Anableddau dysgu, iechyd meddwl ac ymddygiad heriol

Beth yw anabledd dysgu?

Dydy hi ddim yn anghyffredin i bobl gael problemau gyda dysgu.

Pan nad yw’r problemau hyn yn effeithio ar ddeallusrwydd person na’i fywyd bob dydd, mae hyn yn cael ei alw’n anhawster dysgu.

Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau lle mae problemau deallusrwydd unigolyn yn fwy difrifol gellir ei ystyried yn anabledd dysgu. Er enghraifft, os oedd y broblem wedi dechrau cyn 18 oed, neu mae’n cael effaith ar ei allu i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol arferol, neu os oes ganddo IQ yn is na 70.

Gall llawer o bethau achosi anabledd dysgu, yn amrywio o gyflyrau cyffredin, tra hysbys megis Syndrom Down i achosion geneteg llai hysbys, trawma yn ystod genedigaeth neu haint difrifol. Ni all llawer o bobl byth nodi un peth penodol sy’n achosi eu hanabledd dysgu. Caiff ei gysylltu’n aml â chyflyrau eraill megis awtistiaeth hefyd.

Mae anabledd dysgu yn eithaf cyffredin, gan effeithio ar tua dau berson o bob 100. Mae’n bosibl na fydd anabledd llawer o bobl sydd ag anabledd dysgu mwy ysgafn yn cael ei gydnabod neu ni fyddant yn derbyn unrhyw gymorth.

Mae difrifoldeb yr anabledd dysgu, a’r graddau y mae’n effeithio ar ddeallusrwydd a gweithrediad yr unigolyn, yn bwysig. Yn aml, mae gan y sawl sydd ag anabledd dysgu mwy difrifol anghenion gofal llawer mwy dwys. Gallant hefyd gael problemau seicolegol a chorfforol cysylltiedig.

Ni chaiff anabledd dysgu ei hun ei ystyried yn gyflwr meddygol, ac mae llawer o’r help sydd ei angen ar bobl yn gysylltiedig â chymorth cymdeithasol a chymorth arall. Fodd bynnag, pan fo anghenion iechyd yn bodoli mae’n rhaid ymdrin â hwy. Yn achos rhai cyflyrau, efallai na fydd gan y gwasanaethau iechyd cyffredinol yr arbenigedd i ymdrin â’r materion hyn, megis problemau iechyd meddwl neu ymddygiad heriol. Os felly, mae angen gwasanaethau arbenigol.

Iechyd meddwl ac anabledd dysgu

Gall plant ac oedolion sydd ag anabledd dysgu brofi’r un amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl â’r boblogaeth gyffredinol. Mewn gwirionedd, dengys gwaith ymchwil fod problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin ymhlith pobl ag anabledd dysgu. Nid ydym yn deall yn llawn beth sy’n achosi’r problemau iechyd meddwl hyn, ond o ran y boblogaeth gyffredinol, gall fod oherwydd amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • geneteg
  • afiechyd corfforol
  • straen seicolegol
  • cydberthnasau cymdeithasol gwael
  • diffyg cyflogaeth
  • tlodi.

Gall adnabod a chanfod problemau iechyd meddwl fod yn anodd iawn. Mae’r modd y mae unigolyn yn gallu mynegi ei anghenion, ar ben ei hun neu gyda chymorth gan eraill, yn effeithio ar ddiagnosis. Efallai y gall person sydd ag anabledd dysgu ysgafn fynegi symptomau problemau iechyd meddwl megis hwyliau isel, yn fanwl. Fodd bynnag, efallai y bydd gan berson sydd ag anabledd dysgu mwy difrifol allu ieithyddol cyfyngedig iawn, ac efallai mai’r unig gliw ei fod yn profi problemau iechyd meddwl fydd newid mewn ymddygiad, megis methu cysgu, dim awydd bwyd neu ymddygiad heriol.

Ymddygiad heriol ac anabledd dysgu

Bydd cyfran o bobl ag anabledd dysgu yn ymddwyn mewn modd a all gael ei ystyried yn heriol. Tua 10-15% ymhlith oedolion. Gall yr hyn rydym yn ystyried i fod yn ymddygiad heriol amrywio’n fawr, ond mae’n aml yn cynnwys ymddygiad ymosodol, distrywioldeb a hunan-anaf.

Gall yr ymddygiad hwn gael effaith difrifol ar fywyd unigolyn, gan ei gwneud hi’n anos derbyn addysg neu gymdeithasu. Gall hyn hefyd ei gwneud hi’n anodd iddo fyw ar ei ben ei hun.

Mae’n bosibl y gall sawl ffactor personol ac amgylcheddol gael effaith ar ymddygiad heriol, gan gynnwys ansawdd yr amgylchedd gofal. Gall afiechyd corfforol a seicolegol cysylltiedig fod yn rhan ohono hefyd.

Mae ymddygiad heriol fwyaf cyffredin ymhlith dynion, pobl ag awtistiaeth a’r rheini ag anabledd dysgu mwy difrifol.

