac nad yw wedi cael cymorth, ceisiwch ei annog i gael cymorth proffesiynol. Mae trafod pethau gyda’r meddyg teulu yn lle da i ddechrau.
- Peidiwch â rhoi pwysau ar y person sydd wedi profi digwyddiad trawmatig i siarad am ei brofiad, ond rhowch amser a lle iddo siarad amdano os bydd yn dymuno gwneud hynny.
- Weithiau mae pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn teimlo’n anobeithiol neu’n teimlo cywilydd am y ffordd maen nhw’n ymdopi. Ceisiwch helpu’r person i adnabod ei gryfderau a’i rinweddau cadarnhaol.
- Ceisiwch annog y dioddefwr i sefydlu trefn ddyddiol arferol; mae hyn yn helpu i adfer ymdeimlad o drefn a rheolaeth yn ei fywyd. Rhowch gymorth iddo ddechrau gyda nodau bach bob dydd, ac i gydnabod pob llwyddiant.
Adnoddau
- Daflen NCMH: Understanding PTSD and CPTSD
- Daflen NCMH: Helping to understand PTSD and CPTSD
Piece of Mind podcast: Recognising complex PTSD
Professor Jon Bisson and Michael Davitt discuss lived experience of complex post-traumatic stress disorder and the ongoing research looking into the diagnosis at the NCMH.
Piece of Mind podcast: Post-traumatic stress disorder (PTSD)
RAF veteran Darren and Dr Neil Kitchiner, director and clinical consultant lead at Veterans NHS Wales, discuss PTSD.

