Anhwylder deubegynol, beichiogrwydd a geni plant

Mae cael babi yn ddigwyddiad mawr ym mywyd unrhyw fenyw. I’r rheini sydd ag anhwylder deubegynol (a elwid gynt yn iselder gorffwyll) mae hyd yn oed fwy o faterion i feddwl amdanyn nhw.

Wrth ystyried cael babi, mae gan fenywod ag anhwylder deubegynol a’u teuluoedd lawer o gwestiynau ond mae’n gallu bod yn anodd iddyn nhw gael yr atebion sydd eu hangen arnyn nhw.

Mae’r risgiau o salwch difrifol ar ôl genedigaeth yn eithriadol o uchel i bobl sy’n byw gydag anhwylder deubegynol. Mae pyliau o seicosis ar ôl geni yn digwydd ar ôl tua 25% o enedigaethau i fenywod ag anhwylder deubegynol.

Mae hyn yn golygu bod tua hanner y menywod ag anhwylder deubegynol yn aros yn iach ar ôl cael babi a thua hanner yn gallu cael pwl o salwch.

Gall dau grŵp o fenywod ag anhwylder deubegynol fod mewn mwy o berygl: y rheini sydd wedi cael salwch difrifol ar ôl geni o’r blaen, a’r rheini sydd â mam neu chwaer sydd wedi dioddef salwch difrifol ar ôl geni. I’r grwpiau hyn,

mae’r risg o ddioddef seicosis ar ôl geni yn gallu bod dros 50% (mwy na 50 mewn 100).

Mae’n bwysig iawn i fenywod ag anhwylder deubegynol feddwl yn ofalus iawn am y risgiau hyn. Hyd yn oed os ydych chi’n iach ar hyn o bryd mae siawns o fynd yn wael eto yn fuan ar ôl i’r babi gael ei eni, ond gyda digon o ofal a pharatoi, mae modd rheoli hyn.

Mae llawer o fenywod ag anhwylder deubegynol yn falch iawn eu bod wedi cael teulu, ac maen nhw’n famau rhagorol.

Yn wir, pan fydd menywod sydd â’r salwch ac sy’n ystyried dechrau teulu yn cael yr holl wybodaeth berthnasol, mae’r rhan fwyaf yn gwneud y penderfyniad i geisio cael babi

Beth sy’n gwneud i rai menywod fynd yn wael ar yr adeg hon?

Mae ymchwil wedi dysgu llawer am achosion anhwylder deubegynol. Rydym yn gwybod bod hyn yn gallu rhedeg mewn teuluoedd, a bod yna lawer o ffactorau sy’n gallu sbarduno pyliau.

Ond er ein bod yn gwybod bod menywod ag anhwylder deubegynol yn arbennig o fregus ac yn debygol o fynd yn wael ar ôl genedigaeth, nid ydym yn deall yn llawn beth wrth eni sy’n sbarduno’r salwch.

Gall fod yn gysylltiedig â hormonau, patrymau cysgu wedi’u drysu, neu’n syml y ffaith bod dyfodiad babi newydd yn ddigwyddiad mawr mewn bywyd.

Drwy wneud rhagor o ymchwil, gallwn ddysgu mwy a defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i atal hyn a’i drin. Dyma pam ei bod hi’n ddefnyddiol i fenywod beichiog ag anhwylder deubegynol gymryd rhan mewn ymchwil.

Beth alla i ei wneud i leihau’r risg o fynd yn wael?

Yn ddelfrydol, os ydych chi’n bwriadu beichiogi mae’n well trafod hyn gyda’ch meddyg teulu a’ch tîm seiciatrig cyn i chi geisio cael babi.

Mae gan rai seiciatryddion a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd meddwl ddiddordeb arbennig mewn beichiogrwydd a genedigaeth (a elwir weithiau’n Seiciatreg Amenedigol).

Yn y DU mae sawl tîm iechyd meddwl amenedigol rhagorol ond yn anffodus nid yw hyn ar gael mewn llawer o ardaloedd ar draws y wlad.

Gofynnwch a oes modd i chi gael eich cyfeirio at dîm iechyd meddwl amenedigol. Fel arfer, byddai’n well ganddyn nhw eich gweld cyn gynted â phosib, yn ddelfrydol cyn i chi feichiogi, ac nid dim ond os byddwch chi’n mynd yn wael.

Mae llawer o dimau iechyd meddwl amenedigol ynghlwm wrth unedau mamau a babanod, sy’n gallu derbyn mamau sy’n sâl gyda’u baban.

Os nad oes gwasanaeth lleol ar gael, efallai y bydd modd gweld seiciatrydd amenedigol sydd ymhellach i ffwrdd neu efallai bod gwasanaeth arbenigol ar gyfer anhwylderau hwyliau yn eich ardal.

Hyd yn oed os nad yw’r opsiynau hyn ar gael, yn ddelfrydol dylai pob menyw ag anhwylder deubegynol weld seiciatrydd i gael cyngor os yw’n bwriadu beichiogi, hyd yn oed os nad yw o dan ofal gwasanaethau seiciatrig ar hyn o bryd.

Gallwch drafod:

  • sut mae gwneud yn siŵr eich bod chi mor iach â phosibl wrth ddechrau cyfnod beichiogrwydd
  • eich risg o ddatblygu seicosis wedi geni neu iselder wedi geni
  • risgiau a manteision meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. Bydd hyn yn golygu bod gennych yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniadau am eich triniaeth
  • y math o ofal y gallwch ei ddisgwyl yn eich ardal leol er enghraifft, sut y bydd gweithwyr proffesiynol yn cydweithio â chi a’ch teulu
  • p’un a oes gwasanaeth iechyd meddwl amenedigol, bydwraig arbenigol neu uned mamau a babanod yn agos atoch chi

Creu dogfen dewisiadau ymlaen llaw (ACD) yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl geni

Mae’r sefydliad Advance Choice yn darparu canllawiau ar greu dogfennau dewisiadau ymlaen llaw (ACD) i’ch helpu i nodi eich dymuniadau a’ch cyfarwyddiadau ynghylch eich triniaeth a’ch gofal yn ystod cyfnodau posibl o salwch yn y dyfodol.

Mae adnoddau fideo ar gael gydag ystyriaethau penodol i fenywod am feichiogrwydd wrth wneud dogfen dewisiadau ymlaen llaw.

Adnoddau

Podlediad Piece of Mind: Gadewch i’ch llais gael ei glywed mewn penderfyniadau gofal iechyd meddwl

Mae dogfennau dewis ymlaen llaw (ACDs) yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl nodi eu dymuniadau a’u cyfarwyddiadau am eu triniaeth a’u gofal yn ystod digwyddiadau salwch yn y dyfodol.

Siaradom gyda’r Athro Tania Gergel am ei gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r arf hanfodol hwn i bobl â salwch meddwl difrifol.

Podlediad Piece of Mind: iselder ôl-genedigaeth

Gwrandewch ar ein pennod am iselder ôl-geni gyda Laura Dernie, a brofodd iselder ôl-geni, a’r Athro Ian Jones, cyn gyfarwyddwr yn NCMH.

Sefydliadau cymorth