Beth yw sgitsoffrenia?
Mae sgitsoffrenia yn salwch meddwl sy’n effeithio ar feddwl, profiadau, teimladau, ac ymddygiad. Mae’n effeithio ar tua 1% o’r boblogaeth ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae dynion ychydig yn fwy tebygol o ddatblygu’r salwch na merched. Bydd y rhan fwyaf o bobl â sgitsoffrenia yn datblygu’r cyflwr gyntaf pan fyddant rhwng 16 a 35 oed.
Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn ddramatig iawn a pheri cryn ofn i’r bobl sy’n eu dioddef. Gallant gynnwys gweld neu glywed pethau nad ydynt yno mewn gwirionedd, a elwir yn rhithwelediadau, neu ddatblygu credoau anarferol a brawychus yn aml, a elwir yn rhithdybiaethau. Gall sgitsoffrenia hefyd achosi dryswch meddwl sy’n gallu ei gwneud yn anodd dilyn ystyr lleferydd pobl. Gelwir y profiadau hyn weithiau yn ‘symptomau positif’ neu seicosis.
Yn ogystal â’r symptomau hyn, mae pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd cymell eu hunain a chanolbwyntio ac efallai y byddant yn encilio o sefyllfaoedd cymdeithasol. Gelwir y rhain yn ‘symptomau negyddol’ sgitsoffrenia.
Nid yw bod â sgitsoffrenia yn golygu bod gan rywun ‘bersonoliaeth hollt’. Mae’r cyfryngau yn aml yn stereoteipio pobl â’r cyflwr fel rhywun peryglus neu dreisgar – mae hyn yn anghyffredin mewn gwirionedd, ac mae pobl â sgitsoffrenia yn fwy tebygol o ddioddef trosedd. Nid ydym yn gwybod beth yn union sy’n achosi sgitsoffrenia, ond mae geneteg a phrofiadau bywyd yn chwarae rhan.
Mae nifer o ffactorau wedi’u nodi a all olygu bod rhywun yn wynebu mwy o risg o ddatblygu sgitsoffrenia:
- perthynas agos â sgitsoffrenia
- profi problemau yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod rhoi genedigaeth
- defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, gan gynnwys canabis ac amffetaminau
- digwyddiadau trawmatig mewn bywyd (yn enwedig yn ystod plentyndod).
Yn y rhan fwyaf o achosion, ni wyddir sut yn union y mae’r pethau hyn yn cynyddu’r risg.
Cael help
Os byddwch yn credu bod gennych chi neu rywun sy’n agos atoch seicosis neu sgitsoffrenia, mae’n bwysig siarad â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall cyn gynted â phosibl. Po gynharaf y gwneir diagnosis ac y caiff y cyflwr ei drin, y gorau oll y bydd y canlyniad i’r sawl dan sylw fel arfer.
Bydd y rhan fwyaf o bobl â symptomau seicosis neu sgitsoffrenia yn cael eu hatgyferio at wasanaethau iechyd meddwl i’w hasesu. Os caiff rhywun ddiagnosis seicosis neu sgitsoffrenia, dylent dderbyn cynllun gofal yn amlinellu sut y bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu helpu.
Triniaethau ar gyfer sgitsoffrenia
Nid oes gwellhad llwyr o sgitsoffrenia ond, ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, gellir un ai rheoli’r symptomau’n llwyr neu eu gwella’n sylweddol drwy driniaeth. Mae llawer o bobl â’r salwch yn mynd ymlaen i fyw bywyd sefydlog, gweithio a chael perthynas.
Defnyddir grŵp o feddyginiaethau a elwir yn gyffuriau gwrth-seicotig yn aml i leihau symptomau seicosis. Mae tystiolaeth bod y meddyginiaethau hyn yn gweithio’n dda gyda nifer fawr o bobl, yn enwedig wrth reoli rhithwelediadau a rhithdybiaethau. Efallai na fydd nifer fach o bobl yn elwa rhyw lawer o’r triniaethau hyn.
Gall fod angen treialu ychydig o wahanol feddyginiaethau er mwyn darganfod beth sy’n gweithio orau i unigolyn a chydbwyso’r manteision â’r sgil-effeithiau. Gall triniaethau seicolegol hefyd helpu, ac mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod pobl â sgitsoffrenia yn cael cynnig cyfuniad o feddyginiaethau a therapïau siarad.
Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn gweithio drwy helpu person i nodi meddyliau a theimladau nas dymunir a’u newid. Gall mathau eraill o gymorth, megis Therapi Ymyriad Teuluol, fod yn ddefnyddiol iawn hefyd. Mae hyn yn canolbwyntio ar helpu teuluoedd i ddeall sgitsoffrenia, a’r ffordd orau o gefnogi eu perthynas. Mae hefyd yn ceisio nodi a lleihau pethau yn amgylchedd y person, megis pwysau, a all achosi ailwaelu neu rwystro’r gwellhad gorau posibl.
Mewn achosion difrifol, efallai y bydd angen i bobl â sgitsoffrenia dreulio cyfnod yn yr ysbyty nes eu bod yn gwella. Efallai y bydd angen i eraill gale llawer o gymorth yn eu bywydau bob dydd ar sail tymor hwy.
Awgrymiadau i bobl â sgitsoffrenia
- Mae’n bwysig parhau i gymryd eich meddyginiaeth oni bai bod eich meddyg yn eich cynghori fel arall. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n iach, gan fod y feddyginiaeth yn tawelu symptomau. Gall rhoi’r gorau i’r feddyginiaeth arwain at symptomau’n dychwelyd. Gall rhoi’r gorau iddi’n sydyn arwain at effeithiau negyddol eraill hefyd, yn dibynnu ar eich triniaeth benodol.
- Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’ch meddyginiaeth neu ei sgil-effeithiau, siaradwch â’ch meddyg. Mae ffyrdd o reoli’r sgil-effeithiau fel arfer, ond os nad oes, yna mae tabledi eraill ar gael.
- Siaradwch â phobl eraill sydd â phrofiad o sgitsoffrenia. Gall helpu gwybod nad chi yw’r unig un, ac efallai y gallant gynnig cyngor ar sut i reoli’r cyflwr.
- Mae symptomau’n amrywio cryn dipyn rhwng gwahanol bobl. Dysgwch sut i adnabod beth sy’n digwydd pan fyddwch yn sâl a bod yn ymwybodol o’r rhybuddion. Dylai hyn fod yn rhan o’ch cynllun gofal a gall fod yn ddefnyddiol rhannu’r manylion hyn â’ch teulu.
- Siaradwch â’ch meddyg teulu, seiciatrydd, neu fferyllydd cyn cymryd unrhyw gyffuriau tros-y-cownter newydd, a pheidiwch â chymryd rhai anghyfreithlon o gwbl – byddant yn siŵr o wneud pethau’n waeth.
- Ceisiwch gadw mor iach yn gorfforol â phosibl – mae bwyta’n iach, ymarfer corff a chael digon o gwsg hefyd yn dda ar gyfer cadw’n iach yn feddyliol. Gall rhai meddyginiaethau wneud i rywun dewhau fel sgil-effaith, felly cadwch lygad ar eich pwysau ar ôl dechrau triniaeth newydd – dylai’r tîm sy’n edrych ar eich hôl wneud hyn hefyd.
- Gall bod o dan straen ac yna defnyddio alcohol neu gyffuriau er mwyn gwneud i’ch hun deimlo’n well waethygu’r cyflwr a’ch gwneud yn sâl.
- Gall newidiadau i’ch ffordd o fyw, fel rhoi’r gorau i ysmygu, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch iechyd. Os ydych yn bwriadu torri i lawr neu roi’r gorau i ysmygu, gofynnwch am gyngor gan eich meddyg neu dîm iechyd meddwl.
Awgrymiadau i bartneriaid, teuluoedd a gofalwyr
- Gall symptomau sgitsoffrenia fod yn anodd i bartneriaid, teuluoedd a gofalwyr eu deall, felly mae’n bwysig dysgu cymaint ag y gallwch amdano. Dylech ddysgu beth yw’r symptomau ac arwyddion ailwaelu.
- Mae llawer o wybodaeth ar gael ar-lein neu drwy elusennau iechyd meddwl – mae rhai ffynonellau gwybodaeth da wedi’u rhestru ar ddiwedd y daflen hon.
- Ceisiwch feithrin cydberthynas dda â’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n trin y person â sgitsoffrenia. Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau neu rannu eich pryderon â nhw.
- Gwnewch gynllun gyda’r person â sgitsoffrenia fel eich bod yn gwybod beth i’w wneud os bydd yn dangos arwyddion ei fod yn sâl
- Ewch i apwyntiadau gyda’r person â sgitsoffrenia lle bynnag y bo’n bosibl, a’i annog i ofyn cwestiynau dros ei hun.
- Rhowch wybod iddynt eu bod yn gwneud yn dda. Gall ymdopi â sgitsoffrenia fod yn her fawr, a gall agwedd gadarnhaol fod o gymorth mawr.
- Lle y bo’n bosibl ceisiwch wneud pethau gyda’r person yn hytrach na throstyn nhw. Bydd hyn yn ei helpu i fod yn annibynnol ac yn ei rymuso i wneud pethau dros ei hun.
Resources
Daflen NCMH: Schizophrenia
onny Benjamin yn herio arbenigwr
Neurogeneticist Professor Mick O’Donovan led the biggest genetic study of schizophrenia ever conducted, shedding new light on the biological cause of the condition. Mental health campaigner Jonny Benjamin, who lives with schizoaffective disorder, made the journey from London to Cardiff University’s Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics to find out what the findings mean. Here, Jonny recounts the conversation.
Arweiniodd y Niwrogenetydd, yr Athro Mick O’Donovan yr astudiaeth geneteg fwyaf ar sgitsoffrenia a gynhaliwyd erioed, gan arwain at ddealltwriaeth newydd o ran achos biolegol y cyflwr. Teithiodd yr ymgyrchwr iechyd meddwl Jonny Benjamin, sy’n byw gydag anhwylder sgitso-affeithiol, o Lundain i Ganolfan ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig yng Nghaerdydd, i ddysgu mwy am yr hyn y mae’r canfyddiadau yn ei olygu. Yma, mae Jonny yn sôn am y sgwrs honno.
Gwefannau defnyddiol
- Hafal
- Mind
- Rethink
- Royal College of Psychiatrists
- The National Institute of Mental Health (USA)
- Hwb yr Ymennydd a Genomeg
Rydym yn gweithio gyda Hwb yr Ymennydd a Genomeg i adeiladu cymuned o 600 o bobl sydd â phrofiad o fyw â sgitsoffrenia. Ewch i wefan y Hub i ddarganfod mwy I gael rhagor o wybodaeth am waith parhaus i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer salwch meddwl difrifo.