Mae’r ymddygiad hwn yn ddull cyfathrebu i lawer o bobl sydd ag anabledd dysgu. Gallai fod yn cyfleu trallod neu bryder sylfaenol, yr angen am help a sylw, neu’r angen i adael sefyllfa benodol neu ffynhonnell benodol o straen.

Dod o hyd i help

Os ydych yn teimlo bod gennych broblem iechyd meddwl neu eich bod yn ymddwyn yn heriol, neu os ydych yn gofalu am berson sydd ag anabledd dysgu ac yn teimlo y gallai fod ganddynt y problemau hyn, mae’n bwysig eich bod yn ceisio cymorth.

Y cam cyntaf yw trafod hyn gyda’ch meddyg teulu, neu wasanaeth anabledd dysgu arbenigol os ydych mewn cysylltiad ag un. Bydd yn rhaid iddynt wedyn sicrhau nad problem iechyd corfforol sy’n achosi’r problemau sy’n eich poeni, megis gormod o asid yn y stumog neu broblem ddeintyddol.

Os nad yw hyn yn wir, bydd angen cynnal asesiad. Fel arfer, caiff hyn ei ddarparu gan naill ai’r gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS), neu’r gwasanaethau seiciatrig anabledd dysgu ar gyfer oedolion.

Pan gaiff problem iechyd meddwl ei chanfod, efallai y bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yn argymell therapïau siarad, meddyginiaeth neu gyfuniad o’r ddau. Dylai asesiad trylwyr o ansawdd gofal cymdeithasol a phrofiad cymdeithasol yr unigolyn hefyd gael ei gynnal.

Mewn achosion o ymddygiad heriol, bydd seicolegydd neu nyrs anabledd dysgu yn aml yn cynnal asesiad gweithredol i geisio deall yr achosion yn well. Gall pobl ag ymddygiad heriol mwy difrifol gael eu hatgyfeirio at dimau ymddygiad arbenigol a all gynnig asesiad manwl ac, yn aml, gymorth hirdymor.

Awgrymiadau i bobl ag anabledd dysgu

  • Mae’n gallu bod yn anodd deall eich emosiynau. Weithiau, gall problemau gyda’ch iechyd meddwl wneud i chi deimlo fel petaech mewn poen neu’n sâl yn gorfforol. Os ydych yn poeni am unrhyw newid yn y ffordd rydych yn teimlo, dywedwch wrth eich meddyg.
  • Siaradwch â ffrindiau a gofalwyr, neu â’ch meddyg yn unig – mae’n bwysig siarad am sut rydych yn teimlo. Siaradwch am y pethau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda yn ogystal â’r pethau sy’n achosi straen.
  • Gall cadw’n heini a chadw’n iach gael effaith fawr ar gyflyrau megis iselder. Ceisiwch wneud mwy o ymarfer corff a bwyta bwyd iach.
  • Peidiwch â theimlo’n wael am fynd at feddyg, nyrs neu seiciatrydd – dyna yw eu pwrpas. Gall unrhyw un brofi problem iechyd meddwl, y peth pwysig yw dod o hyd i gymorth.
  • Os cewch dabledi, gofynnwch am y sgîl-effeithiau. Os ydych yn teimlo eich bod yn dioddef o’r sgîl-effeithiau peidiwch â rhoi’r gorau i gymryd y feddyginiaeth, ewch at eich meddyg i sôn amdanynt yn gyntaf.

Awgrymiadau i ofalwyr a theuluoedd

  • Cadwch feddwl agored pan fydd ymddygiad rhywun yn newid, ac ewch at y meddyg. Ni fydd y rhan fwyaf o newidiadau yn ymwneud â phroblem iechyd meddwl o gwbl, ac mae’n debygol mai’r un adweithiau tymor byr rydym i gyd yn eu cael y byddant.
  • Cofiwch, efallai na fydd unigolyn ag anabledd dysgu yn dangos ei symptomau mewn ffordd “arferol”. Er enghraifft, os yw’n teimlo’n isel, yn hytrach na chyfaddef hyn, efallai y bydd yn grac neu’n swil.
  • Rhowch ddigon o amser i’r unigolyn fynegi sut mae’n teimlo. Os ydych yn ymweld â gweithiwr iechyd proffesiynol, rhowch wybod iddo beth yw’r ffordd orau o gyfathrebu â’r unigolyn.
  • Os bydd unigolyn yn ymddwyn yn heriol, a’ch bod yn poeni am eich diogelwch chi neu ei ddiogelwch ef, rhowch wybod i’r gweithwyr proffesiynol cyn gynted â phosibl.
  • Cofiwch ofalu am eich iechyd eich hun – gall fod yn ofalwr achosi straen mawr, ac mae sawl un yn datblygu problemau iechyd meddwl eu hunain. Os ydych chi’n credu eich bod yn dost, siaradwch â’ch meddyg.

Adnoddau

Daflen NCMH: Learning disability, mental health and challenging behaviour

Gwefannau defnyddiol